1Am hynny y cyflawnodd yr Arglwydd ei air a lefarodd efe yn ein herbyn ni, ac yn erbyn ein barnwyr, y rhai a farnent Israel, ac yn erbyn ein brenhinoedd, ac yn erbyn ein tywysogion, ac yn erbyn gwŷr Israel a Jwda;
2Gan ddwyn arnom ni ddrygfyd mawr, y fath ni bu dan y nefoedd oll, fel y mae yn Jerwsalem, yn ôl yr hyn a sgrifennwyd yng nghyfraith Moses,
3Y bwytâi dyn gnawd ei fab ei hun, a chnawd ei ferch ei hun.
4Efe a’u rhoddes hwynt hefyd i fod dan law yr holl deyrnasoedd sydd o’n hamgylch ni, i fod yn waradwyddus ac yn anghyfannedd ymysg yr holl bobloedd sydd o’n hamgylch, lle y gwasgarodd yr Arglwydd hwynt.
5Felly y’n dygwyd ni i waered, ac nid i fyny, am bechu ohonom yn erbyn yr Arglwydd ein Duw, heb wrando ar ei lais ef.
6Ein Harglwydd Dduw ni sydd gyfiawn: i ninnau ac i’n tadau y perthyn gwarthrudd golau, fel y gwelir heddiw:
7Canys yr holl ddrygau hyn a ddaeth arnom ni, y rhai a draethodd yr Arglwydd yn ein herbyn.
8Ac ni weddiasom ni gerbron yr Arglwydd, ar droi o bob un oddi wrth feddyliau eu calon ddrygionus.
9Am hynny y gwyliodd yr Arglwydd arnom ni am ddrygfyd, ac a’i dug arnom: oblegid cyfiawn yw’r Arglwydd yn ei holl weithredoedd, y rhai a orchmynnodd efe i ni.
10Ond ni wrandawsom ni ar ei lais ef, i rodio yn ei orchmynion ef, y rhai a roddes efe o’n blaen ni.
11Ac yn awr, O Arglwydd Dduw Israel, yr hwn a ddygaist dy bobl allan o dir yr Aifft trwy law gadarn, trwy arwyddion a rhyfeddodau, a thrwy allu mawr a braich estynedig, ac a wnaethost i ti enw, fel y gwelir heddiw;
12O ein Harglwydd Dduw, nyni a bechasom, a fuom annuwiol, ac a wnaethom yn anghyfiawn yn dy holl ordeiniadau di.
13Troer, atolwg, dy lid oddi wrthym: oherwydd ychydig a adawed ohonom ni ymysg y cenhedloedd lle y gwasgeraist ni.
14Gwrando, Arglwydd, ein gweddi a’n deisyf, a rhyddha ni er dy fwyn dy hun, a gwna i ni gael ffafr yng ngolwg y rhai a’n caethgludasant:
15Fel y gwypo’r holl ddaear mai ti yw yr Arglwydd ein Duw ni, oherwydd mai dy enw di a elwir ar Israel a’i genedl.
16Edrych i lawr, Arglwydd, o’th dŷ sanctaidd, a meddwl amdanom: gostwng dy glust, O Arglwydd, a gwrando.
17Agor dy lygaid, a gwêl: oherwydd nid y meirw yn y bedd, y rhai y dygwyd eu heneidiau allan o’u cyrff, a roddant na gogoniant na chyfiawnder i’r Arglwydd:
18Eithr yr enaid, yr hwn sydd athrist iawn, yr hwn sydd yn cerdded yn grwm ac yn llesg, a’r llygaid palledig, a’r enaid newynog, a roddant ogoniant a chyfiawnder i ti, O Arglwydd.
19Oblegid hynny nid am gyfiawnder ein tadau a’n brenhinoedd yr ydym yn tywallt ein gweddi ger dy fron di, ein Harglwydd Dduw.
20Canys tydi a anfonaist dy lid a’th ddigofaint arnom ni, fel y dywedaist trwy law dy weision y proffwydi, gan ddywedyd,
21Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Gostyngwch eich ysgwyddau, a’ch gwarrau, a gwasanaethwch frenin Babilon, a chwi a gewch aros yn y wlad yr hon a roddais i’ch tadau chwi.
22Ac oni wrandewch ar lais yr Arglwydd, i wasanaethu brenin Babilon,
23Mi a ddygaf ymaith o ddinasoedd Jwda, ac allan o Jerwsalem, lais gorfoledd a llais llawenydd, llais priodfab a llais priodferch; a’r holl wlad a fydd anghyfannedd heb drigolion.
24Ond ni wrandawsom ni ar dy lais di, i wasanaethu brenin Babilon: am hynny y cyflawnaist ti dy eiriau, y rhai a leferaist trwy weinidogaeth dy weision y proffwydi, sef y dygid esgyrn ein brenhinoedd ac esgyrn ein tadau o’u lle.
25Ac wele, hwy a daflwyd allan i wres y dydd, ac i rew y nos, ac a fuant feirw mewn gofid mawr trwy newyn, a chleddyf, a haint y nodau.
26Gosodaist hefyd y tŷ lle y gelwid ar dy enw, fel y gwelir ef heddiw, am ddrygioni tŷ Israel a thŷ Jwda.
27A thi a wnaethost â ni, O Arglwydd ein Duw, yn ôl dy holl larieidd-dra, ac yn ôl dy fawr drugaredd oll,
28Fel y lleferaist trwy dy was Moses, y dydd y gorchmynnaist iddo ysgrifennu dy gyfraith di, o flaen meibion Israel, gan ddywedyd,
29Oni wrandewch chwi ar fy llais, y dyrfa fawr luosog hon a droir yn ddiau yn ychydig ymysg y cenhedloedd lle y gwasgaraf fi hwynt.
30Oblegid mi a wyddwn na wrandawent hwy arnaf fi; oblegid pobl wargaled ydynt hwy: eithr yn y tir lle y caethgludir hwynt y meddyliant amdanynt eu hun,
31Ac y gwybyddant mai myfi yw eu Harglwydd Dduw hwynt: a mi a roddaf iddynt galon a chlustiau i wrando.
32Yna y’m moliannant i yn y wlad lle y caethgludir hwynt, ac y cofiant fy enw,
33Ac y troant oddi wrth eu gwar galed a’u drwg weithredoedd: oblegid mi a gofiaf ffordd eu tadau, y rhai a bechasant yng ngŵydd yr Arglwydd.
34Felly y dygaf hwy drachefn i’r tir, yr hwn trwy lw a addewais i i’w tadau hwynt, i Abraham, i Isaac, ac i Jacob; a hwy a’i meddiannant: a mi a’u hamlhaf hwynt, ac nis lleiheir hwynt.
35A mi a wnaf â hwynt gyfamod tragwyddol, y byddaf fi yn Dduw iddynt hwy, a hwythau a fyddant yn bobl i mi: ac ni symudaf mwyach fy mhobl Israel o’r tir a roddais iddynt.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.