Y Salmau 86 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 86Gweddi Dafydd.

1Gostwng, O ARGLWYDD, dy glust, gwrando fi: canys truan ac anghenus ydwyf.

2Cadw fy enaid; canys sanctaidd ydwyf: achub di dy was, O fy NUW, yr hwn sydd yn ymddiried ynot.

3Trugarha wrthyf, ARGLWYDD: canys arnat y llefaf beunydd.

4Llawenha enaid dy was: canys atat ti, Arglwydd, y dyrchafaf fy enaid.

5Canys ti, O ARGLWYDD, ydwyt dda, a maddeugar; ac o fawr drugaredd i’r rhai oll a alwant arnat.

6Clyw, ARGLWYDD, fy ngweddi; ac ymwrando â llais fy ymbil.

7Yn nydd fy nghyfyngder y llefaf arnat: canys gwrandewi fi.

8Nid oes fel tydi ymysg y duwiau, O ARGLWYDD; na gweithredoedd fel dy weithredoedd di.

9Yr holl genhedloedd y rhai a wnaethost a ddeuant, ac a addolant ger dy fron di, O Arglwydd; ac a ogoneddant dy enw.

10Canys ydwyt fawr, ac yn gwneuthur rhyfeddodau: ti yn unig wyt DDUW.

11Dysg i mi dy ffordd, O ARGLWYDD; mi a rodiaf yn dy wirionedd: una fy nghalon i ofni dy enw.

12Moliannaf di, O Arglwydd fy NUW, â’m holl galon: a gogoneddaf dy enw yn dragywydd.

13Canys mawr yw dy drugaredd tuag ataf fi: a gwaredaist fy enaid o uffern isod.

14Rhai beilchion a gyfodasant i’m herbyn, O DDUW, a chynulleidfa y trawsion a geisiasant fy enaid; ac ni’th osodasant di ger eu bron.

15Eithr ti, O Arglwydd, wyt DDUW trugarog a graslon; hwyrfrydig i lid, a helaeth o drugaredd a gwirionedd.

16Edrych arnaf, a thrugarha wrthyf: dyro dy nerth i’th was, ac achub fab dy wasanaethferch.

17Gwna i mi arwydd er daioni: fel y gwelo fy nghaseion, ac y gwaradwydder hwynt; am i ti, O ARGLWYDD, fy nghynorthwyo a’m diddanu.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help