Y Salmau 131 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 131Caniad y graddau, o’r eiddo Dafydd.

1O ARGLWYDD, nid ymfalchïodd fy nghalon, ac nid ymddyrchafodd fy llygaid: ni rodiais chwaith mewn pethau rhy fawr, a rhy uchel i mi.

2Eithr gosodais a gostegais fy enaid, fel un wedi ei ddiddyfnu oddi wrth ei fam: fy enaid sydd ynof fel un wedi ei ddiddyfnu.

3Disgwylied Israel wrth yr ARGLWYDD, o’r pryd hwn hyd yn dragywydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help