1Geiriau Lemwel frenin; y broffwydoliaeth a ddysgodd ei fam iddo.
2Pa beth, fy mab? pa beth, mab fy nghroth? ie, pa beth, mab fy addunedau?
3Na ddyro i wragedd dy nerth; na’th ffyrdd i’r hyn a ddifetha frenhinoedd.
4Nid gweddaidd i frenhinoedd, O Lemwel, nid gweddaidd i frenhinoedd yfed gwin; nac i benaduriaid ddiod gadarn:
5Rhag iddynt yfed, ac ebargofi y ddeddf; a newidio barn yr un o’r rhai gorthrymedig.
6Rhoddwch ddiod gadarn i’r neb sydd ar ddarfod amdano; a gwin i’r rhai trwm eu calon.
7Yfed efe, fel yr anghofio ei dlodi; ac na feddylio am ei flinfyd mwy.
8Agor dy enau dros y mud, yn achos holl blant dinistr.
9Agor dy enau, barn yn gyfiawn; a dadlau dros y tlawd a’r anghenus.
10Pwy a fedr gael gwraig rinweddol? gwerthfawrocach yw hi na’r carbuncl.
11Calon ei gŵr a ymddiried ynddi, fel na bydd arno eisiau anrhaith.
12Hi a wna iddo les, ac nid drwg, holl ddyddiau ei bywyd.
13Hi a gais wlân a llin, ac a’i gweithia â’i dwylo yn ewyllysgar.
14Tebyg yw hi i long marsiandwr; hi a ddwg ei hymborth o bell.
15Hi a gyfyd hefyd liw nos, ac a rydd fwyd i’w thylwyth, a’u dogn i’w llancesau.
16Hi a feddwl am faes, ac a’i prŷn ef; â gwaith ei dwylo hi a blanna winllan.
17Hi a wregysa ei llwynau â nerth, ac a gryfha ei breichiau.
18Hi a wêl fod ei marsiandïaeth yn fuddiol; ni ddiffydd ei channwyll ar hyd y nos.
19Hi a rydd ei llaw ar y werthyd, a’i llaw a ddeil y cogail.
20Hi a egyr ei llaw i’r tlawd, ac a estyn ei dwylo i’r anghenus.
21Nid ofna hi am ei thylwyth rhag yr eira; canys ei holl dŷ hi a ddilledir ag ysgarlad.
22Hi a weithia iddi ei hun garpedau; ei gwisg yw sidan a phorffor.
23Hynod yw ei gŵr hi yn y pyrth, pan eisteddo gyda henuriaid y wlad.
24Hi a wna liain main, ac a’i gwerth, ac a rydd wregysau at y marsiandwr.
25Nerth ac anrhydedd yw ei gwisg; ac yn yr amser a ddaw hi a chwardd.
26Hi a egyr ei genau yn ddoeth: a chyfraith trugaredd sydd ar ei thafod hi.
27Hi a graffa ar ffyrdd tylwyth ei thŷ: ac ni fwyty hi fara seguryd.
28Ei phlant a godant, ac a’i galwant yn ddedwydd; ei gŵr hefyd, ac a’i canmol hi:
29Llawer merch a weithiodd yn rymus; ond ti a ragoraist arnynt oll.
30Siomedig yw ffafr, ac ofer yw tegwch; ond benyw yn ofni yr ARGLWYDD, hi a gaiff glod.
31Rhoddwch iddi o ffrwyth ei dwylo; a chanmoled ei gweithredoedd hi yn y pyrth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
