II Macabeiad 8 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 8

1Yna Jwdas Macabeus, a’r rhai oedd gydag ef, a aethant yn ddirgel i’r pentrefi, ac a alwasant eu ceraint ynghyd, ac a gymerasant y rhai oedd yn aros yn nhrefydd yr Iddewon, ac a gasglasant ynghyd ynghylch chwe mil o wŷr.

2Felly hwy a alwasant ar yr Arglwydd, ar edrych ohono ar ei bobl, y rhai yr oedd pawb yn eu sathru dan draed, ac ar fod ohono yn drugarog wrth y deml, yr hon a ddarfuasai i’r dynion drwg ei halogi;

3Ac ar dosturio ohono wrth y ddinas, yr hon ydoedd wedi ei dinistrio, ac agos yn un â’r llawr; ac ar wrando ohono ar lef gwaed y rhai a laddasid yn gweiddi arno ef;

4Ac ar gofio ohono anghyfreithlon laddiad y plant gwirion, a’r cableiriau a ddywedasid yn erbyn ei enw; ac ar ddangos ohono ei gas yn erbyn y rhai drygionus.

5Yna Macabeus wedi cynnull ynghyd ei lu, a’r Cenhedloedd heb allu ei wrthwynebu, gan droi o’r Arglwydd ei ddigofaint yn drugaredd,

6Efe a ddaeth yn ddisymwth, ac a losgodd y dinasoedd a’r pentrefi, ac a feddiannodd y lleoedd cymhwysaf, ac a orchfygodd, ac a yrrodd lawer o’i elynion i ffoi;

7Ond yn bennaf efe a arferodd liw nos wneuthur cyfryw derfysgoedd, hyd onid aeth y gair o’i wroldeb ef i bob lle.

8Ond pan welodd Philip gynyddu o’r gŵr hwn yn fuan, o fesur ychydig ac ychydig, a’i fod ef yn wastad yn llwyddo fwyfwy; efe a sgrifennodd at Ptolemeus llywodraethwr Celo-Syria a Phenice, i’w swcro ef yn achosion y brenin.

9Yna efe a etholodd Nicanor mab Patroclus, un o’i geraint pennaf, ac a’i danfonodd ef, gan roddi o bob rhai o’r Cenhedloedd nid llai nag ugain mil, i ddiwreiddio allan holl genedl yr Iddewon; a hefyd efe a gysylltodd ynghyd ag ef Gorgias y capten, gŵr cyfarwydd mewn materion rhyfel.

10Felly Nicanor a gymerth arno wneuthur cymaint o arian o’r Iddewon a ddelid yn garcharorion, ag a dalai y deyrnged o ddwyfil o dalentau oedd ar y brenin i’r Rhufeinwyr.

11Am hynny efe a anfonodd yn y man i’r dinasoedd ar lan y môr, gan gynnig ar werth yr Iddewon a ddelid yn garcharorion, i fod yn weision iddynt, gan addo y gwerthai iddynt ddeg a phedwar ugain er un dalent: ond nid ydoedd efe yn ystyrio dial Duw, yr hwn a ddisgynnai arno ef.

12Pan wybu Jwdas fod Nicanor yn dyfod, efe a fynegodd i’r rhai oedd gydag ef fod y llu yn agos.

13Y rhai ohonynt oedd yn ofnus, ac ni choelient i gyfiawnder Duw, ffoi a wnaethant, a myned ymaith o’r fan honno.

14Rhai eraill hefyd a werthasant yr hyn oll a adawsid, ac a weddiasant hefyd ar yr Arglwydd, ar waredu ohono ef hwynt oddi wrth Nicanor annuwiol, yr hwn a’u gwerthasai hwynt cyn dyfod ohonynt ynghyd.

15Ac er na wnelai efe hyn er eu mwyn hwynt, eto ar iddo ei wneuthur er mwyn ei gyfamod â’u tadau hwynt, ac er mwyn ei sanctaidd a’i ogoneddus enw, ar yr hwn y gelwid hwy.

16Yna Macabeus wedi galw ei wŷr ynghyd, hyd yn nifer chwe mil, a’u hanogodd hwynt na ddigalonnent oblegid eu gelynion, ac nad ofnent amlder y Cenhedloedd oedd yn gosod arnynt ar gam, ond rhyfela ohonynt yn wrol,

17Gan osod gerbron eu llygaid y dirdra a wnaethant ar gam i’r lle sanctaidd, a’r gurfa greulon a roddasid i’r ddinas a watwaresid, a dirymiad y llywodraeth a dderbyniasent hwy gan eu hynafiaid.

18Canys y maent hwy, eb efe, yn ymddiried mewn arfau a hyfder; ond ein hymddiried ni sydd yn Nuw hollalluog, yr hwn a all ddifetha y rhai sydd yn dyfod yn ein herbyn, a’r holl fyd hefyd, ag amnaid.

