I Esdras 4 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 4

1Yna yr ail, yr hwn a ddywedasai am nerth y brenin, a ymadroddodd;

2O chwychwi wŷr, onid trechaf yw dynion, y rhai sydd yn llywodraethu môr a thir, a’r hyn oll sydd ynddynt?

3Ond y mae’r brenin yn gryfach, ac yn rheoli’r cwbl; efe sydd yn arglwyddiaethu arnynt hwy; a’r hyn oll a archo efe iddynt, hwy a’i gwnânt.

4Od eirch efe iddynt ryfela y naill ar y llall, hwy a wnânt hynny: os denfyn efe hwynt yn erbyn y gelynion, hwy a ânt, ac a dorrant i lawr fynyddoedd, muriau, a thyrau.

5Hwy a laddant, ac a leddir, ac ni thorrant orchymyn y brenin: os gorchfygant, i’r brenin y dygant y cwbl, yn gystal yr anrhaith a phob peth arall:

6A’r sawl nid elo i derfysg, ac i ryfel, eithr llafurio’r ddaear; wedi iddynt ei hau, hwy a’i medant, ac a’i dygant i’r brenin, ac a gymhellant y naill y llall i dalu teyrnged i’r brenin:

7Ac eto nid yw efe ond un dyn: od eirch efe ladd, fe a leddir; od eirch efe arbed, fe a arbedir;

8Od eirch efe daro, hwy a drawant; od eirch efe ddiffeithio, hwy a ddiffeithiant; od eirch efe adeiladu, hwy a adeiladant;

9Od eirch efe dorri i lawr, hwy a dorrant; od eirch efe blannu, hwy a blannant.

10Felly ei holl bobl, a’i holl luoedd, sydd yn ufuddhau iddo ef: ac yn y cyfamser efe a eistedd i lawr, ac a fwyty, ac a yf, ac a huna.

11Canys y rhai hyn a’i cadwant ef o amgylch ogylch; ac ni ddichon neb fyned ymaith i’w negesau ei hun, ac ni byddant anufudd iddo mewn dim.

12O chwychwi wŷr, onid trechaf y brenin, gan ei fod ef yn cael y cyfryw rwysg? Ar hynny efe a dawodd.

13Yna y trydydd, yr hwn a ddywedasai am wragedd, a gwirionedd, (hwnnw oedd Sorobabel,) a ddechreuodd ymadroddi:

14O chwychwi wŷr, nid y brenin mawr, na llaweroedd o ddynion, na gwin, sy drechaf: pwy ynteu a feistrola arnynt hwy, a phwy a’u gorchfyga hwynt ond y gwragedd?

15Gwragedd a esgorasant ar y brenin, ac ar yr holl bobl sydd yn llywodraethu môr a thir.

16Ac ohonynt hwy y ganwyd hwynt; a hwynt-hwy a fagasant y rhai a blannodd y gwinwydd, o ba rai y gwneir y gwin.

17Hwynt-hwy hefyd sy’n gwneuthur dillad i ddynion, ac yn gwneuthur gwŷr yn anrhydeddus; ac ni ddichon gwŷr fod heb y gwragedd.

18Pe casglent aur ac arian, a phob peth gwerthfawr, oni charent hwy wraig lân brydweddol?

19Oni ymadawent hwy â’r rhai hynny oll, ac oni ymroddent iddi hi, gan lygadrythu arni? a phawb a ddewisai ei chael hi o flaen aur, ac arian, a phob peth gwerthfawr.

20Dyn a ymedy â’i dad a’i magodd, ac â’i wlad, ac a ymlŷn wrth ei wraig.

21Ac efe a anturia ei hoedl dros ei wraig, ac ni feddwl am dad, na mam, na gwlad.

22Wrth hyn y gellwch wybod mai gwragedd sy’n meistroli arnoch chwi: onid ydych chwi yn llafurio, ac yn poeni, ac er hynny yn rhoddi ac yn dwyn y cwbl i’r gwragedd?

