Hosea 8 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1At dy safn â’r utgorn. Fel yr eryr y daw yn erbyn tŷ yr ARGLWYDD, am iddynt droseddu fy nghyfamod, a phechu yn erbyn fy nghyfraith.

2Israel a lefant arnaf, Fy NUW, nyni a’th adwaenom di.

3Israel a fwriodd heibio ddaioni: y gelyn a’i herlid yntau.

4Hwy a wnaethant frenhinoedd, ac nid trwof fi; gwnaethant dywysogion, ac nis gwybûm: o’u harian a’u haur y gwnaethant iddynt eu hun ddelwau, fel y torrer hwynt ymaith.

5Samaria, dy lo a’th fwriodd heibio: fy nig a gyneuodd i’w herbyn; pa hyd ni fedrant ddilyn diniweidrwydd?

6Canys o Israel y mae; y saer a’i gwnaeth; am hynny nid yw efe DDUW: ond yn ddrylliau y bydd llo Samaria.

7Canys gwynt a heuasant, a chorwynt a fedant: corsen ni bydd iddo: y dywysen ni wna flawd: ac os gwna, dieithriaid a’i llwnc.

8Israel a lyncwyd: bellach y byddant ymysg y cenhedloedd fel dodrefnyn heb hoffter ynddo.

9Canys hwy a aethant i fyny i Asyria, yn asyn gwyllt unig iddo ei hun: Effraim a gyflogodd gariadau.

10Hefyd er iddynt gyflogi rhai ymysg y cenhedloedd, yn awr mi a’u casglaf hwynt: canys tristânt ychydig, oherwydd baich brenin y tywysogion.

11Oherwydd amlhau o Effraim allorau i bechu, allorau fydd ganddo i bechu.

12Mi a ysgrifennais iddo bethau mawrion fy nghyfraith, ac fel dieithrbeth y cyfrifwyd.

13Yn lle ebyrth fy offrymau, cig a aberthant, ac a fwytânt; yr ARGLWYDD nid yw fodlon iddynt: efe a gofia bellach eu hanwiredd, ac efe a ofwya eu pechodau; dychwelant i’r Aifft.

14Canys anghofiodd Israel ei Wneuthurwr, ac a adeiladodd demlau; a Jwda a amlhaodd ddinasoedd caerog: ond myfi a anfonaf dân i’w ddinasoedd, ac efe a ysa ei balasau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help