1Gwae dydi, Babilon, ac Asia! gwae dydi, yr Aifft, a Syria!
2Ymwregyswch â lliain sach ac â rhawn, galerwch dros eich plant, byddwch drist: canys eich distryw sydd gerllaw.
3Cleddyf a ddanfonwyd arnoch, a phwy a’i try ef yn ei ôl?
4Tân a ddanfonwyd yn eich plith, a phwy a’i diffydd ef?
5Dialeddau a ddanfonwyd atoch, a phwy a’u gyr hwy ymaith?
6A all neb yrru ymaith y llew newynog yn y coed? neu a all neb ddiffodd tân pan ddechreuo gynnau yn y sofl?
7A all un droi yn ei hôl y saeth a saethodd perchen bwa cryf?
8Y galluog Arglwydd sydd yn danfon y dialeddau, a phwy yw hwn a’u gyr hwy ymaith?
9Tân a â allan oddi wrth ei lid, a phwy yw efe a’i diffydd?
10Efe a deifl fellt, a phwy nid ofna? efe a darana, a phwy ni ddychryn?
11Duw a fygwth, a phwy ni wneir yn friwsion ger ei fron ef?
12Y ddaear a gryna, a’i sylfeini; y môr a gyfyd ei donnau o’r dyfnder, a’i donnau sy derfysgus, a’r pysgod hefyd gerbron yr Arglwydd, ac o flaen gogoniant ei allu ef.
13Canys cref yw deheulaw’r hwn sydd yn anelu’r bwa; a’r saethau a saetha efe sydd lymion, ac ni fetha ganddynt pan ddechreuer eu saethu hwynt i eithaf byd.
14Wele, y dialeddau a ddanfonwyd, ac ni ddychwelant nes eu dyfod ar y ddaear.
15Y tân a gyneuwyd, ac nis diffoddir ef, nes iddo losgi sylfeini’r ddaear.
16Fel na ddychwel y saeth, yr hon a saetho perchen bwa cryf; felly ni ddychwel y dialeddau a ddanfonir ar y ddaear.
17Gwae fi! gwae fi! pwy a’m gweryd yn y dyddiau hynny?
18Dechreuad tristwch a galar mawr; dechreuad newyn a marwolaeth fawr; dechreuad rhyfeloedd, a’r galluoedd a ofnant; dechreuad drygau: beth a wnaf fi yn hyn pan ddêl y drygau hyn?
19Wele, newyn a phla, blinder a chyni, a ddanfonwyd fel ffrewyllau i beri gwellhau.
20Ond er hyn i gyd ni throant oddi wrth eu hanwireddau, ac ni feddyliant bob amser am y ffrewyllau.
21Wele, bwyd a diod a fydd mor rhad ar y ddaear, fel y tybygant eu bod wrth eu bodd; a’r pryd hynny y daw drygau ar y ddaear, cleddyf, newyn, a thrallod mawr.
22Canys llawer o’r rhai sy’n trigo ar y ddaear a fyddant feirw o newyn, a’r lleill a ddihango rhag y newyn, y cledd yf a’u difetha.
23A’r meirw a deflir allan fel tail, ac ni bydd neb i’w cysuro hwynt: canys y ddaear a anrheithir, a’r dinasoedd a fwrir i lawr.
24Ni adewir neb i lafurio’r ddaear, ac i’w hau.
25Y prennau a roddant ffrwyth, a phwy a’u cynaeafa hwy?
26Y grawnwin a aeddfedant, a phwy a’u sathr? canys pob man a fydd yn ddi-bobl,
27Fel y dymuno’r naill ŵr weled y llall, neu glywed ei leferydd ef:
28Canys o ddinas y gadewir deg, a dau o’r maes, y rhai a ymguddiant yn y tewgoed ac yn ogofeydd y creigiau;
29Fel ped fai dair neu bedair o olifaid wedi eu gadael ar bob pren mewn perllan olewydd,
30Neu fel pan gasgler gwinllan, y rhai a chwiliant y winllan yn ddyfal a adawant rai o’r grawnwin yn eu hôl:
31Felly yn y dyddiau hynny y gedy’r rhai a chwilio eu tai hwy â’r cleddyf, dri neu bedwar ohonynt.
