Y Salmau 38 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 38Salm Dafydd, er coffa.

1 ARGLWYDD, na cherydda fi yn dy lid: ac na chosba fi yn dy ddicllonedd.

2Canys y mae dy saethau ynglŷn ynof, a’th law yn drom arnaf.

3Nid oes iechyd yn fy nghnawd, oherwydd dy ddicllonedd; ac nid oes heddwch i’m hesgyrn, oblegid fy mhechod.

4Canys fy nghamweddau a aethant dros fy mhen: megis baich trwm y maent yn rhy drwm i mi.

5Fy nghleisiau a bydrasant ac a lygrasant, gan fy ynfydrwydd.

6Crymwyd a darostyngwyd fi yn ddirfawr: beunydd yr ydwyf yn myned yn alarus.

7Canys fy lwynau a lanwyd o ffieiddglwyf; ac nid oes iechyd yn fy nghnawd.

8Gwanhawyd, a drylliwyd fi yn dra mawr: rhuais gan aflonyddwch fy nghalon.

9O’th flaen di, ARGLWYDD, y mae fy holl ddymuniad; ac ni chuddiwyd fy uchenaid oddi wrthyt.

10Fy nghalon sydd yn llamu; fy nerth a’m gadawodd; a llewyrch fy llygaid nid yw chwaith gennyf.

11Fy ngharedigion a’m cyfeillion a safent oddi ar gyfer fy mhla; a’m cyfneseifiaid a safent o hirbell.

12Y rhai hefyd a geisient fy einioes, a osodasent faglau; a’r rhai a geisient fy niwed, a draethent anwireddau, ac a ddychmygent ddichellion ar hyd y dydd.

13A minnau fel byddar ni chlywn; eithr oeddwn fel mudan heb agoryd ei enau.

14Felly yr oeddwn fel gŵr ni chlywai, ac heb argyhoeddion yn ei enau.

15Oherwydd i mi obeithio ynot, ARGLWYDD; ti, ARGLWYDD fy NUW, a wrandewi.

16Canys dywedais, Gwrando fi, rhag llawenychu ohonynt i’m herbyn: pan lithrai fy nhroed, ymfawrygent i’m herbyn.

17Canys parod wyf i gloffi, a’m dolur sydd ger fy mron yn wastad.

18Diau y mynegaf fy anwiredd, ac y pryderaf oherwydd fy mhechod.

19Ac y mae fy ngelynion yn fyw, ac yn gedyrn: amlhawyd hefyd y rhai a’m casânt ar gam.

20A’r rhai a dalant ddrwg dros dda, a’m gwrthwynebant; am fy mod yn dilyn daioni.

21Na ad fi, O ARGLWYDD: fy NUW, nac ymbellha oddi wrthyf.

22Brysia i’m cymorth, O ARGLWYDD fy iachawdwriaeth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help