Judith 3 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 3

1Felly hwy a anfonasant genhadau â geiriau heddychlon ato ef, gan ddywedyd,

2Wele, ni gweision Nabuchodonosor y brenin mawr ydym yn sefyll yn dy ŵydd di; gwna i ni fel y gwelych yn dda.

3Wele ein tai ni, a’n holl leoedd, a’n holl feysydd gwenith, a’n defaid, a’n gwartheg, a’n holl luestai, a’n pebyll, yn sefyll o’th flaen di; gwna iddynt fel y gwelych di yn dda.

4Wele hefyd ein dinasoedd ni a’r rhai sy yn trigo ynddynt yn weision i ti; tyred, a gwna â hwynt fel y gwelych di yn dda.

5Felly y gwŷr a ddaethant at Oloffernes, ac a fynegasant wrtho ef yn ôl y geiriau hyn.

6Yna efe a ddaeth i waered tua’r mordir, efe a’i lu, ac a osododd geidwaid yn y dinasoedd uchel, ac a gymerth allan ohonynt wŷr etholedig yn gynhorthwy iddo.

7Felly hwynt-hwy, a’r holl wlad o amgylch, a’i croesawasant ef â choronau, â dawnsiau, ac â thympanau.

8Er hynny efe a ddifwynodd eu holl froydd hwynt, ac a dorrodd i lawr eu llwynau hwynt: canys efe a roddasai ei fryd ar ddinistrio holl dduwiau’r tir, fel yr addolai’r holl genhedloedd Nabuchodonosor yn unig, ac y galwai pob tafod a llwyth arno ef megis ar Dduw.

9Ac efe a ddaeth ar gyfer Esdraelon, yn gyfagos at Dothea, gyferbyn â’r gyfyng hir i Jwdea:

10Ac efe a wersyllodd rhwng Geba a dinas y Scythiaid: ac efe a fu yno fis o ddyddiau; fel y casglai efe holl lwythau ei lu.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help