32A’r ddaear a adewir yn anghyfannedd, a’i meysydd a heneiddiant, a’i ffyrdd a’i holl lwybrau a dyfant yn llawn o ddrain, am nad ymdeithia neb trwyddynt.
33Y morynion ieuainc a alarant heb briodfeibion iddynt, y gwragedd a wnânt gwynfan heb eu gwŷr, a’u merched a alarant, am nad oes amddiffynwyr iddynt.
34Yn y rhyfel y difethir eu priod hwy, a’u gwŷr hwy a fydd feirw o newyn.
35Ond chwychwi wasanaethwyr yr Arglwydd, gwrandewch y pethau hyn, a deellwch hwynt.
36Wele air yr Arglwydd, derbyniwch ef; na chredwch mo’r duwiau, am y rhai y dywedodd yr Arglwydd.
37Wele’r dialeddau yn nesáu, ac ni oedant ddyfod.
38Fel gwraig wrth esgor, yr hon a ddwg ei mab ymhen y nawmis, pan ddêl yr amser i esgor, poen a ddaw ar ei chroth, ddwy awr neu dair o’r blaen; yr hwn wrth ddyfod yr etifedd i’r byd ni oeda ronyn:
39Felly nid oeda’r dialeddau ddyfod ar y ddaear; a’r byd a alara, a thristwch a ddaw arno o bob parth.
40O fy mhobl, gwrandewch arnaf, ymbaratowch i’r rhyfel, a byddwch yn y drygau hynny, fel pererinion ar y ddaear.
41Yr hwn a wertho, bydded fel un yn ffoi ymaith; a’r hwn sydd yn prynu, bydded fel un a gyll;
42A’r hwn a farsiandïo, bydded fel un heb ennill; a’r hwn a adeilado, fel un heb gael trigo ynddo;
43Yr hwn a heuo, bydded fel yr hwn nis medo; yr hwn a blanno winllan, fel yr hwn ni chasgl y grawnwin;
44Y rhai a briodant, byddant fel rhai ni chânt blant; a’r rhai ni phriodant, fel gweddwon.
45Am hynny y rhai a lafuriant, a lafuriant yn ofer;
46Canys dieithriaid a fedant eu ffrwythau hwynt, ac a sglyfaethant eu da hwynt, ac a fwriant i lawr eu tai, ac a gaethgludant eu plant: canys mewn caethiwed a newyn yr enillant blant.
47A’r rhai a farsiandïa trwy ysbeilio, po mwyaf y trwsiant eu dinasoedd, eu tai, eu meddiannau, a’u cyrff eu hunain,
48Mwyaf y digiaf finnau wrthynt hwythau am eu pechodau, medd yr Arglwydd.
49Fel y cenfigenna putain wrth wraig onest rinweddol,
50Felly y casâ cyfiawnder anwiredd, pan ymdrwsio hi; ac a’i cyhudda hi yn ei hwyneb, pan ddêl efe’r hwn a’i hamddiffyn ef, yr hwn sydd yn chwilio allan bob pechod ar y ddaear yn ddyfal.
51Ac am hynny na fyddwch debyg iddi hi, nac i’w gweithredoedd:
52Canys cyn pen nemor o ennyd, anwiredd a dynnir ymaith oddi ar y ddaear, a chyfiawnder a lywodraetha yn eich plith chwi.
53Na ddyweded y pechadur na phechodd: canys marwor tanllyd a lysg Duw ar ben yr hwn a ddywedo o flaen Duw a’i ogoniant, Ni phechais.
54Wele, yr Arglwydd a ŵyr holl weithredoedd dynion, eu bwriadau, eu meddyliau, a’u calonnau:
55Canys ni ddywedodd efe ond y gair, Gwneler y ddaear, a hi a wnaethpwyd; Gwneler y nefoedd, a hwy a wnaethpwyd.
