2 Brenhinoedd 19 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A phan glybu y brenin Heseceia hynny, efe a rwygodd ei ddillad, ac a ymwisgodd â sachliain, ac a aeth i mewn i dŷ yr ARGLWYDD.

2Ac efe a anfonodd Eliacim, yr hwn oedd benteulu, a Sebna yr ysgrifennydd, a henuriaid yr offeiriaid, wedi ymwisgo mewn sachliain, at Eseia y proffwyd mab Amos.

3A hwy a ddywedasant wrtho ef, Fel hyn y dywed Heseceia, Diwrnod cyfyngdra, a cherydd, a chabledd yw y dydd hwn: canys y plant a ddaethant hyd yr enedigaeth, ond nid oes grym i esgor.

4Fe allai y gwrendy yr ARGLWYDD dy DDUW holl eiriau Rabsace, yr hwn a anfonodd brenin Asyria ei feistr ef i gablu y DUW byw, ac y cerydda efe y geiriau a glybu yr ARGLWYDD dy DDUW: am hynny dyrcha dy weddi dros y gweddill sydd i’w gael.

5Felly gweision y brenin Heseceia a ddaethant at Eseia.

6Ac Eseia a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywedwch wrth eich meistr, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Nac ofna y geiriau a glywaist, trwy y rhai y cablodd gweision brenin Asyria fi.

7Wele fi yn rhoddi arno ef wynt, ac efe a glyw sŵn, ac a ddychwel i’w wlad: gwnaf hefyd iddo syrthio gan y cleddyf yn ei wlad ei hun.

8Yna y dychwelodd Rabsace, ac a gafodd frenin Asyria yn ymladd yn erbyn Libna: canys efe a glywsai fyned ohono ef ymaith o Lachis.

9A phan glybu efe am Tirhaca brenin Ethiopia, gan ddywedyd, Wele, efe a ddaeth allan i ryfela â thi; efe a anfonodd genhadau drachefn at Heseceia, gan ddywedyd,

10Fel hyn y lleferwch wrth Heseceia brenin Jwda, gan ddywedyd, Na thwylled dy DDUW di, yr hwn yr wyt yn ymddiried ynddo, gan ddywedyd, Ni roddir Jerwsalem yn llaw brenin Asyria.

11Wele, ti a glywaist yr hyn a wnaeth brenhinoedd Asyria i’r holl wledydd, gan eu difrodi hwynt: ac a waredir di?

12A waredodd duwiau y cenhedloedd hwynt, y rhai a ddarfu i’m tadau i eu dinistrio; sef Gosan, a Haran, a Reseff, a meibion Eden y rhai oedd o fewn Thelasar?

13Mae brenin Hamath, a brenin Arpad, a brenin dinas Seffarfaim, Hena, ac Ifa?

14A Heseceia a gymerodd y llythyrau o law y cenhadau, ac a’u darllenodd hwy: a Heseceia a aeth i fyny i dŷ yr ARGLWYDD, ac a’u lledodd hwynt gerbron yr ARGLWYDD.

15A Heseceia a weddïodd gerbron yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, O ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn wyt yn trigo rhwng y ceriwbiaid, tydi sydd DDUW, tydi yn unig, i holl deyrnasoedd y ddaear; ti a wnaethost y nefoedd a’r ddaear.

16Gogwydda, ARGLWYDD, dy glust, a gwrando: agor dy lygaid, ARGLWYDD, ac edrych; a gwrando eiriau Senacherib, yr hwn a anfonodd i ddifenwi y DUW byw.

17Gwir yw, O ARGLWYDD, i frenhinoedd Asyria ddifa’r holl genhedloedd a’u tir,

18A rhoddi eu duwiau hwynt yn tân: canys nid oeddynt hwy dduwiau, eithr gwaith dwylo dyn, o goed a maen: am hynny y dinistriasant hwynt.

19Yn awr gan hynny, O ARGLWYDD ein DUW ni, achub ni, atolwg, o’i law ef, fel y gwypo holl deyrnasoedd y ddaear mai tydi yw yr ARGLWYDD DDUW, tydi yn unig.

