1A’r ARGLWYDD a ymwelodd â Sara fel y dywedasai, a gwnaeth yr ARGLWYDD i Sara fel y llefarasai.
2Oherwydd Sara a feichiogodd, ac a ymddûg i Abraham fab yn ei henaint, ar yr amser nodedig y dywedasai DUW wrtho ef.
3Ac Abraham a alwodd enw ei fab a anesid iddo (yr hwn a ymddygasai Sara iddo ef) Isaac.
4Ac Abraham a enwaedodd ar Isaac ei fab, yn wyth niwrnod oed; fel y gorchmynasai DUW iddo ef.
5Ac Abraham oedd fab can mlwydd, pan anwyd iddo ef Isaac ei fab.
6A Sara a ddywedodd, Gwnaeth DUW i mi chwerthin; pob un a glywo a chwardd gyda mi.
7Hi a ddywedodd hefyd, Pwy a ddywedasai i Abraham y rhoesai Sara sugn i blant? canys mi a esgorais ar fab yn ei henaint ef.
8A’r bachgen a gynyddodd, ac a ddiddyfnwyd: ac Abraham a wnaeth wledd fawr ar y dydd y diddyfnwyd Isaac.
9A Sara a welodd fab Agar yr Eifftes, yr hwn a ddygasai hi i Abraham, yn gwatwar.
10A hi a ddywedodd wrth Abraham, Bwrw allan y gaethforwyn hon a’i mab; oherwydd ni chaiff mab y gaethes hon gydetifeddu â’m mab i Isaac.
11A’r peth hyn fu ddrwg iawn yng ngolwg Abraham, er mwyn ei fab.
12A DUW a ddywedodd wrth Abraham, Na fydded drwg yn dy olwg am y llanc, nac am dy gaethforwyn; yr hyn oll a ddywedodd Sara wrthyt, gwrando ar ei llais: oherwydd yn Isaac y gelwir i ti had.
13Ac am fab y forwyn gaeth hefyd, mi a’i gwnaf ef yn genhedlaeth, oherwydd dy had di ydyw ef.
14Yna y cododd Abraham yn fore, ac a gymerodd fara, a chostrel o ddwfr, ac a’i rhoddes at Agar, gan osod ar ei hysgwydd hi hynny, a’r bachgen hefyd, ac efe a’i gollyngodd hi ymaith: a hi a aeth, ac a grwydrodd yn anialwch Beer-seba.
15A darfu’r dwfr yn y gostrel; a hi a fwriodd y bachgen dan un o’r gwŷdd.
16A hi a aeth, ac a eisteddodd ei hunan ymhell ar ei gyfer, megis ergyd bwa: canys dywedasai, Ni allaf fi edrych ar y bachgen yn marw. Felly hi a eisteddodd ar ei gyfer, ac a ddyrchafodd ei llef, ac a wylodd.
17A DUW a wrandawodd ar lais y llanc; ac angel DUW a alwodd ar Agar o’r nefoedd, ac a ddywedodd wrthi, Beth a ddarfu i ti, Agar? nac ofna, oherwydd DUW a wrandawodd ar lais y llanc lle y mae efe.
18Cyfod, cymer y llanc, ac ymafael ynddo â’th law; oblegid myfi a’i gwnaf ef yn genhedlaeth fawr.
19A DUW a agorodd ei llygaid hi, a hi a ganfu bydew dwfr; a hi a aeth, ac a lanwodd y gostrel o’r dwfr, ac a ddiododd y llanc.
20Ac yr oedd DUW gyda’r llanc; ac efe a gynyddodd, ac a drigodd yn yr anialwch, ac a aeth yn berchen bwa.
21Ac yn anialwch Paran y trigodd efe; a’i fam a gymerodd iddo ef wraig o wlad yr Aifft.
22Ac yn yr amser hwnnw, Abimelech, a Phichol tywysog ei lu ef, a ymddiddanasant ag Abraham, gan ddywedyd, DUW sydd gyda thi yn yr hyn oll yr ydwyt yn ei wneuthur.
23Yn awr gan hynny, twng wrthyf fi yma i DDUW, na fyddi anffyddlon i mi, nac i’m mab, nac i’m hŵyr: yn ôl y drugaredd a wneuthum â thi y gwnei di â minnau, ac â’r wlad yr ymdeithiaist ynddi.
24Ac Abraham a ddywedodd, Mi a dyngaf.
25Ac Abraham a geryddodd Abimelech, o achos y pydew dwfr a ddygasai gweision Abimelech trwy drais.
26Ac Abimelech a ddywedodd, Nis gwybûm i pwy a wnaeth y peth hyn: tithau hefyd ni fynegaist i mi, a minnau ni chlywais hynny hyd heddiw.
27Yna y cymerodd Abraham ddefaid a gwartheg, ac a’u rhoddes i Abimelech; a hwy a wnaethant gynghrair ill dau.
28Ac Abraham a osododd saith o hesbinod o’r praidd wrthynt eu hunain.
29Yna y dywedodd Abimelech wrth Abraham, Beth a wna y saith hesbin hyn a osodaist wrthynt eu hunain?
30Ac yntau a ddywedodd, Canys ti a gymeri y saith hesbin o’m llaw, i fod yn dystiolaeth mai myfi a gloddiais y pydew hwn.
31Am hynny efe a alwodd enw y lle hwnnw Beer-seba: oblegid yno y tyngasant ill dau.
32Felly y gwnaethant gynghrair yn Beer-seba: a chyfododd Abimelech, a Phichol tywysog ei lu ef, ac a ddychwelasant i dir y Philistiaid.
33Ac yntau a blannodd goed yn Beer-seba, ac a alwodd yno ar enw yr ARGLWYDD DDUW tragwyddol.
34Ac Abraham a ymdeithiodd ddyddiau lawer yn nhir y Philistiaid.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.