1A DUW a ddywedodd wrth Jacob, Cyfod, esgyn i Bethel, a thrig yno; a gwna yno allor i DDUW, yr hwn a ymddangosodd i ti pan ffoaist o ŵydd Esau dy frawd.
2Yna Jacob a ddywedodd wrth ei deulu, ac wrth y rhai oll oedd gydag ef, Bwriwch ymaith y duwiau dieithr sydd yn eich plith chwi, ac ymlanhewch, a newidiwch eich dillad;
3A chyfodwn, ac esgynnwn i Bethel: ac yno y gwnaf allor i DDUW, yr hwn a’m gwrandawodd yn nydd fy nghyfyngder, ac a fu gyda myfi yn y ffordd a gerddais.
4A hwy a roddasant at Jacob yr holl dduwiau dieithr y rhai oedd yn eu llaw hwynt, a’r clustlysau oedd yn eu clustiau: a Jacob a’u cuddiodd hwynt dan y dderwen oedd yn ymyl Sichem.
5A hwy a gychwynasant: ac ofn DUW oedd ar y dinasoedd y rhai oedd o’u hamgylch hwynt, ac nid erlidiasant ar ôl meibion Jacob.
6A Jacob a ddaeth i Lus, yng ngwlad Canaan, hon yw Bethel, efe a’r holl bobl y rhai oedd gydag ef;
7Ac a adeiladodd yno allor, ac a enwodd y lle El-bethel, oblegid yno yr ymddangosasai DUW iddo ef, pan ffoesai efe o ŵydd ei frawd.
8A marw a wnaeth Debora mamaeth Rebeca; a hi a gladdwyd islaw Bethel, dan dderwen: a galwyd enw honno Alhon-bacuth.
9Hefyd DUW a ymddangosodd eilwaith i Jacob, pan ddaeth efe o Mesopotamia; ac a’i bendithiodd ef.
10A DUW a ddywedodd wrtho, Dy enw di yw Jacob: ni elwir dy enw di Jacob mwy, ond Israel a fydd dy enw di: ac efe a alwodd ei enw ef Israel.
11Hefyd DUW a ddywedodd wrtho, Myfi yw DUW Hollalluog: cynydda, ac amlha; cenedl a chynulleidfa cenhedloedd a fydd ohonot ti; a brenhinoedd a ddaw allan o’th lwynau di.
12A’r wlad yr hon a roddais i Abraham, ac i Isaac, a roddaf i ti, ac i’th had ar dy ôl di y rhoddaf y wlad.
13A DUW a esgynnodd oddi wrtho ef, yn y fan lle y llefarasai efe wrtho.
14A Jacob a osododd golofn yn y fan lle yr ymddiddanasai efe ag ef, sef colofn faen: ac efe a dywalltodd arni ddiod-offrwm, ac a dywalltodd olew arni.
15A Jacob a alwodd enw y fan lle yr ymddiddanodd DUW ag ef, Bethel.
16A hwy a aethant ymaith o Bethel; ac yr oedd eto megis milltir o dir i ddyfod i Effrath: yno yr esgorodd Rahel, a bu galed arni wrth esgor.
17A darfu, pan oedd galed arni wrth esgor, i’r fydwraig ddywedyd wrthi hi, Nac ofna; oblegid dyma hefyd i ti fab.
18Darfu hefyd, wrth ymadael o’i henaid hi (oblegid marw a wnaeth hi), iddi alw ei enw ef Ben-oni: ond ei dad a’i henwodd ef Benjamin.
19A Rahel a fu farw, ac a gladdwyd yn y ffordd i Effrath; hon yw Bethlehem.
20A Jacob a osododd golofn ar ei bedd hi: honno yw colofn bedd Rahel hyd heddiw.
21Yna Israel a gerddodd, ac a ledodd ei babell o’r tu hwnt i Migdal-edar.
22A phan ydoedd Israel yn trigo yn y wlad honno, yna Reuben a aeth ac a orweddodd gyda Bilha gordderchwraig ei dad; a chlybu Israel hynny. Yna meibion Jacob oeddynt ddeuddeg:
23Meibion Lea; Reuben, cyntaf-anedig Jacob, a Simeon, a Lefi, a Jwda, ac Issachar, a Sabulon.
24Meibion Rahel; Joseff a Benjamin.
25A meibion Bilha, llawforwyn Rahel; Dan a Nafftali.
26A meibion Silpa, llawforwyn Lea; Gad ac Aser. Dyma feibion Jacob, y rhai a anwyd iddo ym Mesopotamia.
27A Jacob a ddaeth at Isaac ei dad i Mamre, i Gaer-arba, hon yw Hebron, lle yr ymdeithiasai Abraham ac Isaac.
28A dyddiau Isaac oedd gan mlynedd a phedwar ugain mlynedd.
29Ac Isaac a drengodd, ac a fu farw, ac a gasglwyd at ei bobl, yn hen, ac yn gyflawn o ddyddiau: a’i feibion, Esau a Jacob, a’i claddasant ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.