Tobit 4 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 4

1Yn y dydd hwnnw y meddyliodd Tobit am yr arian a roddasai efe at Gabael yn Rages, dinas ym Media,

2Ac a ddywedodd wrtho ei hun, Mi a ddeisyfais farw: eithr paham nad ydwyf yn galw am Tobeias fy mab, fel y gallwyf ei gynghori ef cyn fy marw?

3Ac wedi iddo alw amdano ef, y dywedodd, Fy mab, pan fyddwyf marw, cladd di fi; ac na ddiystyra dy fam, eithr anrhydedda hi holl ddyddiau dy einioes, a gwna’r peth a ryngo bodd iddi, ac na thristâ hi.

4Cofia, fy mab, ei bod hi mewn llawer o beryglon, tra fuost yn ei bru hi: a phan fyddo hi marw, cladd hi gyda myfi yn yr un bedd.

5Fy mab, meddwl am yr Arglwydd ein Duw ni yn dy holl ddyddiau; ac na ddod dy fryd ar bechu, na thorri ei orchmynion ef: gwna gyfiawnder tra fyddych byw, ac na rodia yn ffyrdd anwiredd.

6Canys os dilyni wirionedd, dy holl weithredoedd a lwyddant i ti, ac i bawb a’r a wnêl gyfiawnder.

7Dod elusen o’r peth a fyddo gennyt; ac na chenfigenned dy lygad wrth roddi elusen; ac na thro dy wyneb oddi wrth neb tlawd, ac ni thry wyneb Duw oddi wrthyt tithau.

8Fel y byddo gennyt yr amlder, dod ohono elusen; os ychydig fydd gennyt, o ychydig nac arswyda roi elusen;

9Canys felly y trysori i ti dy hun wobr daionus erbyn dydd yr anghenraid:

10Oblegid elusen a wared rhag angau, ac a lestair ddyfod i’r tywyllwch.

11Oherwydd ced ddaionus yw elusenni i bawb a’r a’i gwnêl, gerbron y Goruchaf.

12Fy mab, gochel bob godineb: ac yn bennaf cymer wraig o dylwyth dy hynafiaid; ac na chymer estrones, yr hon nid ydyw o lwyth dy dad: canys plant y proffwydi ydym ni, Noe, Abraham, Isaac, a Jacob: ein tadau o’r dechreuad, cofia fy mab, iddynt oll briodi gwragedd o’u cenedl eu hun; a hwy a fuant ddedwydd yn eu plant, a’u hil a etifedda’r ddaear.

13Ac yr awron, fy mab, câr dy frodyr, ac na fydded diystyr gennyt yn dy galon dy dylwyth, meibion a merched dy bobl, i gymryd i ti wraig ohonynt: canys o ddiystyrwch y daw dinistr a dirfawr gythrwfl, ac o drahaustra y daw prinder a mawr eisiau: oherwydd trahaustra yw mam newyn.

14Nac atal gyda thi gyflog neb a’r a wnaeth dy waith, eithr tâl iddo yn ebrwydd: ac os gwasanaethi di Dduw, ti a gei daledigaeth: edrych arnat dy hun, fy mab, yn dy holl weithredoedd, a bydd ddiesgeulus ym mhob tro a wnelych.

15Y peth sy gas gennyt dy hun, na wna i arall. Nac yf win hyd feddwdod, ac na fyn feddwdod gyda thi i ymdaith.

16Dod o’th fara i’r newynog, ac o’th ddillad i’r noeth: ac yn ôl dy amlder dod elusen, ac na fydd lygadgenfigennus wrth roi elusenni.

17Bydd helaeth o’th fara ar fedd y cyfiawn, ac na ddod ddim i’r pechaduriaid.

18Gofyn gyngor i bob un synhwyrol, ac na wrthod un cyngor buddiol.

19Mola’r Arglwydd dy Dduw bob amser, a deisyf arno uniawni dy ffyrdd a chwbl o’th lwybrau, a gwneuthur dy amcanion yn llwyddiannus: canys ni fedr pob cenedl roddi cyngor: eithr yr Arglwydd ei hun sydd yn rhoddi pob daioni, ac efe a ddarostwng y neb a fynno, fel y mynno. Yr awron gan hynny, fy mab, cadw i’th gof fy ngorchmynion, ac na ddileer hwynt o’th feddwl.

20Ac yn awr yr ydwyf yn dangos i ti, adael ohonof fi ddeg talent o arian gyda Gabael mab Gabrias yn Rages, dinas ym Media.

21Ac nac ofna, fy mab, o ran ein myned ni mewn tlodi: y mae i ti lawer, od ofni di Dduw, a gochelyd pechod, a gwneuthur y peth a fyddo cymeradwy yn ei olwg ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help