Diarhebion 10 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Diarhebion Solomon. Mab doeth a wna dad llawen, a mab ffôl a dristâ ei fam.

2Ni thycia trysorau drygioni: ond cyfiawnder a wared rhag angau.

3Ni edy yr ARGLWYDD i enaid y cyfiawn newynu: ond efe a chwâl ymaith gyfoeth y drygionus.

4Y neb a weithio â llaw dwyllodrus, fydd dlawd: ond llaw y diwyd a gyfoethoga.

5Mab synhwyrol yw yr hwn a gasgl amser haf: ond mab gwaradwyddus yw yr hwn a gwsg amser cynhaeaf.

6Bendithion fydd ar ben y cyfiawn: ond trawsedd a gae ar enau y drygionus.

7Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig: ond enw y drygionus a bydra.

8Y galon ddoeth a dderbyn orchmynion: ond y ffôl ei wefusau a gwymp.

9Y neb a rodio yn uniawn, a rodia yn ddiogel: ond y neb a gam-dry ei ffyrdd, a fydd hynod.

10Y neb a amneidio â’i lygaid, a bair flinder: a’r ffôl ei wefusau a gwymp.

11Ffynnon bywyd yw genau y cyfiawn: ond trawsedd a gae ar enau y drygionus.

12Casineb a gyfyd gynhennau: ond cariad a guddia bob camwedd.

13Yng ngwefusau y synhwyrol y ceir doethineb: ond gwialen a weddai i gefn yr angall.

14Y doethion a ystoriant wybodaeth: ond dinistr sydd gyfagos i enau y ffôl.

15Cyfoeth y cyfoethog yw dinas ei gadernid ef: ond dinistr y tlodion yw eu tlodi.

16Gwaith y cyfiawn a dynn at fywyd: ond ffrwyth y drygionus tuag at bechod.

17Ar y ffordd i fywyd y mae y neb a gadwo addysg: ond y neb a wrthodo gerydd, sydd yn cyfeiliorni.

18A guddio gas â gwefusau celwyddog, a’r neb a ddywed enllib, sydd ffôl.

19Yn amlder geiriau ni bydd pall ar bechod: ond y neb a atalio ei wefusau sydd synhwyrol.

20Tafod y cyfiawn sydd fel arian detholedig: calon y drygionus ni thâl ond ychydig.

21Gwefusau y cyfiawn a borthant lawer: ond y ffyliaid, o ddiffyg synnwyr, a fyddant feirw.

22Bendith yr ARGLWYDD a gyfoethoga; ac ni ddwg flinder gyda hi.

23Hyfryd gan ffôl wneuthur drwg: a chan ŵr synhwyrol y mae doethineb.

24Y peth a ofno y drygionus, a ddaw iddo: ond y peth a ddeisyfo y rhai cyfiawn, DUW a’i rhydd.

25Fel y mae y corwynt yn myned heibio, felly ni bydd y drygionus mwy: ond y cyfiawn sydd sylfaen a bery byth.

26Megis finegr i’r dannedd, a mwg i’r llygaid, felly y bydd y diog i’r neb a’i gyrrant.

27Ofn yr ARGLWYDD a estyn ddyddiau: ond blynyddoedd y drygionus a fyrheir.

28Gobaith y cyfiawn fydd llawenydd: ond gobaith y drygionus a dderfydd amdano.

29Ffordd yr ARGLWYDD sydd gadernid i’r perffaith: ond dinistr fydd i’r rhai a wnânt anwiredd.

30Y cyfiawn nid ysgog byth: ond y drygionus ni phreswyliant y ddaear.

31Genau y cyfiawn a ddwg allan ddoethineb: a’r tafod cyndyn a dorrir ymaith.

32Gwefusau y cyfiawn a wyddant beth sydd gymeradwy; ond genau y drygionus a lefara drawsedd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help