Doethineb Solomon 7 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 7

1Dyn marwol ydwyf finnau, un fodd â phawb eraill, ac yn dyfod o hiliogaeth yr hwn a luniwyd gyntaf o’r ddaear;

2Ac yng nghroth fy mam y’m lluniwyd yn gnawd, o fewn amser deng mis, gan geulo o had gŵr mewn gwaed, ac o drythyllwch yn dyfod ynghyd â chwsg.

3A phan y’m ganwyd, mi a dynnais ataf yr awyr cyffredin i ni, ac a syrthiais ar y ddaear, yr hon sydd o’r un naturiaeth; yn wylofain y rhoddais i y llais cyntaf, fel pawb eraill.

4Mewn cawiau, a thrwy ofal, y’m magwyd.

5Ni chafodd un brenin amgen dechreuad i’w enedigaeth.

6Un fath ddyfodiad i fywyd sydd i bawb, ac un fath fynediad allan.

7Am hynny mi a weddïais, ac fe a roddwyd i mi ddeall; mi a waeddais, ac fe ddaeth ysbryd doethineb ataf.

8Mi a’i cyfrifais hi yn well na theyrnwiail ac na gorseddfeydd: ac ni chyfrifais olud yn ddim wrth gyffelybiaeth iddi.

9Ni chyffelybais i faen gwerthfawr iddi hi: canys greyenyn bychan yw pob aur yn ei golwg hi, ac fel clai y cyfrifir arian o’i blaen hi.

10Mi a’i hoffais hi yn fwy nag iechyd, ac na thegwch; ac mi a arfaethais ei chael hi yn lle goleuni: oblegid ni fachluda’r llewyrch a ddaw ohoni hi.

11Pob daioni a ddaeth i mi gyda hi, a golud annifeiriol yn ei dwylo hi.

12Ac mi a lawenychais am bob un, am fod doethineb yn eu blaenori hwynt: ond ni wyddwn i mai hi oedd eu mam hwynt.

13Yn ddidwyll y dysgais, ac yn ddigenfigen yr ydwyf yn cyfrannu, heb gelu ei golud hi.

14Diball drysor yw hi i ddynion: pwy bynnag a’i harfero, y maent hwy yn ymgyfeillach â Duw, gan fod yn ganmoladwy trwy’r doniau a gaer trwy addysg.

15Duw a roddes i mi ddywedyd yn ôl fy meddwl, a meddwl yn addas am y pethau a roddwyd: oblegid efe yw pob un o’r ddau, awdur doethineb, a chyfarwyddwr y doethion.

16Yr ydym ni a’n geiriau yn ei law ef: felly y mae pob deall, a gwybodaeth gwaith.

17Canys efe a roddes i mi wybodaeth ddigelwydd am y pethau sydd, i wybod cyfansoddiad y byd, a grym yr elfennau;

18Dechrau, diwedd, a chanol amserau; newid moddion yr haul, a chyfnewid tymhorau;

19Amgylchiad y flwyddyn, a gosodiad y sêr;

20Naturiaethau anifeiliaid, llid bwystfilod, nerth gwyntoedd, ac ymresymau dynion, rhagoriaeth planhigion, a rhinweddau gwraidd;

21Beth bynnag sydd, nac yn ddirgel, nac yn amlwg, mi a’i gwn.

22Oblegid doethineb, yr hon a wnaeth y cwbl, a’m dysgodd i: oherwydd y mae ynddi hi ysbryd deallgar, sanctaidd, unig, amryw, tenau, cyflym, disglair, dihalog, eglur, annioddefadwy, yn hoffi daioni, yn llym, heb allu ei atal, yn barod i wneuthur daioni,

23Yn caru dyn, yn ddianwadal, yn sicr, yn ddiofal, yn hollalluog, yn edrych am bob peth, ac yn myned trwy bob ysbryd deallgar, pur, ac o’r teneuaf.

24Bywiocach yw doethineb na dim bywiog; hi a â ac a dreiddia trwy bob peth, oherwydd ei phured.

25Canys angerdd gallu Duw yw hi, a ffrwd bur oddi wrth ogoniant yr Hollalluog: am hynny ni syrth dim halogedig iddi hi.

26Canys disgleirdeb y goleuni tragwyddol yw hi, difrycheulyd ddrych gweithrediad Duw, a delw ei ddaioni ef.

27Er nad yw hi ond un, hi a ddichon bob dim; ac yn aros ynddi ei hun y mae hi yn adnewyddu pob dim; a thrwy’r oesoedd yn disgyn i’r eneidiau sanctaidd, y mae hi yn eu gwneuthur yn garedigion ac yn broffwydi i Dduw;

28Oblegid nid hoff gan Dduw neb, ond yr hwn a gyfanheddo gyda doethineb:

29Oblegid y mae hi yn decach na’r haul, ac yn uwch na gosodiad y sêr: os cystedlir hi â’r goleuni, gorau y ceir hi;

30Canys y nos a ddaw ar ei ôl ef, ond ni orchfyga drygioni mo ddoethineb.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help