1Esther hefyd y frenhines, wedi i loes angau ei dal hi, a ffodd at yr Arglwydd;
2Ac wedi iddi ddiosg ei gogoneddus wisg, hi a wisgodd wisg cystudd a galar; â lludw hefyd a thom yn lle ennaint balch y llanwodd hi ei phen; a hi a ddarostyngodd ei chorff yn ddirfawr, a’i holl fannau hyfryd a lanwodd hi â’i gwallt wedi ei dynnu:
3A hi a weddïodd ar Arglwydd Dduw Israel, ac a ddywedodd,
4O fy Arglwydd, ein Brenin ni wyt ti yn unig; cynorthwya fi, yr hon ydwyf unig, ac heb gynorthwyydd gennyf ond tydi: oblegid y mae yn enbyd iawn arnaf.
5Mi a glywais er pan y’m ganed, ymysg llwyth fy nghenedl, gymryd ohonot ti, O Arglwydd, Israel o’r holl genhedloedd, a’n tadau ni o’u holl hynafiaid hwynt, yn etifeddiaeth dragwyddol; a gwneuthur ohonot ti iddynt yr hyn a leferaist.
6Ac yn awr, nyni a bechasom yn dy ŵydd di; a thi a’n rhoddaist yn nwylo ein gelynion,
7Am i ni ogoneddu eu duwiau hwynt. Cyfiawn wyt ti, O Arglwydd.
8Ac yr awron nid digon ganddynt chwerwed ein gwasanaeth ni, eithr hwy a drawsant ddwylo â’u heilunod,
9Ar ddiddymu y peth a ddarfu i ti ei ordeinio â’th enau, a dileu dy etifeddiaeth di, a chau safn y rhai sy yn dy foliannu, a diffoddi gogoniant dy dŷ di a’th allor,
10Ac agoryd genau’r cenhedloedd i gyhoeddi rhinweddau pethau ofer, ac i fawrygu brenin cnawdol byth.
11Na ddod Arglwydd, dy deyrnwialen i’r rhai nid ydynt ddim; ac na ad iddynt chwerthin am ein cwymp ni: eithr tro eu cyngor yn eu herbyn eu hun, a difetha yr hwn a ddechreuodd arnom ni.
12Cofia, Arglwydd; pâr dy adnabod yn amser ein cystudd ni: cysura fi, O Frenin y cenhedloedd, a llywydd pob tywysogaeth.
13Dod yn fy ngenau ymadrodd cymwys gerbron y llew, a thro ei galon ef i gasáu yr hwn sydd yn ein gwrthwynebu ni, er dinistr iddo ef, ac i’r rhai sy’n debyg eu meddwl iddo yntau:
14Ie, gwared ni â’th law, a chynorthwya fi, yr hon ydwyf unig, ac heb gynorthwyydd gennyf ond tydi.
15O Arglwydd, ti a wyddost bob dim: ti a wyddost mai cas gennyf ogoniant y rhai anwir, a bod yn ffiaidd gennyf wely y rhai dienwaededig, a phob dieithr.
16Ti a wyddost beth sydd raid i mi; a bod yn ffiaidd gennyf arwydd fy malchder, yr hwn sydd ar fy mhen, ar y dyddiau yr ymddangoswyf, a bod mor ffiaidd gennyf ef â chadach misglwyf: ac nad ydwyf yn ei wisgo ef ar y dyddiau yr wyf yn cael llonydd;
17Ac na fwytaodd dy wasanaethyddes ar fwrdd Aman; ac nad anrhydeddais wledd y brenin, ac nad yfais win-offrwm;
18Ac na lawenychodd dy lawforwyn o’r dydd y’m symudwyd hyd yr awr hon, ond ynot ti, O Arglwydd Dduw Abraham.
19O Dduw cadarnach na neb, gwrando lefain y rhai diobaith, a gwared ni o law y drygionus, ie, gwared fi o’m hofn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.