1Mab pum mlwydd ar hugain oedd Heseceia pan ddechreuodd efe deyrnasu, a naw mlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem; ac enw ei fam ef oedd Abeia merch Sechareia.
2Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn ôl yr hyn oll a wnaethai Dafydd ei dad.
3Yn y flwyddyn gyntaf o’i deyrnasiad ef, yn y mis cyntaf, efe a agorodd ddrysau tŷ yr ARGLWYDD, ac a’u cyweiriodd hwynt.
4Ac efe a ddug i mewn yr offeiriaid, a’r Lefiaid, ac a’u casglodd hwynt ynghyd i heol y dwyrain,
5Ac a ddywedodd wrthynt hwy, Gwrandewch fi, O Lefiaid, ymsancteiddiwch yn awr, a sancteiddiwch dŷ ARGLWYDD DDUW eich tadau, a dygwch yr aflendid allan o’r lle sanctaidd.
6Canys ein tadau ni a droseddasant, ac a wnaethant yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD ein DUW, ac a’i gwrthodasant ef, ac a droesant eu hwynebau oddi wrth babell yr ARGLWYDD, ac a droesant eu gwarrau.
7Caeasant hefyd ddrysau y porth, ac a ddiffoddasant y lampau, ac nid arogldarthasant arogl-darth, ac ni offrymasant boethoffrymau yn y cysegr i DDUW Israel.
8Am hynny digofaint yr ARGLWYDD a ddaeth yn erbyn Jwda a Jerwsalem, ac efe a’u rhoddodd hwynt yn gyffro, yn syndod, ac yn watwargerdd, fel yr ydych yn gweled â’ch llygaid.
9Canys wele, ein tadau ni a syrthiasant trwy’r cleddyf, ein meibion hefyd, a’n merched, a’n gwragedd, ydynt mewn caethiwed oherwydd hyn.
10Yn awr y mae yn fy mryd i wneuthur cyfamod ag ARGLWYDD DDUW Israel; fel y tro ei ddigofaint llidiog ef oddi wrthym ni.
11Fy meibion, na fyddwch ddifraw yn awr: canys yr ARGLWYDD a’ch dewisodd chwi i sefyll ger ei fron ef, i weini iddo ef, ac i fod yn gweini, ac yn arogldarthu iddo ef.
12Yna y Lefiaid a gyfodasant, Mahath mab Amasai, a Joel mab Asareia, o feibion y Cohathiaid: ac o feibion Merari; Cis mab Abdi, ac Asareia mab Jehaleleel: ac o’r Gersoniaid; Joa mab Simma, ac Eden mab Joa:
13Ac o feibion Elisaffan; Simri, a Jeiel; ac o feibion Asaff; Sechareia, a Mataneia:
14Ac o feibion Heman; Jehiel, a Simei: ac o feibion Jedwthwn; Semaia, ac Ussiel.
15A hwy a gynullasant eu brodyr, ac a ymsancteiddiasant, ac a ddaethant yn ôl gorchymyn y brenin, trwy eiriau yr ARGLWYDD, i lanhau tŷ yr ARGLWYDD.
16A’r offeiriaid a ddaethant i fewn tŷ yr ARGLWYDD i’w lanhau ef, ac a ddygasant allan yr holl frynti a gawsant hwy yn nheml yr ARGLWYDD, i gyntedd tŷ yr ARGLWYDD. A’r Lefiaid a’i cymerasant, i’w ddwyn ymaith allan i afon Cidron.
17Ac yn y dydd cyntaf o’r mis cyntaf y dechreuasant ei sancteiddio, ac ar yr wythfed dydd o’r mis y daethant i borth yr ARGLWYDD: ac mewn wyth niwrnod y sancteiddiasant dŷ yr ARGLWYDD, ac yn yr unfed dydd ar bymtheg o’r mis cyntaf y gorffenasant.
18Yna y daethant hwy i mewn at Heseceia y brenin, ac a ddywedasant, Glanhasom holl dŷ yr ARGLWYDD, ac allor y poethoffrwm, a’i holl lestri, a bwrdd y bara gosod, a’i holl lestri.
19A’r holl lestri a fwriasai y brenin Ahas ymaith yn ei gamwedd, pan oedd efe yn teyrnasu, a baratoesom, ac a sancteiddiasom ni: ac wele hwy gerbron allor yr ARGLWYDD.
