1 Cronicl 22 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A Dywedodd Dafydd, Hwn yw tŷ yr ARGLWYDD DDUW, a dyma allor y poethoffrwm i Israel.

2Dywedodd Dafydd hefyd am gasglu y dieithriaid oedd yn nhir Israel; ac efe a osododd seiri meini i naddu cerrig nadd, i adeiladu tŷ DDUW.

3A pharatôdd Dafydd haearn yn helaeth, tuag at hoelion drysau y pyrth, ac i’r cysylltiadau, a phres mor helaeth ag nad oedd arno bwys;

4Coed cedr hefyd allan o rif: canys y Sidoniaid a’r Tyriaid a ddygent gedrwydd lawer i Dafydd.

5A dywedodd Dafydd, Solomon fy mab sydd ieuanc a thyner, a’r tŷ a adeiledir i’r ARGLWYDD, rhaid iddo fod mewn mawredd, mewn rhagoriaeth, mewn enw, ac mewn gogoniant, trwy yr holl wledydd: paratoaf yn awr tuag ato ef. Felly y paratôdd Dafydd yn helaeth cyn ei farwolaeth.

6Ac efe a alwodd ar Solomon ei fab, ac a orchmynnodd iddo adeiladu tŷ i ARGLWYDD DDUW Israel.

7Dywedodd Dafydd hefyd wrth Solomon, Fy mab, yr oedd yn fy mryd i adeiladu tŷ i enw yr ARGLWYDD fy NUW.

8Eithr gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf fi, gan ddywedyd, Gwaed lawer a dywelltaist ti, a rhyfeloedd mawrion a wnaethost ti: nid adeiledi di dŷ i’m henw i, canys gwaed lawer a dywelltaist ar y ddaear yn fy ngŵydd i.

9Wele, mab a enir i ti, efe a fydd ŵr llonydd, a mi a roddaf lonyddwch iddo ef gan ei holl elynion o amgylch: canys Solomon fydd ei enw ef, heddwch hefyd a thangnefedd a roddaf i Israel yn ei ddyddiau ef.

10Efe a adeilada dŷ i’m henw, ac efe a fydd i mi yn fab, a minnau yn dad iddo yntau: sicrhaf hefyd orseddfa ei frenhiniaeth ef ar Israel byth.

11Yn awr fy mab, yr ARGLWYDD fyddo gyda thi, a ffynna dithau, ac adeilada dŷ yr ARGLWYDD dy DDUW, megis ag y llefarodd efe amdanat ti.

12Yn unig rhodded yr ARGLWYDD i ti ddoethineb, a deall, a rhodded i ti orchmynion am Israel, fel y cadwech gyfraith yr ARGLWYDD dy DDUW.

13Yna y ffynni, os gwyli ar wneuthur y deddfau a’r barnedigaethau a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses am Israel. Ymgryfha, ac ymwrola; nac ofna, ac nac arswyda.

14Ac wele, yn fy nhlodi y paratoais i dŷ yr ARGLWYDD gan mil o dalentau aur, a mil o filoedd o dalentau arian; ar bres hefyd, ac ar haearn, nid oes bwys; canys y mae yn helaeth: coed hefyd a meini a baratoais i; ychwanega dithau atynt hwy.

15Hefyd y mae yn aml gyda thi weithwyr gwaith, sef cymynwyr, a seiri maen a phren, a phob rhai celfydd ym mhob gwaith.

16Ar aur, ar arian, ar bres, ac ar haearn, nid oes rifedi. Cyfod dithau, a gweithia, a’r ARGLWYDD a fydd gyda thi.

17A Dafydd a orchmynnodd i holl dywysogion Israel gynorthwyo Solomon ei fab, gan ddywedyd,

18Onid yw yr ARGLWYDD eich DUW gyda chwi? ac oni roddes efe lonyddwch i chwi oddi amgylch? canys rhoddes yn fy llaw i drigolion y tir; a’r tir a ddarostyngwyd o flaen yr ARGLWYDD, ac o flaen ei bobl ef.

19Yn awr rhoddwch eich calon a’ch enaid i geisio yr ARGLWYDD eich DUW; cyfodwch hefyd, ac adeiledwch gysegr yr ARGLWYDD DDUW, i ddwyn arch cyfamod yr ARGLWYDD, a sanctaidd lestri DUW, i’r tŷ a adeiledir i enw yr ARGLWYDD.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help