Habacuc 2 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Safaf ar fy nisgwylfa, ac ymsefydlaf ar y tŵr, a gwyliaf, i edrych beth a ddywed efe wrthyf, a pha beth a atebaf pan y’m cerydder.

2A’r ARGLWYDD a atebodd ac a ddywedodd, Ysgrifenna y weledigaeth, a gwna hi yn eglur ar lechau, fel y rhedo yr hwn a’i darlleno.

3Canys y weledigaeth sydd eto dros amser gosodedig, ond hi a ddywed o’r diwedd, ac ni thwylla: os erys, disgwyl amdani; canys gan ddyfod y daw, nid oeda.

4Wele, yr hwn a ymchwydda, nid yw uniawn ei enaid ynddo: ond y cyfiawn a fydd byw trwy ei ffydd.

5A hefyd gan ei fod yn troseddu trwy win, gŵr balch yw efe, ac heb aros gartref, yr hwn a helaetha ei feddwl fel uffern, ac y mae fel angau, ac nis digonir; ond efe a gasgl ato yr holl genhedloedd, ac a gynnull ato yr holl bobloedd.

6Oni chyfyd y rhai hyn oll yn ei erbyn ddihareb, a gair du yn ei erbyn, a dywedyd, Gwae a helaetho y peth nid yw eiddo! pa hyd? a’r neb a lwytho arno ei hun y clai tew!

7Oni chyfyd yn ddisymwth y rhai a’th frathant, ac oni ddeffry y rhai a’th gystuddiant, a thi a fyddi yn wasarn iddynt?

8Am i ti ysbeilio cenhedloedd lawer, holl weddill y bobloedd a’th ysbeilia dithau: am waed dynion, ac am y trais ar y tir, ar y ddinas, ac ar oll a drigant ynddi.

9Gwae a elwo elw drwg i’w dŷ, i osod ei nyth yn uchel, i ddianc o law y drwg!

10Cymeraist gyngor gwarthus i’th dŷ, wrth ddistrywio pobloedd lawer; pechaist yn erbyn dy enaid.

11Oherwydd y garreg a lefa o’r mur, a’r trawst a’i hetyb o’r gwaith coed.

12Gwae a adeilado dref trwy waed, ac a gadarnhao ddinas mewn anwiredd!

13Wele, onid oddi wrth ARGLWYDD y lluoedd y mae, bod i’r bobl ymflino yn y tân, ac i’r cenhedloedd ymddiffygio am wir wagedd?

14Canys y ddaear a lenwir o wybodaeth gogoniant yr ARGLWYDD, fel y toa y dyfroedd y môr.

15Gwae a roddo ddiod i’w gymydog: yr hwn ydwyt yn rhoddi iddo dy gostrel, ac yn ei feddwi hefyd, er cael gweled eu noethni hwynt!

16Llanwyd di o warth yn lle gogoniant; yf dithau hefyd, a noether dy flaengroen: ymchwel cwpan deheulaw yr ARGLWYDD atat ti, a chwydiad gwarthus fydd ar dy ogoniant.

17Canys trais Libanus a’th orchuddia, ac anrhaith yr anifeiliaid, yr hwn a’u dychrynodd hwynt, o achos gwaed dynion, a thrais y tir, y ddinas ac oll a drigant ynddi.

18Pa les a wna i’r ddelw gerfiedig, ddarfod i’w lluniwr ei cherfio; i’r ddelw dawdd, ac athro celwydd, fod lluniwr ei waith yn ymddiried ynddo, i wneuthur eilunod mudion?

19Gwae a ddywedo wrth bren, Deffro; wrth garreg fud, Cyfod, efe a rydd addysg: wele, gwisgwyd ef ag aur ac arian, a dim anadl nid oes o’i fewn.

20Ond yr ARGLWYDD sydd yn ei deml sanctaidd: y ddaear oll, gostega di ger ei fron ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help