1Yna y cododd Eleias y proffwyd fel tân, a’i air ef a losgai fel llusern.
2Yr hwn a ddug arnynt hwy newyn mawr, a thrwy ei sêl a’u gwnaeth hwy yn ychydig.
3Efe a gaeodd y nefoedd trwy air yr Arglwydd; a thair gwaith y dug efe dân i waered.
4O Eleias, mor ogoneddus fuost ti yn dy ryfeddodau! a phwy a ddichon ymffrostio fel tydi!
5Yr hwn a gyfodaist y marw o farwolaeth, a dyn o’r bedd, trwy air y Goruchaf;
6Yr hwn a ddygaist frenhinoedd i ddinistr, a phendefigion o’u heisteddfa;
7Yr hwn a glywaist gerydd yr Arglwydd yn Sinai, a barnedigaethau dialedd yn Horeb;
8Yr hwn a eneiniodd frenhinoedd i dalu’r pwyth, a phroffwydi i ddilyn ar ei ôl ef;
9Yr hwn a godwyd i fyny mewn trowynt o dân, ac mewn cerbyd meirch tanllyd;
10Yr hwn a ordeiniwyd i geryddu mewn pryd, ac i ostegu dicter barn yr Arglwydd, cyn iddo dorri allan yn llid; ac i droi calon y tad at y mab, ac i gyweirio llwythau Jacob.
11Gwyn eu byd hwy a’th welsant di, ac a hunasant mewn cariad: canys nyni a fyddwn byw yn ddiau.
12Eleias a orchuddiwyd â throwynt; ac Eliseus a lanwyd â’i ysbryd ef: ni syflodd efe er tywysogion yn ei ddyddiau, ac ni allodd neb ei ddarostwng ef.
13Ni orchfygodd dim ef: ac wedi ei huno, ei gorff ef a broffwydodd.
14Efe a wnaeth ryfeddodau yn ei fywyd; ac yn ei ddiwedd, rhyfedd oedd ei weithredoedd ef.
15Er hyn oll ni chymerodd y bobl edifeirwch, ac ni chiliasant oddi wrth eu pechodau, hyd oni chaethgludwyd hwynt o’u gwlad, a’u gwasgaru ym mhob gwlad: eto gadawyd ychydig bobl, a thywysog yn nhŷ Ddafydd.
16Rhai ohonynt a wnaethant yr hyn oedd yn rhyglyddu bodd i Dduw, a rhai a wnaethant lawer o bechodau.
17Eseceias a gadarnhaodd ei ddinas, ac a ddug ddwfr i’w chanol hi: efe a gloddiodd y graig â haearn, ac a wnaeth ffynhonnau i’r dwfr.
18Yn ei ddyddiau ef y daeth Senacherib i fyny, ac a anfonodd Rabsaces o Lachis, ac a ddyrchafodd ei law yn erbyn Seion, ac a ymffrostiodd yn ei falchder.
19Yna y crynodd eu calonnau a’u dwylo hwynt, ac yr ymofidiasant fel gwragedd yn esgor.
20Ond hwy a alwasant ar yr Arglwydd trugarog, gan estyn eu dwylo ato ef; a’r Sanctaidd a’u gwrandawodd hwy o’r nefoedd, ac a’u gwaredodd trwy law Esay.
21Efe a drawodd lu yr Asyriaid, a’i angel ef a’u dinistriodd hwynt.
22Oblegid Eseceias a wnaethai yr hyn oedd fodlon gan yr Arglwydd, ac a ddilynodd ffyrdd Dafydd ei dad yn lew, fel y gorchmynasai y proffwyd Esay, yr hwn oedd fawr a pharchedig yn ei olwg ef.
23Yn ei ddyddiau ef yr aeth yr haul yn ei ôl; ac efe a estynnodd hoedl y brenin.
24Trwy ysbryd godidog y gwelodd efe y pethau a fyddent yn y diwedd, ac y cysurodd efe y rhai oedd yn galaru yn Seion.
25Efe a ddangosodd y pethau a ddeuai byth, a phethau dirgel cyn eu dyfod.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.