1Yn y flwyddyn gyntaf o deyrnasiad Cyrus brenin y Persiaid, i gyflawni gair yr Arglwydd o enau Jeremi,
2Yr Arglwydd a anogodd ysbryd Cyrus brenin y Persiaid, fel y cyhoeddodd efe trwy ei holl deyrnas, a hynny mewn ysgrifen,
3Gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Cyrus brenin y Persiaid; Arglwydd Israel, sef yr Arglwydd goruchaf, a’m gwnaeth i yn frenin ar yr holl fyd,
4Ac a orchmynnodd i mi adeiladu iddo dŷ yn Jerwsalem, yr hon sydd yn Jwdea.
5Am hynny od oes neb ohonoch chwi o’i bobl ef, bydded yr Arglwydd, sef ei Arglwydd, gydag ef, ac eled i fyny i Jerwsalem, yr hon sydd yn Jwdea, ac adeiladed dŷ Arglwydd Israel: canys efe yw’r Arglwydd sydd yn preswylio yn Jerwsalem.
6A phwy bynnag sydd yn cyfanheddu’r lleoedd hynny o’u hamgylch, cynorthwyed y rhai sydd yno ef ag aur, ac ag arian,
7A rhoddion, a meirch, ac anifeiliaid, gydag addunol offrymau i deml yr Arglwydd, yr hon sydd yn Jerwsalem.
8Yna penaethiaid teuluoedd Jwdea, a llwyth Benjamin, a’r offeiriaid, a’r Lefiaid, a gyfodasant, a chymaint oll ag y cynhyrfodd yr Arglwydd eu meddwl i fyned i fyny, ac i adeiladu tŷ i’r Arglwydd yn Jerwsalem.
9A’r rhai oedd o’u hamgylch hwynt a’u cynorthwyasant ym mhob peth, ag arian, ac ag aur, â meirch ac anifeiliaid, ac â llawer iawn o addunol roddion, y rhai yr oedd eu meddwl wedi eu cynhyrfu at hynny.
10Y brenin Cyrus hefyd a ddug allan lestri sanctaidd yr Arglwydd, y rhai a ddygasai Nabuchodonosor ymaith o Jerwsalem, ac a’u cysegrasai yn nheml ei eilunod:
11A phan ddug Cyrus brenin y Persiaid hwynt allan, efe a’u rhoddodd hwynt at Mithridates ei drysorydd,
12I’w rhoddi hwynt i Sanabassar rhaglaw Jwdea.
13Dyma eu rhifedi hwynt; Mil o gawgiau aur, a mil o gawgiau arian, o noeau arian i’r ebyrth naw ar hugain, deg ar hugain o ffiolau aur, ac o arian ddwy fil pedwar cant a deg; a mil o lestri eraill.
14Felly yr holl lestri aur ac arian, y rhai a ddygasid ymaith, oedd bum mil, pedwar cant, a naw a thrigain.
15A Sanabassar a’u dug hwynt gyda’r rhai a aethant o gaethiwed Babilon i Jerwsalem.
16Ond yn amser Artacsercses brenin y Persiaid; Belemus, a Mithridates, a Thabelius, a Rathumus, a Beeltethmus, a Semelius y sgrifennydd, ac eraill o’u cyd-swyddwyr hwynt, y rhai oedd yn aros yn Samaria, ac mewn lleoedd eraill, a sgrifenasant ato y llythyr hwn yn erbyn y rhai oedd yn preswylio yn Jwdea a Jerwsalem: At y brenin Artacsercses ein harglwydd;
17Dy weision di, Rathumus sgrifennydd historïau, a Semelius y sgrifennydd ac eraill o’u cyd-gynghorwyr, a’r barnwyr sydd yn Celo-Syria ac yn Phenice:
18Bydded hysbys i’n harglwydd frenin fod yr Iddewon a ddaethant oddi wrthych chwi atom ni i Jerwsalem, y ddinas wrthryfelgar ddrygionus honno, yn adeiladu’r farchnadle, ac yn adnewyddu ei muriau hi, ac yn gosod sylfaenau’r deml.
19Yn awr os adeiledir y ddinas hon, ac adnewyddu ei muriau hi, ni wrthodant yn unig dalu teyrnged, eithr hwy a wrthwynebant frenhinoedd.
20Oherwydd bod y pethau sy’n perthynu i’r deml yn myned rhagddynt, ni thybiasom fod yn weddaidd gollwng heibio y fath beth,
21Eithr ei ddangos ef i’n harglwydd y brenin modd y gallech di, o rhyngai fodd i ti, chwilio yn llyfrau dy dadau;
22A thi a gei yn y Croniclau y pethau sy sgrifenedig am y pethau hyn, fel y ceffych wybod fod y ddinas hon yn gwrthryfela, ac yn gwneuthur blinder i frenhinoedd ac i ddinasoedd,
23A bod yr Iddewon yn wrthryfelgar, ac yn magu terfysgau ynddi erioed; oherwydd yr hwn beth y darfu dinistrio’r ddinas hon.
24Am hynny yn awr, O arglwydd frenin, yr ydym ni yn hysbysu i ti, os adeiledir y ddinas hon, ac os cyweirir ei muriau hi, ni bydd i ti ffordd i fyned i Celo-Syria nac i Phenice.
25Yna y brenin a sgrifennodd drachefn at Rathumus yr historiawr, ac at Beeltethmus, ac at Semelius y sgrifennydd, ac at eraill o’u cyd-swyddwyr, a thrigolion Samaria, Syria, a Phenice, yn y wedd hon;
26Myfi a ddarllenais y llythyr a ddanfonasoch ataf: am hynny mi a orchmynnais chwilio; ac fe a gafwyd fod y ddinas hon erioed yn gwrthwynebu brenhinoedd,
27A bod ei phobl yn gwneuthur terfysgoedd a rhyfeloedd, a bod brenhinoedd cryfion a chedyrn yn teyrnasu yn Jerwsalem, y rhai oedd yn teyrnasu, ac yn mynnu teyrnged o Celo-Syria a Phenice.
28Oherwydd hynny y gorchmynnais yn awr wahardd i’r gwŷr hyn adeiladu’r ddinas, a gwylied rhag gwneuthur ohonynt ddim mwyach,
29Ac na chaffai’r gweithwyr drygionus hynny fyned rhagddynt ymhellach, i flino’r brenin.
30Ac wedi i Rathumus, a Semelius yr ysgrifennydd, ac eraill eu cyd-swyddwyr, ddarllen y pethau a sgrifenasai’r brenin Artacsercses, yna hwy a ddaethant ar ffrwst i Jerwsalem, â byddin o wŷr meirch, a sawdwyr lawer, ac a ddechreuasant rwystro’r adeiladwyr, fel y peidiodd adeiladaeth y deml yn Jerwsalem hyd yr ail flwyddyn o deyrnasiad Dareius brenin y Persiaid.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.