20Yna Heseceia y brenin a gododd yn fore, ac a gasglodd dywysogion y ddinas, ac a aeth i fyny i dŷ yr ARGLWYDD.
21A hwy a ddygasant saith o fustych, a saith o hyrddod, a saith o ŵyn, a saith o fychod geifr, yn bech-aberth dros y frenhiniaeth, a thros y cysegr, a thros Jwda: ac efe a ddywedodd wrth yr offeiriaid meibion Aaron, am offrymu y rhai hynny ar allor yr ARGLWYDD.
22Felly hwy a laddasant y bustych, a’r offeiriaid a dderbyniasant y gwaed, ac a’i taenellasant ar yr allor: lladdasant hefyd yr hyrddod, a thaenellasant y gwaed ar yr allor: a hwy a laddasant yr ŵyn, ac a daenellasant y gwaed ar yr allor.
23A hwy a ddygasant fychod y pech-aberth o flaen y brenin a’r gynulleidfa, ac a osodasant eu dwylo arnynt hwy.
24A’r offeiriaid a’u lladdasant hwy, ac a wnaethant gymod ar yr allor â’u gwaed hwynt, i wneuthur cymod dros holl Israel: canys dros holl Israel yr archasai y brenin wneuthur y poethoffrwm a’r pech-aberth.
25Ac efe a osododd y Lefiaid yn nhŷ yr ARGLWYDD, â symbalau, ac â nablau, ac â thelynau, yn ôl gorchymyn Dafydd, a Gad gweledydd y brenin, a Nathan y proffwyd: canys y gorchymyn oedd trwy law yr ARGLWYDD, trwy law ei broffwydi ef.
26A’r Lefiaid a safasant ag offer Dafydd, a’r offeiriaid â’r utgyrn.
27A Heseceia a ddywedodd am offrymu poethoffrwm ar yr allor: a’r amser y dechreuodd y poethoffrwm, y dechreuodd cân yr ARGLWYDD, â’r utgyrn, ac ag offer Dafydd brenin Israel.
28A’r holl gynulleidfa oedd yn addoli, a’r cantorion yn canu, a’r utgyrn yn lleisio; hyn oll a barhaodd nes gorffen y poethoffrwm.
29A phan orffenasant hwy offrymu, y brenin a’r holl rai a gafwyd gydag ef, a ymgrymasant, ac a addolasant.
30A Heseceia y brenin a’r tywysogion a ddywedasant wrth y Lefiaid am foliannu yr ARGLWYDD, â geiriau Dafydd ac Asaff y gweledydd. Felly hwy a folianasant â llawenydd, ac a ymostyngasant, ac a addolasant.
31A Heseceia a atebodd ac a ddywedodd, Yn awr yr ymgysegrasoch chwi i’r ARGLWYDD; nesewch, a dygwch ebyrth, ac ebyrth moliant, i dŷ yr ARGLWYDD. A’r gynulleidfa a ddygasant ebyrth, ac ebyrth moliant, a phob ewyllysgar o galon, boethoffrymau.
32A rhifedi y poethoffrymau a ddug y gynulleidfa, oedd ddeg a thrigain o fustych, cant o hyrddod, dau cant o ŵyn: y rhai hyn oll oedd yn boethoffrwm i’r ARGLWYDD.
33A’r pethau cysegredig oedd chwe chant o fustych, a thair mil o ddefaid.
34Ond yr oedd rhy fychan o offeiriaid, fel na allent flingo yr holl boethoffrymau: am hynny eu brodyr y Lefiaid a’u cynorthwyasant hwy, nes gorffen y gwaith, ac nes i’r offeiriaid ymgysegru: canys y Lefiaid oedd uniawnach o galon i ymgysegru na’r offeiriaid.
35Y poethoffrymau hefyd oedd yn aml, gyda braster yr hedd-offrwm, a’r ddiod-offrwm i’r poethoffrymau. Felly y trefnwyd gwasanaeth tŷ yr ARGLWYDD.
36A Heseceia a lawenychodd, a’r holl bobl, oherwydd paratoi o DDUW y bobl: oblegid yn ddisymwth y bu y peth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.