1O achos peth cyffredinol y pechodd llawer: a’r hwn sydd yn ceisio cael amldra, a dry ei olwg ymaith.
2Rhwng cyswllt cerrig y gyrrir hoel; a rhwng prynu a gwerthu y glŷn pechod.
3Oni ddeil dyn yn ofn yr Arglwydd yn ddiwyd, ebrwydd y dinistrir ei dŷ ef.
4Wrth ysgwyd y gogr yr erys yr amhuredd; felly brynti dyn yn ei ymresymiad ef.
5Y ffwrn sydd yn profi llestri pridd; felly y mae profedigaeth dyn yn ei ymresymiad ef.
6Ei ffrwyth a ddengys goleddiad y pren: felly y gwna traethu’r meddwl yng nghalon dyn.
7Na chanmol ŵr cyn clywed ei ymadrodd: oblegid dyna brofedigaeth dyn.
8Os dilyni gyfiawnder, ti a’i goddiweddi, ac a’i gwisgi hi fel gwisg laes ogoneddus.
9Adar a arhosant gyda’u cyffelyb; a’r gwirionedd a dry at y rhai a weithiant trwyddi.
10Fel y cynllwyn llew i’r helfa, felly y gwna pechod i’r rhai a weithredant ddrygioni.
11Traethiad y duwiol sy bob amser mewn doethineb; a’r angall a newidia fel y lleuad.
12Ymysg yr ansynhwyrol cadw yr amser; a thyred yn fynych i fysg y rhai pwyllog.
13Baich yw traethiad ffyliaid; a’u difyrrwch fydd mewn trythyllwch pechod.
14Ymadrodd yr hwn a dyngo lawer, a wna i’r gwallt sefyll; ac ymsywyn y cyfryw a wna gau clustiau.
15Ymsywyn beilchion a bair gelanedd; a’u difenwad hwynt sy flin ei glywed.
16Yr hwn sydd yn datguddio cyfrinach, a gollodd ei gred; ac ni chaiff efe gyfaill wrth ei fodd.
17Hoffa dy gyfaill, a gwna yn ffyddlon ag ef: eithr os datguddi di ei gyfrinach ef, na ddilyn ar ei ôl ef mwyach.
18Oblegid megis y difethodd dyn ei elyn, felly y collaist ti gariad dy gymydog.
19Ac fel pe gollyngai gŵr aderyn o’i law, felly y gollyngaist ti dy gymydog, ac nis deli ef drachefn.
20Na chanlyn ef: oblegid y mae efe ymhell, ac y mae fel iwrch wedi dianc allan o’r fagl:
21Oblegid fe a ellir iacháu archoll, ac y mae cymod am ddifenwi: eithr yr hwn a ddatguddiodd gyfrinach, a gollodd ei obaith.
22Y mae yr hwn sydd yn amneidio â’i lygad yn adeiladu drwg; a’r hwn a’i hadwaeno ef a gilia oddi wrtho.
23Efe a wna ei enau yn fwyn yn dy ŵydd di, a rhyfedd fydd ganddo ef dy ymadrodd: wedi hynny efe a dry ei chwedl, ac a fwrw fai ar dy ymadrodd di.
24Llawer o bethau a gaseais i, ac ni welwn ddim tebyg iddo ef: yr Arglwydd hefyd a’i casâ ef.
25Y neb sydd yn taflu carreg i fyny, sydd yn ei thaflu hi ar ei ben ei hun: a dyrnod twyllodrus a wna archollion.
26Yr hwn a gloddio ffos, a syrth ynddi hi; a’r hwn a osodo fagl, a ddelir â hi.
27Yr hwn a wnelo ddrwg, arno ef y disgyn; ac ni chaiff efe wybod o ba le y mae yn dyfod iddo.
28Gwatwar a gwaradwyddo sy’n eiddo’r beilchion: eithr dialedd a gynllwyn iddynt hwy fel llew.
29Mewn magl y delir y rhai sydd yn llawen ganddynt syrthio o’r rhai duwiol; a chyn eu marwolaeth y treulia gofid hwynt.
30Digofaint a llid sy ffiaidd; a’r dyn pechadurus a’u caiff hwy ill dau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.