Numeri 35 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, yn agos i Jericho, gan ddywedyd

2Gorchymyn i feibion Israel, roddi ohonynt i’r Lefiaid, o etifeddiaeth eu meddiant, ddinasoedd i drigo ynddynt: rhoddwch hefyd i’r Lefiaid faes pentrefol wrth y dinasoedd o’u hamgylch.

3A’r dinasoedd fyddant iddynt i drigo ynddynt; a’u pentrefol feysydd fyddant i’w hanifeiliaid, ac i’w cyfoeth, ac i’w holl fwystfilod.

4A meysydd pentrefol y dinasoedd y rhai a roddwch i’r Lefiaid, a gyrhaeddant o fur y ddinas tuag allan, fil o gufyddau o amgylch.

5A mesurwch o’r tu allan i’r ddinas, o du’r dwyrain ddwy fil o gufyddau, a thua’r deau ddwy fil o gufyddau, a thua’r gorllewin ddwy fil o gufyddau, a thua’r gogledd ddwy fil o gufyddau; a’r ddinas fydd yn y canol: hyn fydd iddynt yn feysydd pentrefol y dinasoedd.

6Ac o’r dinasoedd a roddwch i’r Lefiaid, bydded chwech yn ddinasoedd noddfa, y rhai a roddwch, fel y gallo’r llawruddiog ffoi yno: a rhoddwch ddwy ddinas a deugain atynt yn ychwaneg.

7Yr holl ddinasoedd a roddwch i’r Lefiaid, fyddant wyth ddinas a deugain, hwynt a’u pentrefol feysydd.

8A’r dinasoedd y rhai a roddwch, fydd o feddiant meibion Israel: oddi ar yr aml eu dinasoedd, y rhoddwch yn aml; ac oddi ar y prin, y rhoddwch yn brin: pob un yn ôl ei etifeddiaeth a etifeddant, a rydd i’r Lefiaid o’i ddinasoedd.

9A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,

10Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan eloch dros yr Iorddonen i dir Canaan;

11Yna gosodwch i chwi ddinasoedd; dinasoedd noddfa fyddant i chwi: ac yno y ffy y llawruddiog a laddo ddyn mewn amryfusedd.

12A’r dinasoedd fyddant i chwi yn noddfa rhag y dialydd; fel na ladder y llawruddiog, hyd oni safo gerbron y gynulleidfa mewn barn.

13Ac o’r dinasoedd y rhai a roddwch, chwech fydd i chwi yn ddinasoedd noddfa.

14Tair dinas a roddwch o’r tu yma i’r Iorddonen, a thair dinas a roddwch yn nhir Canaan: dinasoedd noddfa fyddant hwy.

15I feibion Israel, ac i’r dieithr, ac i’r ymdeithydd a fyddo yn eu mysg, y bydd y chwe dinas hyn yn noddfa; fel y gallo pob un a laddo ddyn mewn amryfusedd, ffoi yno.

16Ac os ag offeryn haearn y trawodd ef, fel y bu farw, llawruddiog yw efe: lladder y llawruddiog yn farw.

17Ac os â charreg law, yr hon y byddai efe farw o’i phlegid, y trawodd ef, a’i farw; llawruddiog yw efe; lladder y llawruddiog yn farw.

18Neu os efe a’i trawodd ef â llawffon, yr hon y byddai efe farw o’i phlegid, a’i farw; llawruddiog yw efe: lladder y llawruddiog yn farw.

19Dialydd y gwaed a ladd y llawruddiog pan gyfarfyddo ag ef, efe a’i lladd ef.

20Ac os mewn cas y gwthia efe ef, neu y teifl ato mewn bwriad, fel y byddo efe farw;

21Neu ei daro ef â’i law, mewn galanastra, fel y byddo farw: lladder yn farw yr hwn a’i trawodd; llofrudd yw hwnnw: dialydd y gwaed a ladd y llofrudd pan gyfarfyddo ag ef.

22Ond os yn ddisymwth, heb alanastra, y gwthia efe ef, neu y teifl ato un offeryn yn ddifwriad;

23Neu ei daro ef â charreg, y byddai efe farw o’i phlegid, heb ei weled ef; a pheri iddi syrthio arno, fel y byddo farw, ac efe heb fod yn elyn, ac heb geisio niwed iddo ef:

24Yna barned y gynulleidfa rhwng y trawydd a dialydd y gwaed, yn ôl y barnedigaethau hyn.

25Ac achubed y gynulleidfa y llofrudd o law dialydd y gwaed, a thröed y gynulleidfa ef i ddinas ei noddfa, yr hon y ffodd efe iddi: a thriged yntau ynddi hyd farwolaeth yr archoffeiriad, yr hwn a eneiniwyd â’r olew cysegredig.

26Ac os y llofrudd gan fyned a â allan o derfyn dinas ei noddfa, yr hon y ffodd efe iddi;

27A’i gael o ddialydd y gwaed allan o derfyn dinas ei noddfa, a lladd o ddialydd y gwaed y llofrudd; na rodder hawl gwaed yn ei erbyn:

28Canys o fewn dinas ei noddfa y dyly drigo, hyd farwolaeth yr archoffeiriad: ac wedi marwolaeth yr archoffeiriad, dychweled y llofrudd i dir ei etifeddiaeth.

29A hyn fydd i chwi yn ddeddf farnedig trwy eich cenedlaethau, yn eich holl drigfannau.

30Pwy bynnag a laddo ddyn, wrth a ddywedo tystion y lleddir y llofrudd: ac un tyst ni chaiff dystiolaethu yn erbyn dyn, i beri iddo farw.

31Hefyd, na chymerwch iawn am einioes y llofrudd, yr hwn sydd euog i farw; ond lladder ef yn farw.

32Ac na chymerwch iawn gan yr hwn a ffodd i ddinas ei noddfa, er cael dychwelyd i drigo yn y tir, hyd farwolaeth yr offeiriad;

33Fel na halogoch y tir yr ydych ynddo; canys y gwaed hwn a haloga’r tir: a’r tir ni lanheir oddi wrth y gwaed a dywallter arno, ond â gwaed yr hwn a’i tywalltodd.

34Am hynny nac aflanha y tir y trigoch ynddo, yr hwn yr ydwyf fi yn preswylio yn ei ganol: canys myfi yr ARGLWYDD ydwyf yn preswylio yng nghanol meibion Israel.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help