1Ac ar y trydydd dydd, pan beidiodd hi â gweddïo, hi a ddiosgodd ei galarwisg, ac a wisgodd ei gwychder.
2Ac wedi iddi fyned yn wych ei threfn, a galw ar Weledydd ac Achubydd pawb, hi a gymerodd ddwy lawforwyn;
3A hi a bwysodd ar y naill, fel pe buasai hi fwythus:
4A’r llall oedd yn dwyn ei phwrffil hi.
5Gwridog hefyd oedd hi o berffeithrwydd ei thegwch, a’i hwyneb yn llawen, ac megis yn hawddgar: eithr ei chalon oedd gyfyng arni gan ofn.
6Ac wedi iddi fyned i mewn trwy’r holl ddrysau, hi a safodd gerbron y brenin; ac yr oedd efe yn eistedd ar orseddfa ei frenhiniaeth, ac efe a wisgasai ei ddisgleirwisg oll; ac efe oll mewn aur a meini gwerthfawr oedd ofnadwy iawn:
7A chan ddyrchafu ei wyneb yn disgleirio gan ogoniant, efe a edrychodd yn llym o ddig: yna y syrthiodd y frenhines, a hi a newidiodd ei lliw mewn llewyg, ac a ogwyddodd ar ben y llawforwyn oedd yn myned o’i blaen hi.
8A Duw a drodd ysbryd y brenin yn addfwyn, fel y neidiodd efe ar frys oddi ar ei orseddfa, ac y cymerodd hi: ac efe a’i cysurodd hi â geiriau heddychlon, ac a ddywedodd wrthi,
9Esther, beth yw’r mater? dy frawd di ydwyf fi: cymer gysur.
10Ni roddir di i farwolaeth, oblegid cyffredin yw ein gorchymyn ni: tyred yma.
11Ac efe a gododd y wialen aur, ac a’i gosododd ar ei gwddf hi:
12Ac efe a’i cofleidiodd hi, ac a ddywedodd, Llefara wrthyf fi.
13Hithau a ddywedodd wrtho ef, O arglwydd, mi a’th welwn fel angel Duw, a’m calon a gyffrôdd rhag ofn dy ogoniant:
14Oblegid rhyfeddol ydwyt ti, O arglwydd; a’th wyneb sydd yn llawn gras.
15A thra’r oedd hi yn llefaru, hi a syrthiodd yn ei llewyg.
16Yna y trallodwyd y brenin; a’i weision oll a’i cysurasant hi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
