1 Cronicl 27 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Pedair mil ar hugain oedd pob dosbarthiad o feibion Israel dan eu rhif, yn bennau-cenedl, ac yn dywysogion miloedd a channoedd, a’u swyddogion yn gwasanaethu y brenin ym mhob achos o’r dosbarthiadau, yn dyfod i mewn, ac yn myned allan, o fis i fis, trwy holl fisoedd y flwyddyn.

2Ar y dosbarthiad cyntaf, dros y mis cyntaf, yr oedd Jasobeam mab Sabdiel; ac yn ei ddosbarthiad ef yr oedd pedair mil ar hugain.

3O feibion Peres yr oedd y pennaf o holl dywysogion y llu dros y mis cyntaf.

4Ac ar ddosbarthiad yr ail fis yr oedd Dodai yr Ahohiad, ac o’i ddosbarthiad ef yr oedd Micloth hefyd yn gapten; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain.

5Trydydd tywysog y llu dros y trydydd mis oedd Benaia mab Jehoiada yr offeiriad pennaf; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain.

6Y Benaia hwn oedd gadarn ymhlith y deg ar hugain, ac oddi ar y deg ar hugain; ac yn ei ddosbarthiad ef yr oedd Amisabad ei fab ef.

7Y pedwerydd dros y pedwerydd mis oedd Asahel brawd Joab, a Sebadeia ei fab ar ei ôl ef; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain.

8Y pumed dros y pumed mis oedd dywysog, Samhuth yr Israhiad; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain.

9Y chweched dros y chweched mis oedd Ira mab Icces y Tecoad; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain.

10Y seithfed dros y seithfed mis oedd Heles y Peloniad, o feibion Effraim; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain.

11Yr wythfed dros yr wythfed mis oedd Sibbechai yr Husathiad, o’r Sarhiaid; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain.

12Y nawfed dros y nawfed mis oedd Abieser yr Anathothiad, o’r Benjaminiaid; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain.

13Y degfed dros y degfed mis oedd Maharai y Netoffathiad, o’r Sarhiaid; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain.

14Yr unfed ar ddeg dros yr unfed mis ar ddeg oedd Benaia y Pirathoniad, o feibion Effraim; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain.

15Y deuddegfed dros y deuddegfed mis oedd Heldai y Netoffathiad, o Othniel; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain.

16Ac ar lwythau Israel: ar y Reubeniaid, Elieser mab Sichri oedd dywysog: ar y Simeoniaid, Seffatia mab Maacha:

17Ar y Lefiaid, Hasabeia mab Cemuel: ar yr Aaroniaid, Sadoc:

18Ar Jwda, Elihu, un o frodyr Dafydd: ar Issachar, Omri mab Michael:

19Ar Sabulon, Ismaia mab Obadeia: ar Nafftali, Jerimoth mab Asriel:

20Ar feibion Effraim, Hosea mab Asaseia: ar hanner llwyth Manasse, Joel mab Pedaia:

21Ar hanner llwyth Manasse yn Gilead, Ido mab Sechareia: ar Benjamin, Jaasiel mab Abner:

22Ar Dan, Asarel mab Jeroham. Dyma dywysogion llwythau Israel.

23Ond ni chymerth Dafydd eu rhifedi hwynt o fab ugain mlwydd ac isod; canys dywedasai yr ARGLWYDD yr amlhâi efe Israel megis sêr y nefoedd.

24Joab mab Serfia a ddechreuodd gyfrif, ond ni orffennodd efe, am fod o achos hyn lidiowgrwydd yn erbyn Israel, ac nid aeth y cyfrif hwn ymysg cyfrifon cronicl y brenin Dafydd.

25Ac ar drysorau y brenin yr oedd Asmafeth mab Adiel: ac ar y trysordai yn y meysydd, yn y dinasoedd, yn y pentrefi hefyd, ac yn y tyrau, yr oedd Jehonathan mab Usseia.

26Ac ar weithwyr y maes, y rhai oedd yn llafurio y ddaear, yr oedd Esri mab Celub.

27Ac ar y gwinllannoedd yr oedd Simei y Ramathiad: ac ar yr hyn oedd yn dyfod o’r gwinllannoedd i’r selerau gwin, yr oedd Sabdi y Siffmiad.

28Ac ar yr olewydd, a’r sycamorwydd, y rhai oedd yn y dyffrynnoedd, yr oedd Baalhanan y Gederiad: ac ar y selerau olew yr oedd Joas.

29Ac ar yr ychen pasgedig yn Saron, yr oedd Sitrai y Saroniad: ac ar yr ychen yn y dyffrynnoedd, yr oedd Saffat mab Adlai.

30Ac ar y camelod yr oedd Obil yr Ismaeliad: ac ar yr asynnod Jehdeia y Meronothiad.

31Ac ar y defaid yr oedd Jasis yr Hageriad. Y rhai hyn oll oedd dywysogion y golud eiddo y brenin Dafydd.

32A Jehonathan ewythr Dafydd frawd ei dad oedd gynghorwr, gŵr doeth, ac ysgrifennydd: Jehiel hefyd mab Hachmom oedd gyda meibion y brenin.

33Ac Ahitoffel oedd gynghorwr y brenin; a Husai yr Arciad oedd gyfaill y brenin.

34Ac ar ôl Ahitoffel yr oedd Jehoiada mab Benaia, ac Abiathar: a thywysog llu y brenin oedd Joab.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help