20Yna Eseia mab Amos a anfonodd at Heseceia, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel, Gwrandewais ar yr hyn a weddïaist arnaf fi yn erbyn Senacherib brenin Assyria.

21Dyma y gair a lefarodd yr ARGLWYDD yn ei erbyn ef, Y forwyn merch Seion a’th ddirmygodd di, ac a’th watwarodd; merch Jerwsalem a ysgydwodd ben ar dy ôl di.

22Pwy a ddifenwaist ti, ac a geblaist? ac yn erbyn pwy y dyrchefaist ti dy lef, ac y codaist yn uchel dy lygaid? yn erbyn Sanct Israel.

23Trwy law dy genhadau y ceblaist ti yr ARGLWYDD, ac y dywedaist, Â lliaws fy ngherbydau y dringais i uchelder y mynyddoedd, i ystlysau Libanus; a mi a dorraf uchelder ei gedrwydd ef, a’i ddewis ffynidwydd ef, af hefyd i’w lety eithaf, ac i goedwig ei ddoldir ef.

24Myfi a gloddiais, ac a yfais ddyfroedd dieithr, ac â gwadnau fy nhraed y dihysbyddais holl afonydd y gwarchaeëdig.

25Oni chlywaist ti ddarparu ohonof fi hyn er ys talm, ac i mi lunio hynny er y dyddiau gynt? yn awr y dygais hynny i ben, fel y byddit i ddinistrio dinasoedd caerog yn garneddau dinistriol.

26Am hynny eu trigolion yn gwtoglaw a ddychrynwyd, ac a gywilyddiwyd: oeddynt megis gwellt y maes, fel gwyrddlysiau, neu laswelltyn ar bennau tai, neu ŷd wedi deifio cyn aeddfedu.

27Dy eisteddiad hefyd, a’th fynediad allan, a’th ddyfodiad i mewn, a adnabûm i, a’th gynddeiriogrwydd i’m herbyn.

28Am i ti ymgynddeiriogi i’m herbyn, ac i’th ddadwrdd ddyfod i fyny i’m clustiau i; am hynny y gosodaf fy mach yn dy ffroen, a’m ffrwyn yn dy weflau, ac a’th ddychwelaf di ar hyd yr un ffordd ag y daethost.

29A hyn fydd yn argoel i ti, O Heseceia: Y flwyddyn hon y bwytei a dyfo ohono ei hun, ac yn yr ail flwyddyn yr atwf; ac yn y drydedd flwyddyn heuwch, a medwch, plennwch winllannoedd hefyd, a bwytewch eu ffrwyth hwynt.

30A’r gweddill o dŷ Jwda yr hwn a adewir, a wreiddia eilwaith i waered, ac a ddwg ffrwyth i fyny.

31Canys gweddill a â allan o Jerwsalem, a’r rhai dihangol o fynydd Seion: sêl ARGLWYDD y lluoedd a wna hyn.

32Am hynny fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD am frenin Asyria, Ni ddaw efe i’r ddinas hon, ac nid ergydia saeth yno; hefyd ni ddaw efe o’i blaen hi â tharian, ac ni fwrw glawdd i’w herbyn hi.

33Ar hyd yr un ffordd ag y daeth, y dychwel efe, ac ni ddaw i mewn i’r ddinas hon, medd yr ARGLWYDD.

34Canys mi a ddiffynnaf y ddinas hon, i’w chadw hi er fy mwyn fy hun, ac er mwyn Dafydd fy ngwas.

35A’r noson honno yr aeth angel yr ARGLWYDD, ac a drawodd yng ngwersyll yr Asyriaid bump a phedwar ugain a chant o filoedd: a phan gyfodasant yn fore drannoeth, wele hwynt oll yn gelaneddau meirwon.

36Felly Senacherib brenin Asyria a ymadawodd, ac a aeth ymaith, ac a ddychwelodd, ac a drigodd yn Ninefe.

37A bu, fel yr oedd efe yn addoli yn nhŷ Nisroch ei dduw, i Adrammelech a Sareser ei feibion ei ladd ef â’r cleddyf; a hwy a ddianghasant i wlad Armenia: ac Esarhadon ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help