23Gŵr a gymer ei gleddyf, ac a â allan i ladd, ac i ladrata, ac i fordwyo ar fôr ac afonydd;

24Efe a edrych ar lew, ac a gerdd yn y tywyllwch; ac wedi hynny efe a ddwg gwbl o’i ladrad, a’i drais, a’i anrhaith, at ei gariad.

25Am hynny gŵr a gâr ei wraig ei hun yn fwy na’i dad neu ei fam.

26Ie, llawer a aethant allan o’u pwyll oherwydd gwragedd, a llaweroedd a aethant yn weision er mwyn gwragedd.

27Llawer hefyd a gyfrgollwyd, ac a gyfeiliornwyd, ac a bechasant, er mwyn gwragedd.

28Ac yn awr oni choeliwch chwi fi? onid mawr yw’r brenin, yn ei allu? onid yw pob teyrnas yn ofni cyffwrdd ag ef?

29Eto mi a’i gwelais ef, ac Apame, gordderch y brenin, merch Bartacus ardderchog, yn eistedd ar ddeheulaw’r brenin,

30Ac yn cymryd y goron oddi am ben y brenin, ac yn ei rhoddi am ei phen ei hun, ac yn cernodio’r brenin â’i llaw aswy,

31Ac yntau yn safnrhythu, ac yn edrych arni; ac os chwarddai hi arno ef, yntau a chwarddai; ac os dig fyddai hi wrtho ef, yna y gwenieithiai efe iddi hi, i gael ei chymod.

32O chwi wŷr, onid trechaf yw’r gwragedd, gan eu bod yn gwneuthur fel hyn?

33Yna’r brenin a’r tywysogion a edrychasant bawb ar ei gilydd: ac yntau a ddechreuodd ymadrodd am y gwirionedd.

34O chwi wŷr, onid nerthol yw gwragedd? mawr yw’r ddaear, ac uchel yw’r nef, a buan yw’r haul yn ei gwrs: canys efe a dry o amgylch y nef mewn un dydd, ac a red eilwaith i’w le ei hun.

35Onid mawr yw efe, yr hwn sydd yn gwneuthur y pethau hyn? Am hynny y mae’r gwirionedd yn fwy ac yn gryfach na dim oll.

36Yr holl ddaear sydd yn galw am wirionedd, a’r nef sydd yn ei bendithio; a phob peth sydd yn ysgwyd ac yn crynu rhagddi, ac nid oes dim anghyfiawn gyda hi.

37Drygionus yw gwin, drygionus yw’r brenin, a drygionus yw’r gwragedd, a holl feibion dynion sy ddrygionus, a’u holl weithredoedd sy anwir, ac nid oes ynddynt wirionedd, eithr yn eu hanwiredd y darfyddant.

38Ond y gwirionedd sydd yn aros, ac sydd nerthol yn dragywydd, ac sydd yn byw ac yn teyrnasu yn oes oesoedd.

39Gyda hi nid oes derbyn wyneb na gwobr: eithr y mae hi yn gwneuthur cyfiawnder, ac yn ymgadw rhag anghyfiawnder a drygioni; a phawb a ganmolant ei gweithredoedd hi.

40Ac nid oes yn ei barn hi ddim anghyfiawn; a hyhi yw’r cadernid, a’r deyrnas, a’r gallu, a’r mawredd, trwy yr holl oesoedd. Bendigedig fyddo Duw y gwirionedd.

41Ar hynny efe a beidiodd â llefaru. Yna yr holl bobl a lefasant, ac a ddywedasant, Mawr yw gwirionedd, a threchaf.

42Yna y dywedodd y brenin wrtho ef, Gofyn y peth a fynnych, heblaw yr hyn sydd yn sgrifenedig, ac ni a’i rhoddwn ef i ti, am dy gael di yn ddoethaf; a thi a gei eistedd yn nesaf ataf fi, ac yn gâr i mi y’th elwir.

43Yna efe a ddywedodd wrth y brenin, Cofia’r adduned a addunaist y dydd y daethost i’r frenhiniaeth, sef ar i ti adeiladu Jerwsalem,

44A danfon eilwaith y llestri a ddygasid ymaith o Jerwsalem, y rhai a roddasai Cyrus o’r neilltu, pan addunodd efe ddinistrio Babilon, a’u danfon hwy yno drachefn.

