Exodus 25 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A’r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

2Dywed wrth feibion Israel, am ddwyn ohonynt i mi offrwm: gan bob gŵr ewyllysgar ei galon y cymerwch fy offrwm.

3A dyma yr offrwm a gymerwch ganddynt; aur, ac arian, a phres,

4A sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main, a blew geifr,

5A chrwyn hyrddod yn gochion, a chrwyn daearfoch, a choed Sittim,

6Olew i’r goleuni, llysieuau i olew yr ennaint, ac i’r perarogl-darth,

7Meini onics, a meini i’w gosod yn yr effod, ac yn y ddwyfronneg.

8A gwnânt i mi gysegr; fel y gallwyf drigo yn eu mysg hwynt.

9Yn ôl holl waith y tabernacl, a gwaith ei holl ddodrefn y rhai yr ydwyf yn eu dangos i ti, felly y gwnewch.

10A gwnânt arch o goed Sittim, o ddau gufydd a hanner ei hyd, a chufydd a hanner ei lled, a chufydd a hanner ei huchder.

11A gwisg hi ag aur coeth; o fewn ac oddi allan y gwisgi hi: a gwna arni goron o aur o amgylch.

12Bwrw iddi hefyd bedair modrwy aur, a dod ar ei phedair congl; dwy fodrwy ar un ystlys iddi, a dwy fodrwy ar yr ystlys arall iddi.

13A gwna drosolion o goed Sittim, a gwisg hwynt ag aur.

14A gosod y trosolion trwy’r modrwyau gan ystlys yr arch, i ddwyn yr arch arnynt.

15Ym modrwyau yr arch y bydd y trosolion; na symuder hwynt oddi wrthi.

16A dod yn yr arch y dystiolaeth a roddaf i ti.

17A gwna drugareddfa o aur coeth, o ddau gufydd a hanner ei hyd, a chufydd a hanner ei lled.

18A gwna ddau geriwb o aur; o gyfanwaith morthwyl y gwnei hwynt, yn nau gwr y drugareddfa.

19Un ceriwb a wnei yn y naill ben, a’r ceriwb arall yn y pen arall: o’r drugareddfa ar ei dau ben hi y gwnewch y ceriwbiaid.

20A bydded y ceriwbiaid yn lledu eu hesgyll i fyny, gan orchuddio’r drugareddfa â’u hesgyll, a’u hwynebau bob un at ei gilydd: tua’r drugareddfa y bydd wynebau y ceriwbiaid.

21A dod y drugareddfa i fyny ar yr arch, ac yn yr arch dod y dystiolaeth a roddaf i ti.

22A mi a gyfarfyddaf â thi yno, ac a lefaraf wrthyt oddi ar y drugareddfa, oddi rhwng y ddau geriwb y rhai a fyddant ar arch y dystiolaeth, yr holl bethau a orchmynnwyf wrthyt i feibion Israel.

23A gwna di fwrdd o goed Sittim, o ddau gufydd ei hyd, a chufydd ei led, a chufydd a hanner ei uchder.

24A gosod aur coeth drosto, a gwna iddo goron o aur o amgylch.

25A gwna iddo wregys o led llaw o amgylch, a gwna goron aur ar ei wregys o amgylch.

26A gwna iddo bedair modrwy o aur, a dod y modrwyau wrth y pedair congl y rhai a fyddant ar ei bedwar troed.

27Ar gyfer cylch y bydd y modrwyau, yn lleoedd i’r trosolion i ddwyn y bwrdd.

28A gwna y trosolion o goed Sittim, a gwisg hwynt ag aur, fel y dyger y bwrdd arnynt.

29A gwna ei ddysglau ef, a’i lwyau, a’i gaeadau, a’i ffiolau, y rhai y tywelltir â hwynt: o aur coeth y gwnei hwynt.

30A dod ar y bwrdd y bara dangos gerbron fy wyneb yn wastadol.

31Gwna hefyd ganhwyllbren: o aur pur yn gyfanwaith y gwneir y canhwyllbren; ei baladr, ei geinciau, ei bedyll, ei gnapiau, a’i flodau, a fyddant o’r un.

32A bydd chwe chainc yn dyfod allan o’i ystlysau; tair cainc o’r canhwyllbren o un tu, a thair cainc o’r canhwyllbren o’r tu arall.

33Tair padell o waith almonau, cnap a blodeuyn ar un gainc; a thair padell o waith almonau, cnap a blodeuyn ar gainc arall: felly ar y chwe chainc a fyddo yn dyfod allan o’r canhwyllbren.

34Ac yn y canhwyllbren y bydd pedair padell ar waith almonau, a’u cnapiau a’u blodau.

35A bydd cnap dan ddwy gainc ohono, a chnap dan ddwy gainc ohono, a chnap dan ddwy gainc ohono, yn ôl y chwe chainc a ddeuant o’r canhwyllbren.

36Eu cnapiau a’u ceinciau a fyddant o’r un: y cwbl fydd aur coeth o un cyfanwaith morthwyl.

37A thi a wnei ei saith lusern ef, ac a oleui ei lusernau ef, fel y goleuo efe ar gyfer ei wyneb.

38A bydded ei efeiliau a’i gafnau o aur coeth.

39O dalent o aur coeth y gwnei ef, a’r holl lestri hyn.

40Ond gwêl wneuthur yn ôl eu portreiad hwynt, a ddangoswyd i ti yn y mynydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help