I Macabeiad 9 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 9

1A phan glybu Demetrius ladd Nicanor a’i lu mewn rhyfel, efe a aeth rhagddo, ac a ddanfonodd Bacchides ac Alcimus drachefn i Jwdea, a chadernid ei lu gyda hwynt.

2A hwy a aethant allan ar hyd y ffordd sydd yn myned tua Galgala, ac a wersyllasant o flaen Masaloth, yr hon sy yn Arbela, ac a’i henillasant hi, ac a laddasant lawer o bobl.

3Y mis cyntaf hefyd o’r ddeuddegfed flwyddyn a deugain a chant, hwy a wersyllasant o flaen Jerwsalem.

4Ond gan gyfodi’r gwersyll i fyny, hwy a aethant i Berea, ag ugain mil o wŷr traed, a dwy fil o wŷr meirch.

5Jwdas yntau a wersyllasai yn Eleasa, a thair mil o wŷr detholedig gydag ef.

6A phan welsant hwy luosowgrwydd y llu arall, ei fod ef cymaint, hwy a ofnasant yn ddirfawr; a llawer a dynasant allan o’r gwersyll, ac nid arhodd yno ond wyth gant o wŷr.

7Pan welodd Jwdas fod ei lu ef wedi cilio, a’r rhyfel yn pwyso arno, efe a fawr drallodwyd yn ei galon o eisiau caffael amser i’w casglu hwy ynghyd, ac a ddigalonnodd.

8Eto efe a ddywedodd wrth y rhai a drigasent gydag ef, Cyfodwn, ac awn yn erbyn ein gelynion; nid hwyrach y gallwn ymladd â hwynt.

9Ond hwy a fynasent ei droi ef, gan ddywedyd, Ni allwn ni ddim: am hynny achubwn ein heinioes yn awr; ac yn ôl hyn ni a ddychwelwn ynghyd â’n brodyr, ac a ymladdwn yn eu herbyn hwy: canys nid ydym ni ond ychydig.

10Yna Jwdas a ddywedodd, Na adawo Duw i mi wneuthur hyn, a ffoi oddi wrthynt hwy; am hynny os ein hamser ni a ddaeth, gedwch i ni farw fel gwŷr dros ein brodyr, ac na adawn fai yn y byd ar ein gogoniant.

11A llu Bacchides a aeth allan o’r gwersyll, ac a safodd yn eu herbyn hwy; a’r gwŷr meirch a gyfranned yn ddwy ran: y taflyddion a’r saethyddion a gerddasant o flaen y llu; a’r rhai oll oedd yn blaenori y llu oeddynt wŷr cryfion.

12A Bacchides ei hun oedd yn yr adain ddeau: a’r fyddin a nesaodd ar y ddeutu, a hwy a ganasant yr utgyrn.

13Gwŷr Jwdas a ganasant yr utgyrn hefyd, a’r ddaear a ysgydwodd wrth dwrf y lluoedd: a hwy a drawsant ynghyd o’r bore hyd y nos.

14A phan welodd Jwdas fod Bacchides a chryfder ei lu ar y tu deau, efe a gymerodd yr holl wŷr calonnog gydag ef,

15Ac a ddrylliodd adain ddeau eu byddin hwy, ac a’i herlidiodd hyd ym mynydd Asotus.

16Pan welodd y rhai oedd yn yr adain aswy fod y rhai o’r adain ddeau wedi eu dryllio, hwy a ganlynasant ar Jwdas a’i wŷr, wrth eu sodlau, o’r tu ôl.

17Ac yna yr aeth y rhyfel yn frwd, a llawer a laddwyd ac a archollwyd o’r ddwy blaid.

18Jwdas hefyd a laddwyd, a’r lleill a ffoesant.

19A Jonathan a Simon a gymerasant Jwdas eu brawd, ac a’i claddasant ef ym medd ei dadau ym Modin.

20A hwy a wylasant; a holl bobl Israel a wnaethant farwnad fawr amdano ef, ac a alarasant dros ddyddiau lawer, gan ddywedyd,

21Pa fodd y cwympodd y gŵr galluog oedd yn achub Israel!

22Ond ni sgrifennwyd y pethau eraill oedd yn perthyn i Jwdas, a’i ryfeloedd, a’i weithredoedd ardderchog, a’i fawredd ef; canys llawer iawn oeddynt hwy.

23Wedi marw Jwdas, dynion drygionus a ddyrchafasant eu pennau o fewn holl derfynau Israel, a phawb a’r oeddynt yn gwneuthur anwiredd a gyfodasant.

24Yr oedd newyn mawr iawn yn y dyddiau hynny, a’r holl wlad a ymadawodd ar eu hôl hwynt.

25A Bacchides a ddewisodd wŷr annuwiol, ac a’u gwnaeth hwy yn arglwyddi ar y wlad.