45Tithau hefyd a addunaist adeiladu’r deml a losgodd yr Edomiaid pan ddistrywiodd y Caldeaid Jwdea.

46Ac yn awr, O arglwydd frenin, dyma’r peth yr ydwyf yn ei ddeisyf ac yn ei ofyn gennyt; a dyma’r mawredd a geisiaf fi gennyt: am hynny yr ydwyf yn dymuno arnat gyflawni’r adduned a addunaist â’th enau dy hun i Frenin y nef.

47Yna Dareius y brenin a gyfododd i fyny, ac a’i cusanodd ef, ac a roddodd iddo lythyrau at bawb o’i drysorwyr, a’i lywodraethwyr, a’r blaenoriaid, a’r swyddwyr, ar iddynt hwy ei hebrwng ef yn ddiogel, a’r sawl oedd gydag ef yn myned i fyny i adeiladu Jerwsalem.

48Ac efe a sgrifennodd lythyrau at holl lywodraethwyr Celo-Syria a Phenice, ac at y rhai oedd yn Libanus, ar iddynt hwy gludo coed cedr o Libanus i Jerwsalem, ac adeiladu’r ddinas gydag ef.

49Ac efe a sgrifennodd am yr holl Iddewon, y rhai oedd yn myned i fyny o’i deyrnas ef i Jwdea, ynghylch eu rhyddid, sef na byddai i un pennaeth, na swyddog, na llywodraethwr, na thrysorwr, fyned trwy nerth i’w drysau hwynt;

50Ac i’r holl wlad yr oeddynt hwy yn ei pherchenogi fod yn rhydd oddi wrth deyrnged; a bod i’r Edomiaid roddi iddynt y pentrefydd yr oeddynt yn eu dal o’r eiddo’r Iddewon:

51A rhoddi ugain o dalentau bob blwyddyn tuag at adeiladaeth y deml, hyd oni ddarfyddai ei hadeiladu hi;

52A deg eraill o dalentau bob blwyddyn, i gynnal y poethoffrymau ar yr allor beunydd, fel yr oedd y gorchymyn i offrwm dau ar bymtheg;

53A bod i bawb a’r a elai o Babilon i adeiladu’r ddinas, gael rhyddid yn gystal iddynt eu hunain, ag i’w plant, a’r holl offeiriaid a’r a aethent ymaith.

54Ac efe a sgrifennodd am gyfreidiau, gwisgoedd yr offeiriaid, y rhai y gwasanaethent ynddynt.

55Ac efe a sgrifennodd am iddynt roddi i’r Lefiaid eu cyfreidiau, nes gorffen y tŷ, ac adeiladu Jerwsalem.

56Efe hefyd a sgrifennodd am iddynt roddi dognau a chyflog i’r rhai oedd yn gwylied y ddinas.

57Ac efe a anfonodd o Babilon yr holl lestri a roddasai Cyrus o’r neilltu: a pheth bynnag a archasai Cyrus, efe a orchmynnodd ei wneuthur, a’i anfon i Jerwsalem.

58A phan aeth y gŵr ieuanc allan, efe a ddyrchafodd ei wyneb i fyny i’r nef tua Jerwsalem, ac a ddiolchodd i Frenin y nef,

59Gan ddywedyd, Oddi wrthyt ti y mae’r fuddugoliaeth, oddi wrthyt ti y mae’r doethineb, ac eiddot ti yw’r gogoniant, a minnau yw dy was di.

60Bendigedig wyt ti, yr hwn a roddaist i mi ddoethineb; clodforaf di, O Arglwydd Dduw ein tadau.

61Felly efe a gymerth y llythyrau, ac a aeth ymaith, ac a ddaeth i Babilon, ac a fynegodd i’w holl frodyr.

62A hwy a fendithiasant Dduw eu tadau, oherwydd iddo roddi iddynt hwy rwydd-deb ac esmwythdra,

63I fyned i fyny, ac i adeiladu Jerwsalem, a’r deml, yr hon a elwir ar ei enw ef: a hwy a lawenychasant ag offer cerdd ac â gorfoledd, dros saith niwrnod.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help