1 Pedr 3 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Yr un ffunud, bydded y gwragedd ostyngedig i’w gwŷr priod; fel, od oes rhai heb gredu i’r gair, y galler trwy ymarweddiad y gwragedd, eu hennill hwy heb y gair,

2Wrth edrych ar eich ymarweddiad diwair chwi ynghyd ag ofn.

3Trwsiad y rhai bydded nid yr un oddi allan, o blethiad gwallt, ac amgylch-osodiad aur, neu wisgad dillad;

4Eithr bydded cuddiedig ddyn y galon, mewn anllygredigaeth ysbryd addfwyn a llonydd, yr hwn sydd gerbron Duw yn werthfawr.

5Canys felly gynt yr oedd y gwragedd sanctaidd hefyd, y rhai oedd yn gobeithio yn Nuw, yn ymdrwsio, gan fod yn ddarostyngedig i’w gwŷr priod;

6Megis yr ufuddhaodd Sara i Abraham, gan ei alw ef yn arglwydd: merched yr hon ydych chwi, tra fyddoch yn gwneuthur yn dda, ac heb ofni dim dychryn.

7Y gwŷr, yr un ffunud, cydgyfanheddwch â hwynt yn ôl gwybodaeth, gan roddi parch i’r wraig megis i’r llestr gwannaf, fel rhai sydd gyd-etifeddion gras y bywyd; rhag rhwystro eich gweddïau.

8Am ben hyn, byddwch oll yn unfryd, yn cydoddef â’ch gilydd, yn caru fel brodyr, yn drugarogion, yn fwynaidd:

9Nid yn talu drwg am ddrwg, neu sen am sen: eithr, yng ngwrthwyneb, yn bendithio; gan wybod mai i hyn y’ch galwyd, fel yr etifeddoch fendith.

10Canys y neb a ewyllysio hoffi bywyd, a gweled dyddiau da, atalied ei dafod oddi wrth ddrwg, a’i wefusau rhag adrodd twyll:

11Gocheled y drwg, a gwnaed y da; ceisied heddwch, a dilyned ef.

12Canys y mae llygaid yr Arglwydd ar y rhai cyfiawn, a’i glustiau ef tuag at eu gweddi hwynt: eithr y mae wyneb yr Arglwydd yn erbyn y rhai sydd yn gwneuthur drwg.

13A phwy a’ch dryga chwi, os byddwch yn dilyn yr hyn sydd dda?

14Eithr o bydd i chwi hefyd ddioddef oherwydd cyfiawnder, dedwydd ydych: ond nac ofnwch rhag eu hofn hwynt, ac na’ch cynhyrfer;

15Eithr sancteiddiwch yr Arglwydd Dduw yn eich calonnau: a byddwch barod bob amser i ateb i bob un a ofynno i chwi reswm am y gobaith sydd ynoch, gydag addfwynder ac ofn:

16A chennych gydwybod dda; fel yn yr hyn y maent yn eich goganu megis drwgweithredwyr, y cywilyddio’r rhai sydd yn beio ar eich ymarweddiad da chwi yng Nghrist.

17Canys gwell ydyw, os ewyllys Duw a’i myn, i chwi ddioddef yn gwneuthur daioni, nag yn gwneuthur drygioni.

18Oblegid Crist hefyd unwaith a ddioddefodd dros bechodau, y Cyfiawn dros yr anghyfiawn, fel y dygai ni at Dduw, wedi ei farwolaethu yn y cnawd, eithr ei fywhau yn yr Ysbryd:

19Trwy’r hwn yr aeth efe hefyd ac a bregethodd i’r ysbrydion yng ngharchar;

20Y rhai a fu gynt anufudd, pan unwaith yr oedd hir amynedd Duw yn aros yn nyddiau Noe, tra darperid yr arch, yn yr hon ychydig, sef wyth enaid, a achubwyd trwy ddwfr.

21Cyffelybiaeth cyfatebol i’r hwn sydd yr awron yn ein hachub ninnau, sef bedydd, (nid bwrw ymaith fudreddi’r cnawd, eithr ymateb cydwybod dda tuag at Dduw;) trwy atgyfodiad Iesu Grist:

22Yr hwn sydd ar ddeheulaw Duw, wedi myned i’r nef; a’r angylion, a’r awdurdodau, a’r galluoedd, wedi eu darostwng iddo.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help