Numeri 23 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A dywedodd Balaam wrth Balac, Adeilada i mi yma saith allor; a darpara i mi yma saith o fustych, a saith o hyrddod.

2A gwnaeth Balac megis ag y dywedodd Balaam. Ac offrymodd Balac a Balaam fustach a hwrdd ar bob allor.

3A dywedodd Balaam wrth Balac, Saf di wrth dy boethoffrwm; myfi a af oddi yma: ond odid daw yr ARGLWYDD i’m cyfarfod; a mynegaf i ti pa air a ddangoso efe i mi. Ac efe a aeth i le uchel.

4A chyfarfu DUW â Balaam; a dywedodd Balaam wrtho, Darperais saith allor, ac aberthais fustach a hwrdd ar bob allor.

5A gosododd yr ARGLWYDD air yng ngenau Balaam; ac a ddywedodd, Dychwel at Balac, a dywed fel hyn.

6Ac efe a ddychwelodd ato. Ac wele, efe a holl dywysogion Moab yn sefyll wrth ei boethoffrwm.

7Ac efe a gymerodd ei ddameg, ac a ddywedodd, O Siria y cyrchodd Balac brenin Moab fyfi, o fynyddoedd y dwyrain, gan ddywedyd, Tyred, melltithia i mi Jacob; tyred, a ffieiddia Israel.

8Pa fodd y rhegaf yr hwn ni regodd DUW? a pha fodd y ffieiddiaf yr hwn ni ffieiddiodd yr ARGLWYDD?

9Canys o ben y creigiau y gwelaf ef, ac o’r bryniau yr edrychaf arno; wele bobl yn preswylio eu hun, ac heb eu cyfrif ynghyd â’r cenhedloedd.

10Pwy a rif lwch Jacob, a rhifedi pedwaredd ran Israel? Marw a wnelwyf o farwolaeth yr uniawn, a bydded fy niwedd fel yr eiddo yntau.

11A dywedodd Balac wrth Balaam, Beth a wnaethost i mi? I regi fy ngelynion y’th gymerais; ac wele, gan fendithio ti a’u bendithiaist.

12Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Onid yr hyn a osododd yr ARGLWYDD yn fy ngenau, sydd raid i mi edrych ar ei ddywedyd?

13A dywedodd Balac wrtho ef, Tyred, atolwg, gyda myfi i le arall, lle y gwelych hwynt: oddi yno y cei weled eu cwr eithaf hwynt yn unig, ac ni chei eu gweled hwynt i gyd: rhega dithau hwynt i mi oddi yno.

14Ac efe a’i dug ef i faes amlwg, i ben bryn; ac a adeiladodd saith allor, ac a offrymodd fustach a hwrdd ar bob allor.

15Ac a ddywedodd wrth Balac, Saf yma wrth dy boethoffrwm, a mi a af acw i gyfarfod â’r ARGLWYDD.

16A chyfarfu yr ARGLWYDD â Balaam; ac a osododd air yn ei enau ef, ac a ddywedodd Dychwel at Balac, a dywed fel hyn.

17Ac efe a ddaeth ato. Ac wele efe yn sefyll wrth ei boethoffrwm, a thywysogion Moab gydag ef. A dywedodd Balac wrtho, Beth a ddywedodd yr ARGLWYDD?

18Yna y cymerodd efe ei ddameg, ac a ddywedodd, Cyfod, Balac, a gwrando; mab Sippor, clustymwrando â mi.

19Nid dyn yw DUW, i ddywedyd celwydd; na mab dyn, i edifarhau: a ddywedodd efe, ac nis cyflawna? a lefarodd efe, ac oni chywira?

20Wele, cymerais arnaf fendithio; a bendithiodd efe; ac ni throaf fi hynny yn ei ôl.

21Ni wêl efe anwiredd yn Jacob, ac ni wêl drawsedd yn Israel; yr ARGLWYDD ei DDUW sydd gydag ef, ac y mae utgorn-floedd brenin yn eu mysg hwynt.

22DUW a’u dug hwynt allan o’r Aifft: megis nerth unicorn sydd iddo.

23Canys nid oes swyn yn erbyn Jacob, na dewiniaeth yn erbyn Israel: y pryd hwn y dywedir am Jacob, ac am Israel, Beth a wnaeth DUW!

24Wele, y bobl a gyfyd fel llew mawr, ac fel llew ieuanc yr ymgyfyd: ni orwedd nes bwyta o’r ysglyfaeth, ac yfed gwaed y lladdedigion.

25A dywedodd Balac wrth Balaam, Gan regi na rega ef mwy: gan fendithio na fendithia ef chwaith.

26Yna yr atebodd Balaam, ac a ddywedodd wrth Balac, Oni fynegais i ti, gan ddywedyd, Yr hyn oll a lefaro yr ARGLWYDD, hynny a wnaf fi?

27A dywedodd Balac wrth Balaam, Tyred, atolwg, mi a’th ddygaf i le arall: ond odid bodlon fydd gan DDUW i ti ei regi ef i mi oddi yno.

28A Balac a ddug Balaam i ben Peor, yr hwn sydd yn edrych tua’r diffeithwch.

29A dywedodd Balaam wrth Balac, Adeilada i mi yma saith allor; a darpara i mi yma saith bustach a saith hwrdd.

30A gwnaeth Balac megis y dywedodd Balaam; ac a offrymodd fustach a hwrdd ar bob allor.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help