Jeremeia 40 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD, wedi i Nebusaradan pennaeth y milwyr ei ollwng ef yn rhydd o Rama, wedi iddo ei gymryd ef, ac yntau yn rhwym mewn cadwyni ymysg holl gaethglud Jerwsalem a Jwda, y rhai a gaethgludasid i Babilon.

2A phennaeth y milwyr a gymerodd Jeremeia, ac a ddywedodd wrtho, Yr ARGLWYDD dy DDUW a lefarodd y drwg yma yn erbyn y lle hwn.

3A’r ARGLWYDD a’i dug i ben, ac a wnaeth megis y llefarodd: am i chwi bechu yn erbyn yr ARGLWYDD, ac na wrandawsoch ar ei lais ef, am hynny y daeth y peth hyn i chwi.

4Ac yn awr wele, mi a’th ryddheais di heddiw o’r cadwynau oedd am dy ddwylo: os da gennyt ti ddyfod gyda mi i Babilon, tyred, a myfi a fyddaf da wrthyt: ond os drwg y gweli ddyfod gyda mi i Babilon, paid; wele yr holl dir o’th flaen di: i’r fan y byddo da a bodlon gennyt fyned, yno dos.

5Ac yn awr, ac efe eto heb ddychwelyd, efe a ddywedodd, Dychwel at Gedaleia mab Ahicam, mab Saffan, yr hwn a osododd brenin Babilon ar ddinasoedd Jwda, ac aros gydag ef ymhlith y bobl: neu dos lle y gwelych di yn dda fyned. Felly pennaeth y milwyr a roddodd iddo ef luniaeth a rhodd, ac a’i gollyngodd ef ymaith.

6Yna yr aeth Jeremeia at Gedaleia mab Ahicam i Mispa, ac a arhosodd gydag ef ymysg y bobl a adawsid yn y wlad.

7A phan glybu holl dywysogion y lluoedd, y rhai oedd ar hyd y wlad, hwynt-hwy a’u gwŷr, i frenin Babilon osod Gedaleia mab Ahicam ar y wlad, ac iddo roddi dan ei law ef wŷr, a gwragedd, a phlant, ac o dlodion y wlad, o’r rhai ni chaethgludasid i Babilon;

8Yna hwy a ddaethant at Gedaleia i Mispa, sef Ismael mab Nethaneia, a Johanan a Jonathan meibion Carea, a Seraia mab Tanhumeth, a meibion Effai y Netoffathiad, a Jesaneia mab Maachathiad, hwynt-hwy a’u gwŷr.

9A Gedaleia mab Ahicam mab Saffan a dyngodd wrthynt hwy, ac wrth eu gwŷr, gan ddywedyd, Nac ofnwch wasanaethu y Caldeaid: trigwch yn y wlad, a gwasanaethwch frenin Babilon, felly y bydd daioni i chwi.

10Amdanaf finnau, wele, mi a drigaf ym Mispa, i wasanaethu y Caldeaid, y rhai a ddeuant atom ni: chwithau, cesglwch win, a ffrwythydd haf, ac olew, a dodwch hwynt yn eich llestri, a thrigwch yn eich dinasoedd, y rhai yr ydych yn eu meddiannu.

11A phan glybu yr holl Iddewon y rhai oedd ym Moab, ac ymysg meibion Ammon, ac yn Edom, ac yn yr holl wledydd, i frenin Babilon adael gweddill o Jwda, a gosod Gedaleia mab Ahicam mab Saffan yn llywydd arnynt hwy;

12Yna yr holl Iddewon a ddychwelasant o’r holl leoedd lle y gyrasid hwynt, ac a ddaethant i wlad Jwda at Gedaleia i Mispa, ac a gasglasant win o ffrwythydd haf lawer iawn.

13Johanan hefyd mab Carea, a holl dywysogion y lluoedd y rhai oedd ar hyd y wlad, a ddaethant at Gedaleia i Mispa,

14Ac a ddywedasant wrtho, A wyddost ti yn hysbys i Baalis, brenin meibion Ammon, anfon Ismael mab Nethaneia i’th ladd di? Ond ni chredodd Gedaleia mab Ahicam iddynt hwy.

15Yna Johanan mab Carea a ddywedodd wrth Gedaleia ym Mispa yn gyfrinachol, gan ddywedyd, Gad i mi fyned, atolwg, a mi a laddaf Ismael mab Nethaneia, ac ni chaiff neb wybod: paham y lladdai efe di, fel y gwasgerid yr holl Iddewon y rhai a ymgasglasant atat ti, ac y darfyddai am y gweddill yn Jwda?

16Ond Gedaleia mab Ahicam a ddywedodd wrth Johanan mab Carea, Na wna y peth hyn: canys celwydd yr ydwyt ti yn ei ddywedyd am Ismael.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help