19A hefyd efe a gofiodd iddynt pa gymorth a gawsai eu tadau, a pha fodd yr achubwyd hwy, pan ddarfu am gant a phedwar ugain a phum mil dan Sennacherib,

20A pha ryfel a wnaethent yn Babilon yn erbyn y Galatiaid, fel y daethai ohonynt hwy i gyd i’r maes wyth mil, gyda phedair mil o’r Macedoniaid; a phan amheuodd y Macedoniaid, yr wyth mil hynny a laddasant ugain mil a chant trwy gymorth a roddasid iddynt o’r nef, trwy ba un y derbyniasant lawer o fudd.

21Ac wedi iddo eu cysuro â’r geiriau hyn, a’u gwneuthur yn barod i farw dros y cyfreithiau a’r wlad, efe a rannodd ei lu yn bedair rhan;

22Ac a wnaeth ei frodyr ei hun yn gapteiniaid ar y llu, sef Simon, Joseff, a Jonathan, gan roddi i bob un bymtheg cant o ryfelwyr.

23Hefyd efe a bwyntiodd Eleasar i ddarllen y llyfr sanctaidd: ac wedi iddo roddi iddynt yn arwydd, Trwy help Duw, efe yn gapten y llu blaenaf a aeth ynghyd â Nicanor.

24A thrwy gymorth yr Hollalluog, hwy a laddasant o’r gelynion uwchlaw naw mil, ac a glwyfasant ac a gloffasant y rhan fwyaf o lu Nicanor, ac yrasant bawb i ffoi;

25Ac a gymerasant arian y rhai a ddaethent i’w prynu, ac a’u hymlidiasant ymhell; ond am fod arnynt eisiau amser, hwy a ddychwelasant.

26Canys y dydd o flaen y Saboth oedd hi; am hynny ni fynnent eu hymlid hwy ymhellach.

27Fel hyn hwy a gymerasant eu harfau, ac a ysbeiliasant y gelynion, ac a gadwasant y Saboth, gan roi moliant a diolch anfeidrol i’r Arglwydd, yr hwn a’u cadwasai hyd y dydd hwnnw, ac a dywalltasai arnynt ddechreuad ei drugaredd.

28Hefyd yn ôl y Saboth, hwy a ranasant ran o’r ysbail i’r anafus, i’r gweddwon, ac i’r amddifaid; a’r hyn oedd yng ngweddill a ranasant rhyngddynt eu hun a’u gweision.

29Ac yn ôl gwneuthur y pethau hyn, a gwneuthur ohonynt gyffredin weddi, hwy a atolygasant i’r Arglwydd trugarog gymodi â’i weision yn dragywydd.

30Hefyd o’r rhai oedd gyda Thimotheus a Bacchides a fyddent yn ymladd yn eu herbyn hwy, y lladdasant uwchlaw ugain mil, ac a enillasant uchel a chadarn gestyll, ac a ranasant ysbail lawer yn gyffredinol rhyngddynt hwy a’r anafus, a’r amddifaid, a’r gweddwon, a’r oedrannus.

31Ac wedi iddynt gasglu eu harfau ynghyd, hwy a’u rhoddasant oll i gadw yn ofalus mewn lleoedd cymwys: a’r ysbail arall a arweiniasant hwy i Jerwsalem.

32Hwy a laddasant hefyd Philarches yr hwn ydoedd gyda Thimotheus, dyn annuwiol, ac un a wnaethai lawer o niwed i’r Iddewon.

33Hefyd pan oeddynt yn cadw gŵyl y fuddugoliaeth yn eu gwlad, hwy a losgasant Calisthenes, yr hwn a losgasai’r pyrth sanctaidd, ac a ffoesai i ryw dŷ bychan i’w achub ei hun: am hynny efe a dderbyniodd wobr addas am ei anwiredd.

34A Nicanor ysgeler, yr hwn a ddygasai fil o farsiandwyr i brynu’r Iddewon,

35Wedi ei ddarostwng trwy help yr Arglwydd gan y rhai nid oedd efe yn gwneuthur ond cyfrif o’r lleiaf ohonynt, a ddiosgodd ei ddillad gwychion, ac a ollyngodd ymaith ei wŷr, ac a ddaeth fel gwas crwydrus trwy ganol y tir i Antiochia, wedi cael cywilydd mawr o ran colli ei lu.

36Fel hyn, yr hwn a addawsai dalu teyrnged i’r Rhufeinwyr o’r carcharorion oedd yn Jerwsalem, a ddygodd newyddion fod gan yr Iddewon amddiffynnwr, sef Duw: ac oblegid hyn na allai neb wneuthur niwed iddynt, oherwydd eu bod yn cadw y cyfreithiau a orchmynasai efe iddynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help