1Ac wele gŵr i DDUW a ddaeth o Jwda, trwy air yr ARGLWYDD, i Bethel: a Jeroboam oedd yn sefyll wrth yr allor i arogldarthu.
2Ac efe a lefodd yn erbyn yr allor, trwy air yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, O allor, allor, fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD; Wele, mab a enir i dŷ Dafydd, a’i enw Joseia; ac efe a abertha arnat ti offeiriaid yr uchelfeydd y rhai sydd yn arogldarthu arnat ti, a hwy a losgant esgyrn dynion arnat ti.
3Ac efe a roddodd arwydd y dwthwn hwnnw, gan ddywedyd, Dyma yr argoel a lefarodd yr ARGLWYDD; Wele, yr allor a rwygir, a’r lludw sydd arni a dywelltir.
4A phan glybu y brenin air gŵr DUW, yr hwn a lefodd efe yn erbyn yr allor yn Bethel, yna Jeroboam a estynnodd ei law oddi wrth yr allor, gan ddywedyd, Deliwch ef. A diffrwythodd ei law ef, yr hon a estynasai efe yn ei erbyn ef, fel na allai efe ei thynnu hi ato.
5Yr allor hefyd a rwygodd, a’r lludw a dywalltwyd oddi ar yr allor, yn ôl yr argoel a roddasai gŵr DUW trwy air yr ARGLWYDD.
6A’r brenin a atebodd ac a ddywedodd wrth ŵr DUW, Gweddïa, atolwg, gerbron yr ARGLWYDD dy DDUW, ac ymbil drosof fi, fel yr adferer fy llaw i mi. A gŵr DUW a weddïodd gerbron yr ARGLWYDD; a llaw y brenin a adferwyd iddo ef, ac a fu fel cynt.
7A’r brenin a ddywedodd wrth ŵr DUW, Tyred adref gyda mi, a chymer luniaeth, a mi a roddaf rodd i ti.
8A gŵr DUW a ddywedodd wrth y brenin, Pe rhoddit i mi hanner dy dŷ, ni ddeuwn i gyda thi; ac ni fwytawn fara, ac nid yfwn ddwfr, yn y fan hon:
9Canys fel hyn y gorchmynnwyd i mi trwy air yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Na fwyta fara, ac nac yf ddwfr; na ddychwel chwaith ar hyd y ffordd y daethost.
10Felly efe a aeth ymaith ar hyd ffordd arall, ac ni ddychwelodd ar hyd y ffordd y daethai ar hyd-ddi i Bethel.
11Ac yr oedd rhyw hen broffwyd yn trigo yn Bethel; a’i fab a ddaeth ac a fynegodd iddo yr holl waith a wnaethai gŵr DUW y dydd hwnnw yn Bethel: a hwy a fynegasant i’w tad y geiriau a lefarasai efe wrth y brenin.
12A’u tad a ddywedodd wrthynt, Pa ffordd yr aeth efe? A’i feibion a welsent y ffordd yr aethai gŵr DUW, yr hwn a ddaethai o Jwda.
13Ac efe a ddywedodd wrth ei feibion, Cyfrwywch i mi yr asyn. A hwy a gyfrwyasant iddo yr asyn; ac efe a farchogodd arno.
14Ac efe a aeth ar ôl gŵr DUW, ac a’i cafodd ef yn eistedd dan dderwen; ac a ddywedodd wrtho, Ai tydi yw gŵr DUW, yr hwn a ddaethost o Jwda? Ac efe a ddywedodd, Ie, myfi.
15Yna efe a ddywedodd wrtho, Tyred adref gyda mi, a bwyta fara.
16Yntau a ddywedodd, Ni allaf ddychwelyd gyda thi, na dyfod gyda thi; ac ni fwytâf fara, ac nid yfaf ddwfr gyda thi yn y fan hon.
17Canys dywedwyd wrthyf trwy ymadrodd yr ARGLWYDD, Na fwyta fara, ac nac yf ddwfr yno; ac na ddychwel gan fyned trwy y ffordd y daethost ar hyd-ddi.
