1Yna yr wylais yn athrist, ac a weddïais mewn gorthrymder, gan ddywedyd,
2Cyfiawn wyt, O Arglwydd, a chwbl o’th weithredoedd a’th ffyrdd oll ydynt drugaredd a gwirionedd; dy farn hefyd a roddi yn uniawn ac yn gyfiawn yn dragywydd.
3Cofia fi, ac edrych arnaf, ac na ddial arnaf am fy mhechodau, nac am fy anwybodaeth, nac am yr eiddo fy hynafiaid, y rhai a bechasant ger dy fron di.
4O achos nad ufuddhaent i’th orchmynion, am hynny ti a’n rhoddaist ni yn ysbail, ac i gaethiwed, ac i angau, ac yn ddihareb waradwyddus i’r rhai oll y’n gwasgarwyd yn eu plith.
5Ac yn awr llawer a chyfiawn yw dy farnedigaethau: gwna â myfi yn ôl fy mhechodau, a phechodau fy hynafiaid; am na chadwasom dy orchmynion, ac na rodiasom yn y gwirionedd ger dy fron di.
6Yr awr hon gan hynny gwna â myfi y peth a fyddo cymwys yn dy olwg di: pâr gymryd fy ysbryd oddi wrthyf, fel y’m datoder, ac yr elwyf yn ddaear: canys gwell i mi farw na byw, o achos y gwarth anwir a glywais, a’r mawr dristwch sydd arnaf: am hynny pâr fy ngollwng yn rhydd o’r cyfyngder yma, i fyned i le tragwyddol: na thro dy wynepryd oddi wrthyf.
7A’r un dydd fe a ddigwyddodd i Sara merch Raguel yn Ecbatane, dinas ym Media, gael ei gwaradwyddo gan forynion ei thad;
8Sef ei rhoi hi i saith o wŷr, ac i Asmodeus yr ysbryd drwg eu lladd hwynt, cyn bod iddynt a wnaent â hi yn ôl arfer gwragedd. Oni wyddost ti, meddent, dagu ohonot ti dy wŷr? bu saith o wŷr i ti hyd yn hyn, ac ni’th gyfenwyd yn ôl yr un ohonynt.
9Paham y’n curi ni amdanynt? os meirw ydynt, dos ganddynt, na welom byth ohonot na mab na merch.
10A phan glybu hi y pethau hynny, tristáu yn ddirfawr a wnaeth, fel y meddyliodd ymdagu: ac eto hi a ddywedodd, Un ferch fy nhad ydwyf; os gwnaf fi hyn, cywilyddus fydd ganddo ef, a’i henaint a ddygaf i’r bedd mewn gorthrymder.
11Ac yna hi a weddïodd tua’r ffenestr, gan ddywedyd, Bendigaid wyt ti, O Arglwydd fy Nuw, a bendigaid yw enw sanctaidd dy ogoniant, ac anrhydeddus byth bythoedd; molianned dy holl weithredoedd dydi yn dragywydd.
12Ac yr awron, O Arglwydd, y cyfeiriaf fy llygaid a’m hwyneb atat,
13Gan ddeisyf fy ngollwng yn rhydd oddi ar y ddaear, fel na chlywyf waradwydd mwyach.
14Ti a wyddost, Arglwydd, fy mod yn lân oddi wrth bob pechod gyda gŵr,
15Ac na halogais fy enw, nac enw fy nhad, yn nhir fy nghaethiwed. Un ferch wyf i’m tad, ac nid oes ganddo blentyn i fod yn etifedd iddo; nac un câr agos, na mab iddo yn fyw, fel y cadwn fy hun yn wraig iddo: ac wedi marw seithwr i mi, i ba beth y byddwn i byw? eithr oni rynga bodd i ti fy lladd, pâr edrych arnaf, a thrugarhau wrthyf, fel na chlywyf waradwydd mwyach.
16A’u gweddïau hwy ill dau a wrandawyd gerbron gogoniant y Duw mawr.
17A Raffael a anfoned i iacháu’r ddau, sef i dynnu’r rhuchen oddi ar lygaid Tobit, ac i roddi Sara merch Raguel yn wraig i Tobeias mab Tobit, ac i rwymo Asmodeus yr ysbryd drwg; o achos bod yn perthynu i Tobeias o gyfiawnder ei chael hi. Yn y cyfamser hwnnw y dychwelodd Tobit, ac yr aeth efe i’w dŷ; a Sara merch Raguel a ddisgynnodd o’i stafell.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.