Mathew 20 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Canys teyrnas nefoedd sydd debyg i ŵr o berchen tŷ, yr hwn a aeth allan a hi yn dyddhau, i gyflogi gweithwyr i’w winllan.

2Ac wedi cytuno â’r gweithwyr er ceiniog y dydd, efe a’u hanfonodd hwy i’w winllan.

3Ac efe a aeth allan ynghylch y drydedd awr, ac a welodd eraill yn sefyll yn segur yn y farchnadfa;

4Ac a ddywedodd wrthynt, Ewch chwithau i’r winllan; a pha beth bynnag a fyddo cyfiawn, mi a’i rhoddaf i chwi.

5A hwy a aethant ymaith. Ac efe a aeth allan drachefn ynghylch y chweched a’r nawfed awr, ac a wnaeth yr un modd.

6Ac efe a aeth allan ynghylch yr unfed awr ar ddeg, ac a gafodd eraill yn sefyll yn segur, ac a ddywedodd wrthynt, Paham y sefwch chwi yma ar hyd y dydd yn segur?

7Dywedasant wrtho, Am na chyflogodd neb nyni. Dywedodd yntau wrthynt, Ewch chwithau i’r winllan; a pha beth bynnag fyddo cyfiawn, chwi a’i cewch.

8A phan aeth hi yn hwyr, arglwydd y winllan a ddywedodd wrth ei oruchwyliwr, Galw’r gweithwyr, a dyro iddynt eu cyflog, gan ddechrau o’r rhai diwethaf hyd y rhai cyntaf.

9A phan ddaeth y rhai a gyflogasid ynghylch yr unfed awr ar ddeg, hwy a gawsant bob un geiniog.

10A phan ddaeth y rhai cyntaf, hwy a dybiasant y caent fwy; a hwythau a gawsant bob un geiniog.

11Ac wedi iddynt gael, grwgnach a wnaethant yn erbyn gŵr y tŷ,

12Gan ddywedyd, Un awr y gweithiodd y rhai olaf hyn, a thi a’u gwnaethost hwynt yn gystal â ninnau, y rhai a ddygasom bwys y dydd, a’r gwres.

13Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrth un ohonynt, Y cyfaill, nid ydwyf yn gwneuthur cam â thi: onid er ceiniog y cytunaist â mi?

14Cymer yr hyn sydd eiddot, a dos ymaith: yr ydwyf yn ewyllysio rhoddi i’r olaf hwn megis i tithau.

15Onid cyfreithlon i mi wneuthur a fynnwyf â’r eiddof fy hun? neu a ydyw dy lygad di yn ddrwg, am fy mod i yn dda?

16Felly y rhai olaf fyddant yn flaenaf, a’r rhai blaenaf yn olaf: canys llawer sydd wedi eu galw, ac ychydig wedi eu dewis.

17Ac a’r Iesu yn myned i fyny i Jerwsalem, efe a gymerth y deuddeg disgybl o’r neilltu ar y ffordd, ac a ddywedodd wrthynt,

18Wele, yr ydym ni yn myned i fyny i Jerwsalem; a Mab y dyn a draddodir i’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, a hwy a’i condemniant ef i farwolaeth,

19Ac a’i traddodant ef i’r Cenhedloedd, i’w watwar, ac i’w fflangellu, ac i’w groeshoelio: a’r trydydd dydd efe a atgyfyd.

20Yna y daeth mam meibion Sebedeus ato gyda’i meibion, gan addoli, a deisyf rhyw beth ganddo.

21Ac efe a ddywedodd wrthi, Pa beth a fynni? Dywedodd hithau wrtho, Dywed am gael o’m dau fab hyn eistedd, y naill ar dy law ddeau, a’r llall ar dy law aswy, yn dy frenhiniaeth.

22A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Ni wyddoch chwi beth yr ydych yn ei ofyn. A ellwch chwi yfed o’r cwpan yr ydwyf fi ar yfed ohono, a’ch bedyddio â’r bedydd y bedyddir fi? Dywedasant wrtho, Gallwn.

23Ac efe a ddywedodd wrthynt, Diau yr yfwch o’m cwpan, ac y’ch bedyddir â’r bedydd y’m bedyddir ag ef: eithr eistedd ar fy llaw ddeau ac ar fy llaw aswy, nid eiddof ei roddi; ond i’r sawl y darparwyd gan fy Nhad.

24A phan glybu’r deg hyn, hwy a sorasant wrth y ddau frodyr.

25A’r Iesu a’u galwodd hwynt ato, ac a ddywedodd, Chwi a wyddoch fod penaethiaid y Cenhedloedd yn tra-arglwyddiaethu arnynt, a’r rhai mawrion yn tra-awdurdodi arnynt hwy.

26Eithr nid felly y bydd yn eich plith chwi: ond pwy bynnag a fynno fod yn fawr yn eich plith chwi, bydded yn weinidog i chwi;

27A phwy bynnag a fynno fod yn bennaf yn eich plith, bydded yn was i chwi:

28Megis na ddaeth Mab y dyn i’w wasanaethu, ond i wasanaethu, ac i roddi ei einioes yn bridwerth dros lawer.

29Ac a hwy yn myned allan o Jericho, tyrfa fawr a’i canlynodd ef.

30Ac wele, dau ddeillion yn eistedd ar fin y ffordd, pan glywsant fod yr Iesu yn myned heibio, a lefasant, gan ddywedyd, Arglwydd, fab Dafydd, trugarha wrthym.

31A’r dyrfa a’u ceryddodd hwynt, fel y tawent: hwythau a lefasant fwyfwy, gan ddywedyd, Arglwydd, fab Dafydd, trugarha wrthym.

32A’r Iesu a safodd, ac a’u galwodd hwynt, ac a ddywedodd, Pa beth a ewyllysiwch ei wneuthur ohonof i chwi?

33Dywedasant wrtho, Arglwydd, agoryd ein llygaid ni.

34A’r Iesu a dosturiodd wrthynt, ac a gyffyrddodd â’u llygaid: ac yn ebrwydd y cafodd eu llygaid olwg, a hwy a’i canlynasant ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help