18Dywedodd yntau wrtho, Proffwyd hefyd ydwyf fi fel tithau; ac angel a lefarodd wrthyf trwy air yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Dychwel ef gyda thi i’th dŷ, fel y bwytao fara, ac yr yfo ddwfr. Ond efe a ddywedodd gelwydd wrtho.
19Felly efe a ddychwelodd gydag ef, ac a fwytaodd fara yn ei dŷ ef, ac a yfodd ddwfr.
20A phan oeddynt hwy yn eistedd wrth y bwrdd, daeth gair yr ARGLWYDD at y proffwyd a barasai iddo ddychwelyd:
21Ac efe a lefodd ar ŵr DUW yr hwn a ddaethai o Jwda, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Oherwydd i ti anufuddhau i air yr ARGLWYDD, ac na chedwaist y gorchymyn a orchmynnodd yr ARGLWYDD dy DDUW i ti,
22Eithr dychwelaist, a bwyteaist fara, ac yfaist ddwfr, yn y lle am yr hwn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyt ti, Na fwyta fara, ac nac yf ddwfr; nid â dy gelain di i feddrod dy dadau.
23Ac wedi iddo fwyta bara, ac wedi iddo yfed, efe a gyfrwyodd iddo yr asyn, sef i’r proffwyd a barasai efe iddo ddychwelyd.
24Ac wedi iddo fyned ymaith, llew a’i cyfarfu ef ar y ffordd, ac a’i lladdodd ef: a bu ei gelain ef wedi ei bwrw ar y ffordd, a’r asyn oedd yn sefyll yn ei ymyl ef, a’r llew yn sefyll wrth y gelain.
25Ac wele wŷr yn myned heibio, ac a ganfuant y gelain wedi ei thaflu ar y ffordd, a’r llew yn sefyll wrth y gelain: a hwy a ddaethant ac a adroddasant hynny yn y ddinas yr oedd yr hen broffwyd yn aros ynddi.
26A phan glybu y proffwyd, yr hwn a barasai iddo ef ddychwelyd o’r ffordd, efe a ddywedodd, Gŵr DUW yw efe, yr hwn a anufuddhaodd air yr ARGLWYDD: am hynny yr ARGLWYDD a’i rhoddodd ef i’r llew, yr hwn a’i drylliodd ef, ac a’i lladdodd ef, yn ôl gair yr ARGLWYDD, yr hwn a lefarodd efe wrtho ef.
27Ac efe a lefarodd wrth ei feibion, gan ddywedyd, Cyfrwywch i mi yr asyn. A hwy a’i cyfrwyasant.
28Ac efe a aeth, ac a gafodd ei gelain ef wedi ei thaflu ar y ffordd, a’r asyn a’r llew yn sefyll wrth y gelain: ac ni fwytasai y llew y gelain, ac ni ddrylliasai efe yr asyn.
29A’r proffwyd a gymerth gelain gŵr DUW, ac a’i gosododd hi ar yr asyn, ac a’i dug yn ei hôl. A’r hen broffwyd a ddaeth i’r ddinas, i alaru, ac i’w gladdu ef.
30Ac efe a osododd ei gelain ef yn ei feddrod ei hun; a hwy a alarasant amdano ef, gan ddywedyd, O fy mrawd!
31Ac wedi iddo ei gladdu ef, efe a lefarodd wrth ei feibion, gan ddywedyd, Pan fyddwyf farw, cleddwch finnau hefyd yn y bedd y claddwyd gŵr DUW ynddo; gosodwch fy esgyrn i wrth ei esgyrn ef.
32Canys diamau y bydd yr hyn a lefodd efe trwy air yr ARGLWYDD yn erbyn yr allor sydd yn Bethel, ac yn erbyn holl dai yr uchelfeydd sydd yn ninasoedd Samaria.
33Wedi y peth hyn ni ddychwelodd Jeroboam o’i ffordd ddrygionus; ond efe a wnaeth drachefn o wehilion y bobl offeiriaid i’r uchelfeydd: y neb a fynnai, efe a’i cysegrai ef, ac efe a gâi fod yn offeiriad i’r uchelfeydd.
34A’r peth hyn a aeth yn bechod i dŷ Jeroboam, i’w ddiwreiddio hefyd, ac i’w ddileu oddi ar wyneb y ddaear.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.