Exodus 27 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Gwna hefyd allor o goed Sittim, o bum cufydd o hyd, a phum cufydd o led: yn bedeirongl y bydd yr allor, a’i huchder o dri chufydd.

2A gwna ei chyrn ar ei phedair congl: o’r un y bydd ei chyrn: a gwisg hi â phres.

3Gwna hefyd iddi bedyll i dderbyn ei lludw, a’i rhawiau, a’i chawgiau, a’i chigweiniau, a’i phedyll tân: ei holl lestri a wnei o bres.

4A gwna iddi alch o bres, ar waith rhwyd; a gwna ar y rhwyd bedair modrwy o bres ar ei phedair congl.

5A dod hi dan amgylchiad yr allor oddi tanodd, fel y byddo’r rhwyd hyd hanner yr allor.

6A gwna drosolion i’r allor, sef trosolion o goed Sittim; a gwisg hwynt â phres.

7A dod ei throsolion trwy’r modrwyau; a bydded y trosolion ar ddau ystlys yr allor, i’w dwyn hi.

8Gwna hi ag ystyllod yn gau: fel y dangoswyd i ti yn y mynydd, felly y gwnânt hi.

9A gwna gynteddfa’r tabernacl ar y tu deau, tua’r deau: llenni’r cynteddfa a fyddant liain main cyfrodedd, o gan cufydd o hyd, i un ystlys.

10A’i hugain colofn, a’u hugain mortais, fydd o bres: pennau y colofnau, a’u cylchau, fydd o arian.

11Felly o du’r gogledd ar hyd, y bydd llenni o gan cufydd o hyd, a’u hugain colofn, a’u hugain mortais, o bres; a phennau’r colofnau, a’u cylchau, o arian.

12Ac i led y cynteddfa, o du’r gorllewin, y bydd llenni o ddeg cufydd a deugain: eu colofnau fyddant ddeg, a’u morteisiau yn ddeg.

13A lled y cynteddfa, tua’r dwyrain, o godiad haul, a fydd ddeg cufydd a deugain.

14Y llenni o’r naill du a fyddant bymtheg cufydd; eu colofnau yn dair, a’u morteisiau yn dair.

15Ac i’r ail du y bydd pymtheg llen; eu tair colofn, a’u tair mortais.

16Ac i borth y cynteddfa y gwneir caeadlen o ugain cufydd, o sidan glas, porffor, ac ysgarlad, ac o liain main cyfrodedd o wniadwaith; eu pedair colofn, a’u pedair mortais.

17Holl golofnau’r cynteddfa o amgylch a gylchir ag arian; a’u pennau yn arian, a’u morteisiau yn bres.

18Hyd y cynteddfa fydd gan cufydd, a’i led yn ddeg a deugain o bob tu; a phum cufydd o uchder o liain main cyfrodedd, a’u morteisiau o bres.

19Holl lestri’r tabernacl yn eu holl wasanaeth, a’i holl hoelion hefyd, a holl hoelion y cynteddfa, fyddant o bres.

20A gorchymyn dithau i feibion Israel ddwyn ohonynt atat bur olew yr olewydden coethedig, yn oleuni, i beri i’r lamp losgi yn wastad.

21Ym mhabell y cyfarfod, o’r tu allan i’r wahanlen, yr hon fydd o flaen y dystiolaeth, y trefna Aaron a’i feibion hwnnw, o’r hwyr hyd y bore, gerbron yr ARGLWYDD: deddf dragwyddol fydd, trwy eu hoesoedd, gan feibion Israel.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help