Eseia 28 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Gwae goron balchder, meddwon Effraim; yr hwn y mae ardderchowgrwydd ei ogoniant yn flodeuyn diflanedig, yr hwn sydd ar ben y dyffrynnoedd breision, y rhai a orchfygwyd gan win.

2Wele, un grymus a nerthol sydd gan yr ARGLWYDD, fel tymestl cenllysg, neu gorwynt dinistriol, fel llifeiriant dyfroedd mawrion yn llifo drosodd, yr hwn a fwrw i lawr â llaw.

3Dan draed y sethrir coron balchder, meddwon Effraim.

4Ac ardderchowgrwydd ei ogoniant, yr hwn sydd ar ben y dyffryn bras, fydd blodeuyn diflanedig, megis ffigysen gynnar cyn yr haf, yr hon pan welo yr hwn a edrycho arni, efe a’i llwnc hi, a hi eto yn ei law.

5Yn y dydd hwnnw y bydd ARGLWYDD y lluoedd yn goron ardderchowgrwydd, ac yn goron gogoniant i weddill ei bobl;

6Ac yn ysbryd barn i’r hwn a eisteddo ar farn, ac yn gadernid i’r rhai a ddychwelant y rhyfel i’r porth.

7Ac er hynny hwy a gyfeiliornasant trwy win, ac a amryfusasant trwy ddiod gadarn: yr offeiriad a’r proffwyd a gyfeiliornasant trwy ddiod gadarn, difawyd hwy gan win, cyfeiliornasant trwy ddiod gadarn, amryfusasant mewn gweledigaeth, tramgwyddasant mewn barn.

8Canys y byrddau oll sydd lawn o chwydfa a budreddi, heb le glân.

9I bwy y dysg efe wybodaeth? ac i bwy y pair efe ddeall yr hyn a glywo? i’r rhai a ddiddyfnwyd oddi wrth laeth, y rhai a dynnwyd oddi wrth y bronnau.

10Canys rhoddir gorchymyn ar orchymyn, gorchymyn ar orchymyn; llin ar lin, llin ar lin; ychydig yma, ac ychydig acw.

11Canys â bloesgni gwefusau, ac â thafodiaith ddieithr, y llefara efe wrth y bobl hyn.

12Y rhai y dywedodd efe wrthynt, Dyma orffwystra, gadewch i’r diffygiol orffwyso, a dyma esmwythder; ond ni fynnent wrando.

13Eithr gair yr ARGLWYDD oedd iddynt yn orchymyn ar orchymyn, yn orchymyn ar orchymyn; yn llin ar lin, yn llin ar lin; ychydig yma, ac ychydig acw; fel yr elent ac y syrthient yn ôl, ac y dryllier, ac y magler, ac y dalier hwynt.

14Am hynny gwrandewch air yr ARGLWYDD, ddynion gwatwarus, llywodraethwyr y bobl hyn, y rhai sydd yn Jerwsalem.

15Am i chwi ddywedyd, Gwnaethom amod ag angau, ac ag uffern y gwnaethom gynghrair; pan ddêl ffrewyll lifeiriol, ni ddaw atom ni: canys gosodasom ein gobaith ar gelwydd, a than ffalster y llechasom.

16Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW, Wele fi yn sylfaenu maen yn Seion, maen profedig, conglfaen gwerthfawr, sylfaen safadwy; ni frysia yr hwn a gredo.

17A mi a osodaf farn wrth linyn, a chyfiawnder wrth bwys; y cenllysg a ysguba noddfa celwydd, a’r dyfroedd a foddant y lloches.

18A diddymir eich amod ag angau, a’ch cynghrair ag uffern ni saif; pan ddêl y ffrewyll lifeiriol, byddwch yn sathrfa iddi.

19O’r amser y delo, y cymer chwi: canys daw bob bore, ddydd a nos; a blinder yn unig fydd i beri deall yr hyn a glywir.

20Canys byrrach yw y gwely nag y galler ymestyn ynddo; a chul yw y cwrlid i ymdroi ynddo.

21Canys yr ARGLWYDD a gyfyd megis ym mynydd Perasim, efe a ddigia megis yng nglyn Gibeon, i wneuthur ei waith, ei ddieithr waith; ac i wneuthur ei weithred, ei ddieithr weithred.

22Ac yn awr na watwerwch, rhag cadarnhau eich rhwymau; canys clywais fod darfodedigaeth derfynol oddi wrth ARGLWYDD DDUW y lluoedd ar yr holl dir.

23Clywch, a gwrandewch fy llais; ystyriwch, a gwrandewch fy lleferydd.

24Ydyw yr arddwr yn aredig ar hyd y dydd i hau? ydyw efe yn agoryd ac yn llyfnu ei dir?

25Onid wedi iddo lyfnhau ei wyneb, y taena efe y ffacbys, ac y gwasgar y cwmin, ac y bwrw y gwenith ardderchog, a’r haidd nodedig, a’r rhyg yn ei gyfle?

26Canys ei DDUW a’i hyfforddia ef mewn synnwyr, ac a’i dysg ef.

27Canys nid ag og y dyrnir ffacbys, ac ni throir olwyn men ar gwmin; eithr dyrnir ffacbys â ffon, a chwmin â gwialen.

28Ŷd bara a felir; ond gan ddyrnu ni ddyrn y dyrnwr ef yn wastadol, ac ni ysiga ef ag olwyn ei fen, ac nis mâl ef â’i wŷr meirch.

29Hyn hefyd a ddaw oddi wrth ARGLWYDD y lluoedd, yr hwn sydd ryfedd yn ei gyngor, ac ardderchog yn ei waith.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help