1Dyma eiriau y cyfamod a orchmynnodd yr ARGLWYDD wrth Moses ei wneuthur â meibion Israel, yn nhir Moab, heblaw y cyfamod a amododd efe â hwynt yn Horeb.
2A Moses a alwodd ar holl Israel, ac a ddywedodd wrthynt, Chwi a welsoch yr hyn oll a wnaeth yr ARGLWYDD o flaen eich llygaid chwi yn nhir yr Aifft, i Pharo, ac i’w holl weision, ac i’w holl dir;
3Y profedigaethau mawrion a welodd eich llygaid, yr arwyddion a’r rhyfeddodau mawrion hynny:
4Ond ni roddodd yr ARGLWYDD i chwi galon i wybod, na llygaid i weled, na chlustiau i glywed, hyd y dydd hwn.
5Arweiniais chwi hefyd yn yr anialwch ddeugain mlynedd: ni heneiddiodd eich dillad amdanoch, ac ni heneiddiodd dy esgid am dy droed.
6Bara ni fwytasoch, a gwin neu ddiod gref nid yfasoch: fel y gwybyddech mai myfi yw yr ARGLWYDD eich DUW chwi.
7A daethoch hyd y lle hwn: yna daeth allan Sehon brenin Hesbon, ac Og brenin Basan, i’n cyfarfod mewn rhyfel; a ni a’u lladdasom hwynt:
8Ac a ddygasom eu tir hwynt, ac a’i rhoesom yn etifeddiaeth i’r Reubeniaid, ac i’r Gadiaid, ac i hanner llwyth Manasse.
9Cedwch gan hynny eiriau y cyfamod hwn, a gwnewch hwynt: fel y llwyddoch ym mhob peth a wneloch.
10Yr ydych chwi oll yn sefyll heddiw gerbron yr ARGLWYDD eich DUW; penaethiaid eich llwythau, eich henuriaid, a’ch swyddogion, a holl wŷr Israel,
11Eich plant, eich gwragedd, a’th ddieithrddyn yr hwn sydd o fewn dy wersyll, o gymynydd dy goed hyd wehynnydd dy ddwfr:
12I fyned ohonot dan gyfamod yr ARGLWYDD dy DDUW, a than ei gynghrair ef, yr hwn y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei wneuthur â thi heddiw:
13I’th sicrhau heddiw yn bobl iddo ei hun, ac i fod ohono yntau yn DDUW i ti, megis y llefarodd wrthyt, ac fel y tyngodd wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob.
14Ac nid â chwi yn unig yr ydwyf fi yn gwneuthur y cyfamod hwn, a’r cynghrair yma;
15Ond â’r hwn sydd yma gyda ni yn sefyll heddiw gerbron yr ARGLWYDD ein DUW, ac â’r hwn nid yw yma gyda ni heddiw:
16(Canys chwi a wyddoch y modd y trigasom ni yn nhir yr Aifft, a’r modd y daethom trwy ganol y cenhedloedd y rhai y daethoch trwyddynt;
17A chwi a welsoch eu ffieidd-dra hwynt a’u heilun-dduwiau, pren a maen, arian ac aur, y rhai oedd yn eu mysg hwynt:)
18Rhag bod yn eich mysg ŵr, neu wraig, neu deulu, neu lwyth, yr hwn y try ei galon heddiw oddi wrth yr ARGLWYDD ein DUW, i fyned i wasanaethu duwiau y cenhedloedd hyn; rhag bod yn eich mysg wreiddyn yn dwyn gwenwyn a wermod:
19A bod, pan glywo efe eiriau y felltith hon, ymfendithio ohono yn ei galon ei hun, gan ddywedyd, Heddwch fydd i mi, er i mi rodio yng nghyndynrwydd fy nghalon, i chwanegu meddwdod at syched:
20Ni fyn yr ARGLWYDD faddau iddo; canys yna y myga dicllonedd yr ARGLWYDD a’i eiddigedd yn erbyn y gŵr hwnnw, a’r holl felltithion sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn a orwedd arno ef, a’r ARGLWYDD a ddilea ei enw ef oddi tan y nefoedd.
21A’r ARGLWYDD a’i neilltua ef oddi wrth holl lwythau Israel, i gael drwg, yn ôl holl felltithion y cyfamod a ysgrifennwyd yn llyfr y gyfraith hon.
22A dywed y genhedlaeth a ddaw ar ôl, sef eich plant chwi, y rhai a godant ar eich ôl chwi, a’r dieithr yr hwn a ddaw o wlad bell, pan welont blâu y wlad hon, a’i chlefydau, trwy y rhai y mae yr ARGLWYDD yn ei chlwyfo hi;
23A’i thir wedi ei losgi oll gan frwmstan a halen, na heuir ef, ac na flaendardda, ac na ddaw i fyny un llysieuyn ynddo, fel dinistr Sodom a Gomorra, Adma a Seboim, y rhai a ddinistriodd yr ARGLWYDD yn ei lid a’i ddigofaint:
24Ie, yr holl genhedloedd a ddywedant, Paham y gwnaeth yr ARGLWYDD fel hyn i’r tir hwn? pa ddicter yw y digofaint mawr hwn?
25Yna y dywedir, Am wrthod ohonynt gyfamod ARGLWYDD DDUW eu tadau, yr hwn a amododd efe â hwynt pan ddug efe hwynt allan o dir yr Aifft.
26Canys aethant a gwasanaethasant dduwiau dieithr, ac ymgrymasant iddynt; sef duwiau nid adwaenent hwy, ac ni roddasai efe iddynt.
27Am hynny yr enynnodd dicllonedd yr ARGLWYDD yn erbyn y wlad hon, i ddwyn arni bob melltith a’r y sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn.
28A’r ARGLWYDD a’u dinistriodd hwynt o’u tir mewn digofaint, ac mewn dicter, ac mewn llid mawr, ac a’u gyrrodd hwynt i wlad arall, megis y gwelir heddiw.
29Y dirgeledigaethau sydd eiddo yr ARGLWYDD ein DUW, a’r pethau amlwg a roddwyd i ni, ac i’n plant hyd byth; fel y gwnelom holl eiriau y gyfraith hon.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.