56Gan ei air ef y gwnaethpwyd y sêr, ac efe a ŵyr eu rhifedi hwynt.
57Efe a chwilia’r dyfnderoedd, a’u trysor; efe a fesurodd y môr, a’r hyn sydd ynddo.
58Efe a gaeodd y môr yng nghanol y dyfroedd, ac â’i air y crogodd efe’r ddaear ar y dyfroedd.
59Efe a daena’r nefoedd fel cronglwyd, ac ar y dyfroedd y sicrhaodd efe hi.
60Yn y diffeithwch y gwnaeth efe ffynhonnau o ddwfr, a llynnoedd ar bennau’r mynyddoedd, fel y gallai’r afonydd dywallt i lawr oddi ar y creigiau uchel, i ddyfrhau’r ddaear.
61Efe a wnaeth ddyn, ac a osododd ei galon ef yng nghanol ei gorff, ac a roddes iddo anadl, einioes, a deall,
62Ie, ac Ysbryd yr hollalluog Dduw, yr hwn a wnaeth bob peth, ac sydd yn chwilio allan bob peth cuddiedig yn nirgel leoedd y ddaear.
63Efe a ŵyr yn ddiau eich dychmygion chwi, a pha beth yw eich meddwl yn eich calon, pan bechoch, a phan fynnoch guddio eich pechodau.
64Am hynny y chwiliodd yr Arglwydd eich holl weithredoedd chwi allan yn fanwl, ac efe a’ch cywilyddia chwi oll.
65A phan ddyger eich pechodau chwi allan, bydd cywilydd arnoch o flaen dynion, a’ch pechodau eich hunain a’ch cyhudda yn y dydd hwnnw.
66Pa beth a wnewch chwi? neu pa fodd y cuddiwch chwi eich pechodau o flaen Duw a’i angylion?
67Wele, Duw ei hun sydd Farnwr; ofnwch ef: peidiwch â phechu, a gollyngwch dros gof eich anwireddau, na fydded i chwi a wneloch mwy â hwynt byth; felly yr arwain Duw chwi allan, ac a’ch gwared chwi oddi wrth bob blinder.
68Canys wele, digofaint tanllyd lliaws mawr a gyneuwyd arnoch chwi, a hwy a ddygant ymaith rai ohonoch, ac a’ch porthant yn segur â phethau a offrymwyd i eilunod.
69A’r rhai a gytunant â hwynt a watworir, a ddiystyrir, ac a sethrir dan draed:
70Canys fe fydd ym mhob lle, ac yn y dinasoedd nesaf, lawer yn codi i fyny yn erbyn y rhai a ofnant yr Arglwydd.
71Hwy a fyddant fel gwŷr ynfydion, heb arbed neb, eithr yn anrheithio ac yn dinistrio’r rhai a fyddo’n ofni’r Arglwydd.
72Canys hwy a anrheithiant, ac a ddygant eu da oddi arnynt, ac a’u bwriant allan o’u tai.
73Yna y ceir gwybod pwy yw fy etholedigion i; a phrofir hwynt fel yr aur yn y tân.
74Gwrandewch, fy anwylyd, medd yr Arglwydd: Wele, dyddiau’r helbul sy gerllaw; ond mi a’ch gwaredaf chwi rhagddynt.
75Nac ofnwch, ac na amheuwch; canys Duw yw eich tywysog chwi,
76A thywysog y rhai a gadwant fy ngorchmynion a’m deddfau, medd yr Arglwydd Dduw: na phwysed eich pechodau chwi i lawr, ac nac ymddyrchafed eich anwireddau.
77Gwae’r rhai sy’n rhwym gan eu pechodau, ac wedi eu gorchuddio â’u hanwireddau, fel maes wedi ei gau â pherthi, a’i lwybr wedi ei guddio â drain fel na allo neb fyned y ffordd honno!
78Caewyd ef i fyny, a bwriwyd ef i’r tân yn dragwyddol i’w ddifetha.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.