Y Salmau 127 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 127Caniad y graddau, i Solomon.

1Os yr ARGLWYDD nid adeilada y tŷ, ofer y llafuria ei adeiladwyr wrtho: os yr ARGLWYDD ni cheidw y ddinas, ofer y gwylia y ceidwad.

2Ofer i chwi foregodi, myned yn hwyr i gysgu, bwyta bara gofidiau: felly y rhydd efe hun i’w anwylyd.

3Wele, plant ydynt etifeddiaeth yr ARGLWYDD: ei wobr ef yw ffrwyth y groth.

4Fel y mae saethau yn llaw y cadarn; felly y mae plant ieuenctid.

5Gwyn ei fyd y gŵr a lanwodd ei gawell saethau â hwynt: nis gwaradwyddir hwy, pan ymddiddanant â’r gelynion yn y porth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help