Hebreaid 5 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Canys pob archoffeiriad wedi ei gymryd o blith dynion, a osodir dros ddynion yn y pethau sydd tuag at Dduw, fel yr offrymo roddion ac aberthau dros bechodau:

2Yr hwn a ddichon dosturio wrth y rhai sydd mewn anwybodaeth ac amryfusedd; am ei fod yntau hefyd wedi ei amgylchu â gwendid.

3Ac o achos hyn y dylai, megis dros y bobl, felly hefyd drosto ei hun, offrymu dros bechodau.

4Ac nid yw neb yn cymryd yr anrhydedd hwn iddo ei hun, ond yr hwn a alwyd gan Dduw, megis Aaron.

5Felly Crist hefyd nis gogoneddodd ei hun i fod yn Archoffeiriad; ond yr hwn a ddywedodd wrtho, Tydi yw fy Mab; myfi heddiw a’th genhedlais di.

6Megis y mae yn dywedyd mewn lle arall, Offeiriad wyt ti yn dragywydd yn ôl urdd Melchisedec.

7Yr hwn yn nyddiau ei gnawd, gwedi iddo, trwy lefain cryf a dagrau, offrwm gweddïau ac erfyniau at yr hwn oedd abl i’w achub ef oddi wrth farwolaeth, a chael ei wrando yn yr hyn a ofnodd;

8Er ei fod yn Fab, a ddysgodd ufudd-dod trwy’r pethau a ddioddefodd:

9Ac wedi ei berffeithio, efe a wnaethpwyd yn Awdur iachawdwriaeth dragwyddol i’r rhai oll a ufuddhânt iddo;

10Wedi ei gyfenwi gan Dduw yn Archoffeiriad yn ôl urdd Melchisedec.

11Am yr hwn y mae i ni lawer i’w dywedyd, ac anodd eu traethu, o achos eich bod chwi yn hwyrdrwm eich clustiau.

12Canys lle dylech fod yn athrawon o ran amser, y mae arnoch drachefn eisiau dysgu i chwi beth ydyw egwyddorion dechreuad ymadroddion Duw: ac yr ydych yn rhaid i chwi wrth laeth, ac nid bwyd cryf.

13Canys pob un a’r sydd yn ymarfer â llaeth, sydd anghynefin â gair cyfiawnder; canys maban yw.

14Eithr bwyd cryf a berthyn i’r rhai perffaith, y rhai oherwydd cynefindra y mae ganddynt synnwyr wedi ymarfer i ddosbarthu drwg a da.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help