2 Brenhinoedd 20 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Yn y dyddiau hynny y clafychodd Heseceia hyd farw: ac Eseia y proffwyd mab Amos a ddaeth ato, ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, Trefna dy dŷ; canys marw fyddi, ac ni byddi byw.

2Yna efe a drodd ei wyneb at y pared, ac a weddïodd at yr ARGLWYDD, gan ddywedyd,

3Atolwg, ARGLWYDD, cofia yr awr hon i mi rodio ger dy fron di mewn gwirionedd, ac â chalon berffaith, a gwneuthur ohonof yr hyn oedd dda yn dy olwg di. A Heseceia a wylodd ag wylofain mawr.

4A chyn myned o Eseia allan i’r cyntedd canol, daeth gair yr ARGLWYDD ato, gan ddywedyd,

5Dychwel, a dywed wrth Heseceia blaenor fy mhobl i, Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Dafydd dy dad, Clywais dy weddi di, gwelais dy ddagrau; wele fi yn dy iacháu di; y trydydd dydd yr ei di i fyny i dŷ yr ARGLWYDD.

6A mi a chwanegaf at dy ddyddiau di bymtheng mlynedd, ac a’th waredaf di a’r ddinas hon o law brenin Asyria: diffynnaf hefyd y ddinas hon er fy mwyn fy hun, ac er mwyn Dafydd fy ngwas.

7A dywedodd Eseia, Cymerwch swp o ffigys. A hwy a gymerasant, ac a’i gosodasant ar y cornwyd, ac efe a aeth yn iach.

8A Heseceia a ddywedodd wrth Eseia, Pa arwydd fydd yr iachâ yr ARGLWYDD fi, ac yr af fi i fyny i dŷ yr ARGLWYDD y trydydd dydd?

9Ac Eseia a ddywedodd, Hyn fydd i ti yn argoel oddi wrth yr ARGLWYDD, y gwna yr ARGLWYDD y gair a lefarodd efe: A â y cysgod ddeg o raddau ymlaen, neu a ddychwel efe ddeg o raddau yn ôl?

10A Heseceia a ddywedodd, Hawdd yw i’r cysgod ogwyddo ddeg o raddau: nid felly, ond dychweled y cysgod yn ei ôl ddeg o raddau.

11Ac Eseia y proffwyd a lefodd ar yr ARGLWYDD: ac efe a drodd y cysgod ar hyd y graddau, ar hyd y rhai y disgynasai efe yn neial Ahas, ddeg o raddau yn ei ôl.

12Yn yr amser hwnnw yr anfonodd Berodach-baladan, mab Baladan brenin Babilon, lythyrau ac anrheg at Heseceia: canys efe a glywsai fod Heseceia yn glaf.

13A Heseceia a wrandawodd arnynt, ac a ddangosodd iddynt holl dŷ ei drysor, yr arian, a’r aur, a’r peraroglau, a’r olew gorau, a holl dŷ ei arfau, a’r hyn oll a gafwyd yn ei drysorau ef: nid oedd dim yn ei dŷ ef, nac yn ei holl gyfoeth ef, a’r nas dangosodd Heseceia iddynt.

14Yna Eseia y proffwyd a ddaeth at y brenin Heseceia, ac a ddywedodd wrtho, Beth a ddywedodd y gwŷr hyn? ac o ba le y daethant atat ti? A dywedodd Heseceia, O wlad bell y daethant hwy, sef o Babilon.

15Yntau a ddywedodd, Beth a welsant hwy yn dy dŷ di? A dywedodd Heseceia, Yr hyn oll oedd yn fy nhŷ i a welsant hwy: nid oes dim yn fy nhrysorau i nas dangosais iddynt hwy.

16Ac Eseia a ddywedodd wrth Heseceia, Gwrando air yr ARGLWYDD.

17Wele y dyddiau yn dyfod, pan ddyger i Babilon yr hyn oll sydd yn dy dŷ di, a’r hyn a gynilodd dy dadau hyd y dydd hwn: ni adewir dim, medd yr ARGLWYDD.

18Cymerant hefyd o’th feibion di, y rhai a ddaw allan ohonot, y rhai a genhedli di, a hwy a fyddant yn ystafellyddion yn llys brenin Babilon.

19Yna Heseceia a ddywedodd wrth Eseia, Da yw gair yr ARGLWYDD, yr hwn a leferaist. Dywedodd hefyd, Onid da os bydd heddwch a gwirionedd yn fy nyddiau i?

20A’r rhan arall o hanes Heseceia, a’i holl rym ef, ac fel y gwnaeth efe y llyn, a’r pistyll, ac y dug efe y dyfroedd i’r ddinas, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?

21A Heseceia a hunodd gyda’i dadau: a Manasse ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help