2 Samuel 17 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Dywedodd Ahitoffel hefyd wrth Absalom, Gad i mi yn awr ddewis deuddeng mil o wŷr, a mi a gyfodaf ac a erlidiaf ar ôl Dafydd y nos hon.

2A mi a ddeuaf arno tra fyddo ef yn lluddedig, ac yn wan ei ddwylo, ac a’i brawychaf ef: a ffy yr holl bobl sydd gydag ef; a mi a drawaf y brenin yn unig.

3A throaf yr holl bobl atat ti: megis pe dychwelai pob un, yw y gŵr yr ydwyt ti yn ei geisio: felly yr holl bobl fydd mewn heddwch.

4A da fu’r peth yng ngolwg Absalom, ac yng ngolwg holl henuriaid Israel.

5Yna y dywedodd Absalom, Galw yn awr hefyd ar Husai yr Arciad, a gwrandawn beth a ddywedo yntau hefyd.

6A phan ddaeth Husai at Absalom, llefarodd Absalom wrtho ef, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedodd Ahitoffel: a wnawn ni ei gyngor ef? onid e, dywed di.

7A dywedodd Husai wrth Absalom, Nid da y cyngor a gynghorodd Ahitoffel y waith hon.

8Canys, eb Husai, ti a wyddost am dy dad a’i wŷr, mai cryfion ydynt hwy, a chreulon eu meddwl, megis arth wedi colli ei chenawon yn y maes: dy dad hefyd sydd ryfelwr, ac nid erys efe dros nos gyda’r bobl.

9Wele, yn awr y mae efe yn llechu mewn rhyw ogof, neu mewn rhyw le: a phan syrthio rhai ohonynt yn y dechrau, yna y bobl a glyw, ac a ddywed, Bu laddfa ymysg y bobl sydd ar ôl Absalom.

10Yna yr un grymus, yr hwn y mae ei galon fel calon llew, a lwfrha: canys gŵyr holl Israel mai glew yw dy dad di, ac mai gwŷr grymus yw y rhai sydd gydag ef.

11Am hynny y cynghoraf, lwyr gasglu atat ti holl Israel, o Dan hyd Beer-seba, fel y tywod wrth y môr o amldra, a myned o’th wyneb di dy hun i’r rhyfel.

12Felly y deuwn arno ef i un o’r lleoedd yr hwn y ceffir ef ynddo, ac a ruthrwn arno ef fel y syrth y gwlith ar y ddaear: ac ni adewir dim ohono ef, nac un chwaith o’r holl wŷr sydd gydag ef.

13Ond os i ddinas yr ymgasgl efe, yna holl Israel a ddygant raffau at y ddinas honno, a ni a’i tynnwn hi i’r afon, fel na chaffer yno un garegan.

14A dywedodd Absalom, a holl wŷr Israel, Gwell yw cyngor Husai yr Arciad na chyngor Ahitoffel. Canys yr ARGLWYDD a ordeiniasai ddiddymu cyngor da Ahitoffel, fel y dygai yr ARGLWYDD ddrwg ar Absalom.

15Yna y dywedodd Husai wrth Sadoc ac wrth Abiathar yr offeiriaid, Fel hyn ac fel hyn y cynghorodd Ahitoffel i Absalom ac i henuriaid Israel: ac fel hyn ac fel hyn y cynghorais innau.

16Yn awr gan hynny anfonwch yn fuan, a mynegwch i Dafydd, gan ddywedyd, Nac aros dros nos yng ngwastadedd yr anialwch, ond gan fyned dos; rhag difa’r brenin a’r holl bobl sydd gydag ef.

17Jonathan hefyd ac Ahimaas oedd yn sefyll wrth En-rogel; ac fe aeth llances ac a fynegodd iddynt. Hwythau a aethant ac a fynegasant i’r brenin Dafydd: canys ni allent hwy ymddangos i fyned i’r ddinas.

18Eto llanc a’u gwelodd hwynt, ac a fynegodd i Absalom: ond hwy a aethant ymaith ill dau yn fuan, ac a ddaethant i dŷ gŵr yn Bahurim, ac iddo ef yr oedd pydew yn ei gyntedd; a hwy a aethant i waered yno.

19A’r wraig a gymerth ac a ledodd glawr ar wyneb y pydew, ac a daenodd arno falurion ŷd; fel na wybuwyd y peth.

20A phan ddaeth gweision Absalom at y wraig i’r tŷ, hwy a ddywedasant, Pa le y mae Ahimaas a Jonathan? A’r wraig a ddywedodd wrthynt, Hwy a aethant dros yr aber ddwfr. A phan geisiasant, ac nas cawsant hwynt, yna y dychwelasant i Jerwsalem.

21Ac ar ôl iddynt hwy fyned ymaith, yna y lleill a ddaethant i fyny o’r pydew, ac a aethant ac a fynegasant i’r brenin Dafydd; ac a ddywedasant wrth Dafydd, Cyfodwch, ac ewch yn fuan dros y dwfr; canys fel hyn y cynghorodd Ahitoffel yn eich erbyn chwi.

22Yna y cododd Dafydd a’r holl bobl y rhai oedd gydag ef, ac a aethant dros yr Iorddonen: erbyn goleuo’r bore nid oedd un yn eisiau a’r nad aethai dros yr Iorddonen.

23A phan welodd Ahitoffel na wnaethid ei gyngor ef, efe a gyfrwyodd ei asyn, ac a gyfododd, ac a aeth i’w dŷ ei hun, i’w ddinas, ac a wnaeth drefn ar ei dŷ, ac a ymgrogodd, ac a fu farw, ac a gladdwyd ym meddrod ei dad.

24Yna Dafydd a ddaeth i Mahanaim. Ac Absalom a aeth dros yr Iorddonen, efe a holl wŷr Israel gydag ef.

25Ac Absalom a osododd Amasa yn lle Joab ar y llu, Ac Amasa oedd fab i ŵr a’i enw Ithra, yr hwn oedd Israeliad, yr hwn a aeth i mewn at Abigail merch Nahas, chwaer Serfia, mam Joab.

26Felly y gwersyllodd Israel ac Absalom yng ngwlad Gilead.

27A phan ddaeth Dafydd i Mahanaim, Sobi mab Nahas o Rabba meibion Ammon, a Machir mab Ammïel o Lo-debar, a Barsilai y Gileadiad o Rogelim,

28A ddygasant welyau, a chawgiau, a llestri pridd, a gwenith, a haidd, a blawd, a chras ŷd, a ffa, a ffacbys, a chras bys,

29A mêl, ac ymenyn, a defaid, a chaws gwartheg, i Dafydd, ac i’r bobl oedd gydag ef, i’w bwyta. Canys dywedasant, Y mae y bobl yn newynog, yn flin hefyd, ac yn sychedig yn yr anialwch.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help