Jeremeia 28 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Ac yn y flwyddyn honno, yn nechrau teyrnasiad Sedeceia brenin Jwda, yn y bedwaredd flwyddyn, ar y pumed mis, y llefarodd Hananeia mab Asur y proffwyd, yr hwn oedd o Gibeon, wrthyf fi yn nhŷ yr ARGLWYDD, yng ngŵydd yr offeiriaid a’r holl bobl, gan ddywedyd,

2Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel, gan ddywedyd, Myfi a dorrais iau brenin Babilon.

3O fewn ysbaid dwy flynedd myfi a ddygaf drachefn i’r lle hwn holl lestri tŷ yr ARGLWYDD, y rhai a gymerth Nebuchodonosor brenin Babilon ymaith o’r lle hwn, ac a’u dug i Babilon;

4Ac mi a ddygaf Jechoneia mab Jehoiacim brenin Jwda, a holl gaethglud Jwda, y rhai a aethant i Babilon, drachefn i’r lle hwn, medd yr ARGLWYDD; canys mi a dorraf iau brenin Babilon.

5Yna Jeremeia y proffwyd a ddywedodd wrth Hananeia y proffwyd, yng ngŵydd yr offeiriaid, ac yng ngŵydd yr holl bobl, y rhai oedd yn sefyll yn nhŷ yr ARGLWYDD;

6Ie, y proffwyd Jeremeia a ddywedodd, Amen, poed felly y gwnelo yr ARGLWYDD: yr ARGLWYDD a gyflawno dy eiriau di, y rhai a broffwydaist, am ddwyn drachefn lestri tŷ yr ARGLWYDD, a’r holl gaethglud, o Babilon i’r lle hwn.

7Eto, gwrando di yr awr hon y gair yma, yr hwn a lefaraf fi lle y clywech di a lle clywo yr holl bobl;

8Y proffwydi y rhai a fuant o’m blaen i, ac o’th flaen dithau erioed, a broffwydasant yn erbyn gwledydd lawer, ac yn erbyn teyrnasoedd mawrion, am ryfel, ac am ddrygfyd, ac am haint.

9Y proffwyd a broffwydo am heddwch, pan ddêl gair y proffwyd i ben, yr adnabyddir y proffwyd, mai yr ARGLWYDD a’i hanfonodd ef mewn gwirionedd.

10Yna Hananeia y proffwyd a gymerodd y gefyn oddi am wddf Jeremeia y proffwyd, ac a’i torrodd ef.

11A Hananeia a lefarodd yng ngŵydd yr holl bobl, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Y modd hyn y torraf fi iau Nebuchodonosor brenin Babilon o fewn ysbaid dwy flynedd oddi ar war pob cenedl. A Jeremeia y proffwyd a aeth i ffordd.

12Yna y daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia y proffwyd, wedi i Hananeia y proffwyd dorri y gefyn oddi am wddf y proffwyd Jeremeia, gan ddywedyd,

13Dos di, a dywed i Hananeia, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Gefynnau pren a dorraist ti; ond ti a wnei yn eu lle hwynt efynnau o haearn.

14Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel; Rhoddaf iau o haearn ar war yr holl genhedloedd hyn, fel y gwasanaethont Nebuchodonosor brenin Babilon, a hwy a’i gwasanaethant ef: mi a roddais hefyd anifeiliaid y maes iddo ef.

15Yna Jeremeia y proffwyd a ddywedodd wrth Hananeia y proffwyd, Gwrando yn awr, Hananeia; Ni anfonodd yr ARGLWYDD mohonot ti; ond yr wyt yn peri i’r bobl hyn ymddiried mewn celwydd.

16Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Wele, mi a’th fwriaf di oddi ar wyneb y ddaear: o fewn y flwyddyn hon y byddi farw, oherwydd i ti ddysgu gwrthryfel yn erbyn yr ARGLWYDD.

17Felly Hananeia y proffwyd a fu farw y flwyddyn honno, yn y seithfed mis.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help