1Coffadwriaeth Joseias fydd fel cymysg arogl-darth trwy gyfarwydd waith yr apothecari: melys ydyw fel y mêl ym mhob genau, ac fel cerdd mewn gwledd o win.
2Efe a gafodd rwydd-deb yn troi’r bobl, ac a ddug ymaith ffieidd-dra anwiredd.
3Efe a gyfeiriodd ei galon at yr Arglwydd, ac a gadarnhaodd dduwioldeb yn amser pechaduriaid.
4Pawb ond Dafydd, Eseceias, a Joseias, a wnaethant fai; canys hwy a adawsant gyfraith y Goruchaf; brenhinoedd Jwda hefyd a ballasant.
5Yntau a roddes eu corn hwynt i arall, a’u gogoniant i genedl ddieithr.
6Hwy a losgasant ddinas etholedig y cysegr, ac a anrheithiasant ei heolydd hi, yn ôl proffwydoliaeth Jeremeias.
7Canys ei gystuddio ef a wnaethant, ac yntau wedi ei sancteiddio yn broffwyd o groth ei fam, i ddiwreiddio, a niweidio, a difetha; felly hefyd i adeiladu, ac i blannu.
8Eseciel yntau a welodd weledigaeth ogoneddus, yr hon a ddangoswyd iddo ar gerbyd y ceriwbiaid.
9Efe a gofiodd y gelynion yn y gafod, ac a gyfarwyddodd y rhai uniawn eu ffyrdd.
10Felly bendigedig fyddo coffadwriaeth y deuddeg proffwyd, ac ireiddier eu hesgyrn o’u lle: canys hwy a gysurasant Jacob, ac a’u gwaredasant â gobaith sicr.
11Pa fodd y mawrygwn ni Sorobabel? yntau oedd megis sêl ar y llaw ddeau:
12Felly Jesus fab Josedec: y rhai yn eu dyddiau a adeiladasant y tŷ, ac a gyfodasant deml sanctaidd i’r Arglwydd, yr hon a ddarparwyd yn ogoniant tragwyddol.
13Nehemeias hefyd oedd o’r rhai etholedig, am yr hwn y mae mawr goffa; yr hwn a gododd i ni y caerau a syrthiasai, ac a osododd i fyny y pyrth a’r barrau, ac a gyfododd ein tai ni.
14Ni chrewyd ar y ddaear fath Enoch: canys efe a gyfodwyd i fyny oddi ar y ddaear.
15Ac ni bu y fath ŵr â Joseff, yr hwn oedd bennaeth ar ei frodyr, a chynhaliwr y bobl, yr hwn yr edrychodd yr Arglwydd am ei esgyrn.
16Sem a Seth a gawsant barch gan ddynion: ac Adda oedd yn y greadwriaeth goruwch pob peth byw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
