1A Dafydd a lefarodd wrth yr ARGLWYDD eiriau y gân hon, yn y dydd y gwaredodd yr ARGLWYDD ef o law ei holl elynion, ac o law Saul.
2Ac efe a ddywedodd, Yr ARGLWYDD yw fy nghraig, a’m hamddiffynfa, a’m gwaredydd i;
3DUW fy nghraig, ynddo ef yr ymddiriedaf: fy nharian, a chorn fy iachawdwriaeth, fy uchel dŵr a’m noddfa, fy achubwr; rhag trais y’m hachubaist.
4Galwaf ar yr ARGLWYDD canmoladwy: felly y’m cedwir rhag fy ngelynion.
5Canys gofidion angau a’m cylchynasant; afonydd y fall a’m dychrynasant i.
6Doluriau uffern a’m hamgylchynasant; maglau angau a’m rhagflaenasant.
7Yn fy nghyfyngdra y gelwais ar yr ARGLWYDD, ac y gwaeddais ar fy NUW; ac efe a glybu fy llef o’i deml, a’m gwaedd a aeth i’w glustiau ef.
8Yna y cynhyrfodd ac y crynodd y ddaear: seiliau y nefoedd a gyffroesant ac a ymsiglasant, am iddo ef ddigio.
9Dyrchafodd mwg o’i ffroenau ef, a thân o’i enau ef a ysodd: glo a enynasant ganddo ef.
10Efe a ogwyddodd y nefoedd, ac a ddisgynnodd; a thywyllwch oedd dan ei draed ef.
11Marchogodd efe hefyd ar y ceriwb, ac a ehedodd: ie, efe a welwyd ar adenydd y gwynt.
12Efe a osododd y tywyllwch yn bebyll o’i amgylch; sef casgliad y dyfroedd, a thew gymylau yr awyr.
13Gan y disgleirdeb ger ei fron ef yr enynnodd y marwor tanllyd.
14Yr ARGLWYDD a daranodd o’r nefoedd, a’r Goruchaf a roddes ei lef.
15Ac efe a anfonodd ei saethau, ac a’u gwasgarodd hwynt; mellt, ac a’u drylliodd hwynt.
16Gwaelodion y môr a ymddangosodd, a seiliau y byd a ddinoethwyd, gan gerydd yr ARGLWYDD, a chan chwythad anadl ei ffroenau ef.
17Efe a anfonodd oddi uchod: cymerodd fi; tynnodd fi o ddyfroedd lawer.
18Gwaredodd fi rhag fy ngelyn cadarn, a rhag fy nghaseion; am eu bod yn drech na mi.
19Achubasant fy mlaen yn nydd fy ngofid: ond yr ARGLWYDD oedd gynhaliad i mi.
20Efe a’m dug i ehangder: efe a’m gwaredodd i, am iddo ymhoffi ynof.
21Yr ARGLWYDD a’m gobrwyodd yn ôl fy nghyfiawnder: yn ôl glendid fy nwylo y talodd efe i mi.
22Canys mi a gedwais ffyrdd yr ARGLWYDD, ac ni chiliais yn annuwiol oddi wrth fy NUW.
23Oherwydd ei holl farnedigaethau ef oedd ger fy mron i: ac oddi wrth ei ddeddfau ni chiliais i.
24Bûm hefyd berffaith ger ei fron ef; ac ymgedwais rhag fy anwiredd.
25A’r ARGLWYDD a’m gobrwyodd innau yn ôl fy nghyfiawnder; yn ôl fy nglendid o flaen ei lygaid ef.
26A’r trugarog y gwnei drugaredd: â’r gŵr perffaith y gwnei berffeithrwydd.
27A’r glân y gwnei lendid; ac â’r cyndyn yr ymgyndynni.
28Y bobl gystuddiedig a waredi: ond y mae dy lygaid ar y rhai uchel, i’w darostwng.
29Canys ti yw fy nghannwyll i, O ARGLWYDD; a’r ARGLWYDD a lewyrcha fy nhywyllwch.
30Oblegid ynot ti y rhedaf trwy fyddin: trwy fy NUW y llamaf dros fur.
31DUW sydd berffaith ei ffordd; ymadrodd yr ARGLWYDD sydd buredig: tarian yw efe i bawb a ymddiriedant ynddo.
32Canys pwy sydd DDUW, heblaw yr ARGLWYDD? a phwy sydd graig, eithr ein DUW ni?
33DUW yw fy nghadernid a’m nerth; ac a rwyddhaodd fy ffordd i yn berffaith.
34Efe sydd yn gwneuthur fy nhraed fel traed ewigod; ac efe sydd yn fy ngosod ar fy uchelfaoedd.
35Efe sydd yn dysgu fy nwylo i ryfel; fel y dryllir bwa dur yn fy mreichiau.
36Rhoddaist hefyd i mi darian dy iachawdwriaeth; ac â’th fwynder y lluosogaist fi.
37Ehengaist fy ngherddediad danaf; fel na lithrodd fy sodlau.
38Erlidiais fy ngelynion, a difethais hwynt; ac ni ddychwelais nes eu difa hwynt.
39Difeais hwynt hefyd, a thrywenais hwynt, fel na chyfodent; a hwy a syrthiasant dan fy nhraed i.
40Canys ti a’m gwregysaist i â nerth i ryfel: y rhai a ymgyfodent i’m herbyn, a ddarostyngaist danaf.
41Rhoddaist hefyd i mi warrau fy ngelynion; fel y difethwn fy nghaseion.
42Disgwyliasant, ond nid oedd achubydd; sef am yr ARGLWYDD, ond nid atebodd hwynt.
43Yna y maluriais hwynt fel llwch y ddaear; melais hwynt fel tom yr heolydd, a thaenais hwynt.
44Gwaredaist fi rhag cynhennau fy mhobl; cedwaist fi yn ben ar genhedloedd: pobl nid adnabûm a’m gwasanaethant.
45Meibion dieithr a gymerant arnynt ymddarostwng i mi: pan glywant, gwrandawant arnaf fi.
46Meibion dieithr a ballant, ac a ddychrynant o’u carchardai.
47Byw fyddo yr ARGLWYDD, a bendigedig fyddo fy nghraig; a dyrchafer DUW, craig fy iachawdwriaeth.
48DUW sydd yn fy nial i, ac sydd yn darostwng pobloedd danaf fi,
49Ac sydd yn fy nhywys i o blith fy ngelynion: ti hefyd a’m dyrchefaist uwchlaw y rhai a gyfodent i’m herbyn; rhag y gŵr traws y’m hachubaist i.
50Am hynny y moliannaf di, O ARGLWYDD, ymhlith y cenhedloedd, ac y canaf i’th enw.
51Efe sydd dŵr iachawdwriaeth i’w frenin; ac yn gwneuthur trugaredd i’w eneiniog, i Dafydd, ac i’w had yn dragywydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.