Hosea 7 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A mi yn ewyllysio iacháu Israel, datguddiwyd anwiredd Effraim, a drygioni Samaria: canys gwnânt ffalster; a’r lleidr a ddaw i mewn, a mintai o ysbeilwyr a anrheithia oddi allan.

2Ac nid ydynt yn meddwl yn eu calonnau fy mod i yn cofio eu holl ddrygioni hwynt: weithian eu gweithredoedd eu hun a’u hamgylchynodd: y maent gerbron fy wyneb.

3Llawenhânt y brenin â’u drygioni, a’r tywysogion â’u celwyddau.

4Pawb ohonynt sydd yn torri priodas, fel ffwrn wedi ei thwymo gan y pobydd, yr hwn a baid â chodi wedi iddo dylino y toes, hyd oni byddo wedi ei lefeinio.

5Yn niwrnod ein brenin y tywysogion a’i gwnaethant yn glaf â chostrelau gwin: estynnodd ei law gyda gwatwarwyr.

6Fel yr oeddynt yn cynllwyn, darparasant eu calon fel ffwrn: eu pobydd a gwsg ar hyd y nos; y bore y llysg fel fflam dân.

7Pawb ohonynt a wresogant fel y ffwrn, ac a ysant eu barnwyr: eu holl frenhinoedd a gwympasant, heb un ohonynt yn galw arnaf fi.

8Effraim a ymgymysgodd â’r bobloedd; Effraim sydd fel teisen heb ei throi.

9Estroniaid a fwytânt ei gryfder, ac nis gŵyr efe: ymdaenodd penwynni ar hyd-ddo, ac nis gwybu efe.

10Ac y mae balchder Israel yn tystiolaethu yn ei wyneb; ac er hyn oll ni throant at yr ARGLWYDD eu DUW, ac nis ceisiant ef.

11Effraim sydd fel colomen ynfyd heb galon; galwant ar yr Aifft, ânt i Asyria.

12Pan elont, taenaf fy rhwyd drostynt, a thynnaf hwynt i lawr fel ehediaid y nefoedd: cosbaf hwynt, fel y clybu eu cynulleidfa hwynt.

13Gwae hwynt! canys ffoesant oddi wrthyf: dinistr arnynt; oherwydd gwnaethant gamwedd i’m herbyn: er i mi eu gwared hwynt, eto hwy a ddywedasant gelwydd arnaf fi.

14Ac ni lefasant arnaf â’u calon, pan udasant ar eu gwelyau: am ŷd a melys win yr ymgasglant; ciliasant oddi wrthyf.

15Er i mi rwymo a nerthu eu breichiau hwynt, eto meddyliasant ddrwg i mi.

16Dychwelasant, nid at y Goruchaf: y maent fel bwa twyllodrus: eu tywysogion a syrthiant gan y cleddyf am gynddaredd eu tafod. Dyma eu gwatwar hwynt yng ngwlad yr Aifft.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help