Ecclesiasticus (Sirach) 45 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 45

1Ac efe a ddug allan ohono ef ŵr trugarog, yr hwn a gafodd ffafr yng ngolwg pob cnawd, sef Moses, yr hwn oedd hoff gan Dduw a dynion, yr hwn y mae ei goffadwriaeth yn fendigedig.

2Efe a’i gwnaeth ef yn debyg i’r saint gogoneddus, ac a’i mawrygodd ef, gan beri i’w elynion ei ofni ef.

3Trwy ei eiriau ef y gwnaeth efe i ryfeddodau beidio, ac a’i gwnaeth ef yn ogoneddus yng ngolwg brenhinoedd: efe a roddes gydag ef orchymyn i’w bobl, ac a ddangosodd iddo ran o’i ogoniant.

4Efe a’i sancteiddiodd ef yn ei ffyddlondeb a’i larieidd-dra, ac a’i dewisodd ef o blith yr holl ddynion.

5Efe a wnaeth iddo glywed ei lais ef, ac a’i dug ef i’r cwmwl tywyll ac a roddes orchmynion o’i flaen ef, sef cyfraith bywyd a gwybodaeth; fel y dysgai efe y cyfamod i Jacob, a’i farnedigaethau i Israel.

6Efe a ddyrchafodd Aaron y sanct tebyg iddo ef, ei frawd o lwyth Lefi.

7Efe a wnaeth ag ef gyfamod tragwyddol, ac a roddes iddo offeiriadaeth ymysg y bobl: efe a’i gwnaeth ef yn ddedwydd mewn harddwisg, ac a’i gwisgodd ef â gwisg ogoneddus.

8Efe a’i gwisgodd ef â gogonedd cyflawn, ac a’i gwregysodd ef ag offer cadernid, â llawdr, â gwisg laes, ac ag effod.

9Efe a’i hamgylchodd ef a phomgranadau, ac â chlych aur lawer o amgylch, i seinio pan gerddai efe, i wneuthur sŵn a glywid yn y deml, ac i fod yn goffadwriaeth i feibion ei bobl ef;

10A gwisg sanctaidd o aur, â sidan glas, â phorffor ac amryw waith, â dwyfronneg barn, ag arwyddion gwirionedd,

11Ac â gwaith cywraint o sgarlad plethedig, ac â meini gwerthfawr wedi eu cerfio fel sêl, a’u gosod mewn aur trwy waith eurych, ag ysgrifen wedi ei cherfio, er coffadwriaeth, yn ôl nifer meibion Israel.

12Ar y meitr y gosodasai efe goron o aur, yn yr hon y cerfiesid Sancteiddrwydd, yn harddwch anrhydeddus, yn waith godidog, yn hyfryd i’r llygaid, yn hardd ac yn deg.

13Ni bu y fath o’i flaen ef; ac erioed ni wisgodd neb dieithr hwynt, ond ei feibion ef bob amser.

14Dwy waith yn y dydd yn wastadol y poethoffrymir eu haberthau hwynt.

15Moses a’i cysegrodd ef, ac a’i heneiniodd ag olew sanctaidd: a hyn a wnaed yn gyfamod tragwyddol iddo ef ac i’w had, cyhyd ag y parhao’r nefoedd, gael ohonynt ei wasanaethu ef, ac offeiriadu hefyd, a bendithio’r bobl yn ei enw ef.

16Efe a’i dewisodd ef o flaen pob dyn byw, i offrymu offrwm i’r Arglwydd, myctarth a pherarogl er coffadwriaeth, i wneuthur cymod dros y bobl.

17Efe a roddes iddo ei orchmynion, ac yng nghyfamod y gyfraith awdurdod, i ddysgu ei dystiolaethau ef i Jacob, ac i egluro ei gyfraith ef i Israel.

18Dieithriaid a gydsafasant i’w erbyn ef, ac a genfigenasant wrtho ef yn yr anialwch, sef y gwŷr oedd gyda Dathan ac Abiram, a chynulleidfa Core, mewn llid a dicter.

19Yr Arglwydd a welodd hyn, ac ni bu fodlon; a hwy a ddifethwyd yn llidiowgrwydd ei ddicter ef: efe a wnaeth arnynt wyrthiau, gan eu difetha â fflam dân.

20Eithr efe a roddes ychwaneg o ogoniant i Aaron, ac a roddes iddo etifeddiaeth; blaenffrwyth y cyntaf-anedig a rannodd efe iddo; yn enwedig efe a arlwyodd ddigon o fara:

21Oblegid y maent hwy yn cael bwyta o aberthau’r Arglwydd, y rhai a roddes efe iddo ef ac i’w had.

22Eithr ni roddes efe etifeddiaeth iddo ef o dir y bobl, ac nid oedd iddo etifeddiaeth ymysg y bobl: oblegid efe ei hun yw rhan ei etifeddiaeth ef.

23Phinees mab Eleasar oedd y trydydd mewn gogoniant; am iddo ddwyn sêl yn ofn yr Arglwydd, a sefyll i fyny ag ewyllys da a pharod, a gwneuthur cymod dros Israel, pan droesai’r bobl ymaith.

24Am hynny y gwnaeth efe ag ef gyfamod heddychlon, y câi efe fod yn bennaf ar y cysegr ac ar ei bobl, fel y byddai braint yr offeiriadaeth iddo ef ac i’w had byth:

25Yn ôl y cyfamod a wnaethid â Dafydd mab Jesse o lwyth Jwda, y byddai etifeddiaeth y brenin i’w epil ef yn unig; ac y byddai etifeddiaeth Aaron i’w had ef yr un modd.

26Rhodded Duw ddoethineb yn eich calon chwi, i farnu ei bobl ef yn gyfiawn, fel na ddileer eu daioni hwynt, ac y parhao eu gogoniant trwy eu cenedlaethau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help