1Nac ystyr berson i bechu, ac na fydded arnat gywilydd am y pethau hyn:
2Sef am gyfraith y Goruchaf, a’i gyfamod, nac am y farn a wnêl i’r annuwiol fod yn gyfiawn;
3Am gyfrif â’th gyfeillion a’th gydymdeithwyr; neu am roddi etifeddiaeth cyfeillion;
4Am fod yn ofalus am gloriannau a phwysau, ac am feddiannu llawer neu ychydig;
5Am uniondeb yn prynu a gwerthu, am geryddu llawer ar blant, ac am dynnu gwaed o ystlys gwas drwg.
6Da yw sêl rhag gwraig ddrwg, a chloi lle y byddo llawer o ddwylo.
7Pan roddech beth at arall, dod dan rif a phwys; dod a derbyn wrth ysgrifen.
8Trwy ddysgu’r annoeth, a’r angall, a’r cleiriach a ymrysono ag ieuenctid, y byddi di wir ddysgedig, a chymeradwy gerbron pob dyn byw.
9Merch a bair i’w thad wylied yn ddirgel; a gofal amdani hi a rwystra ei gwsg ef: rhag iddi nac yn ei hieuenctid fyned dros flodau ei hoedran, na chael ei chasáu wedi gwra;
10Rhag ei halogi yn ei morwyndod, a’i beichiogi yn nhŷ ei thad; ac iddi wneuthur bai pan fyddo gyda gŵr; ac er cytal, fod yn amhlantadwy.
11Cadw yn sicr ferch wamal, rhag iddi dy wneuthur yn wawd i’th elynion, a pheri i’r ddinas sôn amdanat, ac i’r bobl feio arnat, a’th waradwyddo yng ngŵydd y gynulleidfa.
12Nac edrych ar degwch pob dyn, ac nac aros ymysg gwragedd:
13Oblegid o ddillad y daw gwyfyn, a drygioni gwraig o wraig.
14Gwell yw gŵr drygionus na gwraig gymwynasgar, sef gwraig a waradwyddo yn gywilyddus.
15Mi a gofiaf weithredoedd yr Arglwydd, ac a fynegaf yr hyn a welais: yng ngeiriau’r Arglwydd y ceir ei weithredoedd ef.
16Pan oleuo’r haul, efe a oleua ar bob peth; felly y mae ei waith ef yn llawn o ogoniant yr Arglwydd.
17Ni wnaeth yr Arglwydd i’w rai sanctaidd fynegi ei holl ryfeddodau ef, y rhai a sicrhaodd yr Hollalluog, fel y byddai pob peth yn sicr yn ei ogoniant ef.
18Y mae efe yn chwilio allan y dyfnder, a’r galon, ac yn deall eu cyfrwystra hwynt: canys y mae’r Goruchaf yn gwybod pob gwybodaeth, ac yn gweled arwyddion y byd.
19Y mae efe yn mynegi pethau a fuant, a pethau a fyddant; ac yn datguddio ôl pethau dirgel.
20Nid â un meddwl heibio iddo ef, ac ni bydd un gair yn guddiedig oddi wrtho.
21Efe a harddodd fawredd ei ddoethineb; ac y mae efe o dragwyddoldeb i dragwyddoldeb: ni ellir chwanegu ato ef, na thynnu oddi wrtho: nid rhaid iddo ef wrth gyngor neb.
22Mor ddymunol yw ei holl weithredoedd ef! ie, hyd yn oed mewn gwreichionen y gellir gweled hyn.
23Y mae y rhai hyn oll yn byw ac yn parhau byth; ac wrth bob rhaid y maent hwy yn ufuddhau oll.
24Y maent hwy oll yn ddauddyblyg, y naill ar gyfer y llall; ac ni wnaeth efe ddim â diffyg arno.
25Y mae y naill yn sicrhau daioni’r llall: a phwy a gaiff ddigon o edrych ar ei ogoniant ef?
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.