1Ac Abram a aeth i fyny o’r Aifft, efe a’i wraig, a’r hyn oll oedd eiddo, a Lot gydag ef, i’r deau.
2Ac Abram oedd gyfoethog iawn o anifeiliaid, ac o arian, ac aur.
3Ac efe a aeth ar ei deithiau, o’r deau hyd Bethel, hyd y lle y buasai ei babell ef ynddo yn y dechreuad, rhwng Bethel a Hai;
4I le yr allor a wnaethai efe yno o’r cyntaf: ac yno y galwodd Abram ar enw yr ARGLWYDD.
5Ac i Lot hefyd, yr hwn a aethai gydag Abram, yr oedd defaid, a gwartheg, a phebyll.
6A’r wlad nid oedd abl i’w cynnal hwynt i drigo ynghyd; am fod eu cyfoeth hwynt yn helaeth, fel na allent drigo ynghyd.
7Cynnen hefyd oedd rhwng bugeiliaid anifeiliaid Abram a bugeiliaid anifeiliaid Lot: y Canaaneaid hefyd a’r Pheresiaid oedd yna yn trigo yn y wlad.
8Ac Abram a ddywedodd wrth Lot, Na fydded cynnen, atolwg, rhyngof fi a thi, na rhwng fy mugeiliaid i a’th fugeiliaid di; oherwydd brodyr ydym ni.
9Onid yw yr holl dir o’th flaen di? Ymneilltua, atolwg, oddi wrthyf: os ar y llaw aswy y troi di, minnau a droaf ar y ddeau; ac os ar y llaw ddeau, minnau a droaf ar yr aswy.
10A Lot a gyfododd ei olwg, ac a welodd holl wastadedd yr Iorddonen, mai dyfradwy ydoedd oll, cyn i’r ARGLWYDD ddifetha Sodom a Gomorra, fel gardd yr ARGLWYDD, fel tir yr Aifft, ffordd yr elych i Soar.
11A Lot a ddewisodd iddo holl wastadedd yr Iorddonen, a Lot a aeth tua’r dwyrain: felly yr ymneilltuasant bob un oddi wrth ei gilydd.
12Abram a drigodd yn nhir Canaan a Lot a drigodd yn ninasoedd y gwastadedd, ac a luestodd hyd Sodom.
13A dynion Sodom oedd ddrygionus, ac yn pechu yn erbyn yr ARGLWYDD yn ddirfawr.
14A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Abram, wedi ymneilltuo o Lot oddi wrtho ef, Cyfod dy lygaid, ac edrych o’r lle yr wyt ynddo, tua’r gogledd, a’r deau, a’r dwyrain, a’r gorllewin.
15Canys yr holl dir a weli, i ti y rhoddaf ef, ac i’th had byth.
16Gwnaf hefyd dy had di fel llwch y ddaear; megis os dichon gŵr rifo llwch y ddaear, yna y rhifir dy had dithau.
17Cyfod, rhodia trwy’r wlad, ar ei hyd, ac ar ei lled; canys i ti y rhoddaf hi.
18Ac Abram a symudodd ei luest, ac a ddaeth, ac a drigodd yng ngwastadedd Mamre, yr hwn sydd yn Hebron, ac a adeiladodd yno allor i’r ARGLWYDD.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
