1 Samuel 18 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Ac wedi darfod iddo ymddiddan â Saul, enaid Jonathan a ymglymodd wrth enaid Dafydd; a Jonathan a’i carodd ef megis ei enaid ei hun.

2A Saul a’i cymerth ef ato y diwrnod hwnnw, ac ni adawai iddo ddychwelyd i dŷ ei dad.

3Yna Jonathan a Dafydd a wnaethant gyfamod; oherwydd efe a’i carai megis ei enaid ei hun.

4A Jonathan a ddiosgodd y fantell oedd amdano ei hun, ac a’i rhoddes i Dafydd, a’i wisgoedd, ie, hyd yn oed ei gleddyf, a’i fwa, a’i wregys.

5A Dafydd a aeth i ba le bynnag yr anfonodd Saul ef, ac a ymddug yn ddoeth. A Saul a’i gosododd ef ar y rhyfelwyr: ac efe oedd gymeradwy yng ngolwg yr holl bobl, ac yng ngolwg gweision Saul hefyd.

6A bu, wrth ddyfod ohonynt, pan ddychwelodd Dafydd o ladd y Philistiad, ddyfod o’r gwragedd allan o holl ddinasoedd Israel, dan ganu a dawnsio, i gyfarfod â’r brenin Saul â thympanau, â gorfoledd, ac ag offer cerdd dannau.

7A’r gwragedd wrth ganu a ymatebent, ac a ddywedent, Lladdodd Saul ei filoedd, a Dafydd ei fyrddiwn.

8A digiodd Saul yn ddirfawr, a’r ymadrodd hwn oedd ddrwg yn ei olwg ef; ac efe a ddywedodd, Rhoddasant i Dafydd fyrddiwn, ac i mi y rhoddasant filoedd: beth mwy a roddent iddo ef, ond y frenhiniaeth?

9A bu Saul â’i lygad ar Dafydd o’r dydd hwnnw allan.

10Bu hefyd drannoeth, i’r drwg ysbryd oddi wrth DDUW ddyfod ar Saul; ac efe a broffwydodd yng nghanol y tŷ: a Dafydd a ganodd â’i law, fel o’r blaen: a gwaywffon oedd yn llaw Saul.

11A Saul a daflodd y waywffon; ac a ddywedodd, Trawaf trwy Dafydd yn y pared. A Dafydd a giliodd ddwywaith o’i ŵydd ef.

12A Saul oedd yn ofni Dafydd; oherwydd bod yr ARGLWYDD gydag ef, a chilio ohono oddi wrth Saul.

13Am hynny Saul a’i gyrrodd ef ymaith oddi wrtho, ac a’i gosododd ef yn dywysog ar fil: ac efe a aeth i mewn ac allan o flaen y bobl.

14A Dafydd a ymddug yn ddoeth yn ei holl ffyrdd; a’r ARGLWYDD oedd gydag ef.

15A phan welodd Saul ei fod ef yn ddoeth iawn, efe a’i hofnodd ef.

16Eithr holl Israel a Jwda a garodd Dafydd, am ei fod ef yn myned i mewn ac allan o’u blaen hwynt.

17A dywedodd Saul wrth Dafydd, Wele Merab fy merch hynaf, hi a roddaf fi i ti yn wraig: yn unig bydd i mi yn fab nerthol, ac ymladd ryfeloedd yr ARGLWYDD. (Canys dywedasai Saul, Ni bydd fy llaw i arno ef, ond llaw y Philistiaid fydd arno ef.)

18A Dafydd a ddywedodd wrth Saul, Pwy ydwyf fi? a pheth yw fy mywyd, neu dylwyth fy nhad i yn Israel, fel y byddwn yn ddaw i’r brenin?

19Eithr yn yr amser y dylesid rhoddi Merab merch Saul i Dafydd, hi a roddwyd i Adriel y Meholathiad yn wraig.

20A Michal merch Saul a garodd Dafydd: a mynegasant hynny i Saul; a’r peth fu fodlon ganddo.

21A dywedodd Saul, Rhoddaf hi iddo ef, fel y byddo hi iddo yn fagl, ac y byddo llaw y Philistiaid yn ei erbyn ef. Felly Saul a ddywedodd wrth Dafydd, Trwy un o’r ddwy y byddi fab yng nghyfraith i mi heddiw.

22A Saul a orchmynnodd i’w weision fel hyn; Ymddiddenwch â Dafydd yn ddirgel, gan ddywedyd, Wele, y brenin sydd hoff ganddo dydi, a’i holl weision ef a’th garant di: yn awr gan hynny ymgyfathracha â’r brenin.

23A gweision Saul a adroddasant wrth Dafydd y geiriau hyn. A Dafydd a ddywedodd, Ai ysgafn yw yn eich golwg chwi ymgyfathrachu â brenin, a minnau yn ŵr tlawd a gwael?

24A gweision Saul a fynegasant iddo, gan ddywedyd, Fel hyn y llefarodd Dafydd.

25A dywedodd Saul, Fel hyn y dywedwch wrth Dafydd; Nid yw y brenin yn ewyllysio cynhysgaeth, ond cael cant o flaengrwyn y Philistiaid, i ddial ar elynion y brenin. Ond Saul oedd yn meddwl peri lladd Dafydd trwy law y Philistiaid.

26A’i weision ef a fynegasant i Dafydd y geiriau hyn; a’r ymadrodd fu fodlon gan Dafydd am ymgyfathrachu â’r brenin; ac ni ddaethai yr amser eto.

27Am hynny y cyfododd Dafydd, ac efe a aeth, a’i wŷr, ac a drawodd ddau cannwr o’r Philistiaid: a Dafydd a ddygodd eu blaengrwyn hwynt, a hwy a’u cwbl dalasant i’r brenin, i ymgyfathrachu ohono ef â’r brenin. A Saul a roddodd Michal ei ferch yn wraig iddo ef.

28A Saul a welodd ac a wybu fod yr ARGLWYDD gyda Dafydd, a bod Michal merch Saul yn ei garu ef.

29A Saul oedd yn ofni Dafydd yn fwy eto: a bu Saul yn elyn i Dafydd byth.

30Yna tywysogion y Philistiaid a aent allan: a phan elent hwy, Dafydd a fyddai ddoethach na holl weision Saul; a’i enw ef a aeth yn anrhydeddus iawn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help