Effesiaid 2 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A chwithau a fywhaodd efe, pan oeddech feirw mewn camweddau a phechodau;

2Yn y rhai y rhodiasoch gynt yn ôl helynt y byd hwn, yn ôl tywysog llywodraeth yr awyr, yr ysbryd sydd yr awron yn gweithio ym mhlant anufudd-dod;

3Ymysg y rhai hefyd y bu ein hymarweddiad ni oll gynt, yn chwantau ein cnawd, gan wneuthur ewyllysiau y cnawd a’r meddyliau; ac yr oeddem ni wrth naturiaeth yn blant digofaint, megis eraill.

4Eithr Duw, yr hwn sydd gyfoethog o drugaredd, oherwydd ei fawr gariad trwy yr hwn y carodd efe ni,

5Ie, pan oeddem feirw mewn camweddau, a’n cydfywhaodd ni gyda Christ, (trwy ras yr ydych yn gadwedig;)

6Ac a’n cydgyfododd, ac a’n gosododd i gydeistedd yn y nefolion leoedd yng Nghrist Iesu:

7Fel y gallai ddangos yn yr oesoedd a ddeuai, ragorol olud ei ras ef, trwy ei gymwynasgarwch i ni yng Nghrist Iesu.

8Canys trwy ras yr ydych yn gadwedig, trwy ffydd; a hynny nid ohonoch eich hunain: rhodd Duw ydyw:

9Nid o weithredoedd, fel nad ymffrostiai neb.

10Canys ei waith ef ydym, wedi ein creu yng Nghrist Iesu i weithredoedd da, y rhai a ragddarparodd Duw, fel y rhodiem ni ynddynt.

11Am hynny cofiwch, a chwi gynt yn Genhedloedd yn y cnawd, y rhai a elwid yn ddienwaediad, gan yr hyn a elwir enwaediad o waith llaw yn y cnawd;

12Eich bod chwi y pryd hwnnw heb Grist, wedi eich dieithrio oddi wrth wladwriaeth Israel, ac yn estroniaid oddi wrth amodau’r addewid, heb obaith gennych, ac heb Dduw yn y byd:

13Eithr yr awron yng Nghrist Iesu, chwychwi, y rhai oeddech gynt ymhell, a wnaethpwyd yn agos trwy waed Crist.

14Canys efe yw ein tangnefedd ni, yr hwn a wnaeth y ddau yn un, ac a ddatododd ganolfur y gwahaniaeth rhyngom ni:

15Ac a ddirymodd trwy ei gnawd ei hun y gelyniaeth, sef deddf y gorchmynion mewn ordeiniadau, fel y creai’r ddau ynddo’i hun yn un dyn newydd, gan wneuthur heddwch;

16Ac fel y cymodai’r ddau â Duw yn un corff trwy’r groes, wedi lladd y gelyniaeth trwyddi hi.

17Ac efe a ddaeth, ac a bregethodd dangnefedd i chwi’r rhai pell, ac i’r rhai agos.

18Oblegid trwyddo ef y mae i ni ein dau ddyfodfa mewn un Ysbryd at y Tad.

19Weithian gan hynny nid ydych chwi mwyach yn ddieithriaid a dyfodiaid, ond yn gyd-ddinasyddion â’r saint, ac yn deulu Duw;

20Wedi eich goruwchadeiladu ar sail yr apostolion a’r proffwydi, ac Iesu Grist ei hun yn benconglfaen;

21Yn yr hwn y mae’r holl adeilad wedi ei chymwys gydgysylltu, yn cynyddu’n deml sanctaidd yn yr Arglwydd:

22Yn yr hwn y’ch cydadeiladwyd chwithau yn breswylfod i Dduw trwy’r Ysbryd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help