26Y rhai hynny a geisiasant ac a chwiliasant am garedigion Jwdas, ac a’u dygasant hwy at Bacchides, ac efe a ddialodd arnynt, ac a’u gwatwarodd hwy yn ddirfawr.

27A chystudd mawr a ddigwyddodd yn Israel; ni bu y fath er pan ni welwyd proffwyd yn eu plith hwy.

28A holl garedigion Jwdas a ymgasglasant, ac a ddywedasant wrth Jonathan,

29Er pen fu farw dy frawd Jwdas, nid oes gennym neb tebyg iddo ef i fyned allan yn erbyn ein gelynion, a Bacchides, ac yn erbyn y rhai o’n cenedl sydd elynion i ni.

30Am hynny nyni a’th ddewisasom di heddiw yn ei le ef, i fod yn dywysog ac yn gapten i ni, i ymladd ein rhyfeloedd.

31A Jonathan a gymerodd y dywysogaeth arno yr amser hwnnw, ac a gododd i fyny yn lle Jwdas ei frawd.

32Pan wybu Bacchides hynny, efe a geisiodd ei ladd ef.

33Ond Jonathan a Simon ei frawd, a phawb a’r oedd gyda hwy, a wybuant hyn, ac a ffoesant i anialwch Thecöe, ac a wersyllasant wrth ddwfr llyn Asffar.

34Pan ddeallodd Bacchides hynny, efe a ddaeth â’i holl lu yn agos i’r Iorddonen ar y dydd Saboth.

35A Jonathan a ddanfonasai ei frawd Ioan capten y bobl, i ddymuno ar ei garedigion y Nabathiaid, gaffael ohonynt hwy adael eu hoffer gyda hwy i’w cadw, oblegid yr oedd llawer ganddynt.

36Ond plant Jambri a ddaethant allan o Medaba, ac a ddaliasant Ioan, a’r holl bethau oedd ganddo ef, ac a aethant ymaith â hwynt ganddynt.

37Yn ôl y pethau hyn y daeth gair i Jonathan ac i Simon ei frawd, fod plant Jambri yn gwneuthur neithior fawr, ac yn dwyn y ferch o Medaba â chynhebrwng mawr, oblegid merch oedd hi i un o benaethiaid mawrion Canaan.

38Yna hwy a gofiasant Ioan eu brawd, ac a aethant i fyny, ac a ymguddiasant yng nghysgod y mynydd.

39A hwy a godasant eu golwg i fyny, ac a edrychasant, ac wele, yr oedd trwst ac arlwy mawr: a’r priodasfab a ddaethai allan â’i garedigion, ac â’i frodyr, i’w cyfarfod hwy, â thympanau, ag offer cerdd, ac ag arfau lawer.

40Yna Jonathan a’r rhai oedd gydag ef a godasant i fyny allan o’u llochesau yn eu herbyn hwy, ac a laddasant lawer ohonynt, a’r lleill a ffoesant i’r mynydd: a hwy a gymerasant eu holl ysbail hwy.

41Felly y briodas a droed yn alar, a llais eu cerddorion hwy yn farwnad.

42Ac felly wedi iddynt lwyr ddial gwaed eu brawd, hwy a ddychwelasant i oror yr Iorddonen.

43Pan glybu Bacchides hynny, efe a ddaeth i lan yr Iorddonen â llu mawr, ar y dydd Saboth.

44A Jonathan a ddywedodd wrth y rhai oedd gydag ef, Cyfodwn heddiw i fyny, ac ymladdwn am ein heneidiau: canys nid ydym heddiw yn sefyll yn yr un cyflwr ag yr oeddem er ys dyddiau:

45Wele, y mae’r rhyfel o’n blaen ac o’n hôl ni, a dwfr yr Iorddonen o’r naill du, ac o’r tu arall siglennydd a choedydd; ac nid oes i ni le i gilio.

46Am hynny gwaeddwch yr awr hon tua’r nef, fel yr achuber chwi o law eich gelynion.

47Ac felly hwy a drawsant ynghyd: a Jonathan a estynnodd allan ei law i daro Bacchides; ond efe a giliodd yn ôl oddi wrtho ef.

48Yna Jonathan a’r rhai oedd gydag ef a neidiasant i’r Iorddonen, ac a nofiasant drosodd i’r lan draw: ond nid âi y lleill dros yr Iorddonen ar eu hôl hwy.

49Ac ynghylch mil o wŷr Bacchides a laddwyd y diwrnod hwnnw.

50Am hynny Bacchides a ddychwelodd i Jerwsalem, ac a adeiladodd y dinasoedd cedyrn oedd yn Jwdea, a’r amddiffynfa yn Jericho, ac Emaus, a Bethoron, a Bethel, a Thamnatha, a Pharathoni, a Thaffon, â chaerau uchel, a phyrth, ac â barrau;

51Ac a osododd wŷr ynddynt i’w cadw, ac i wneuthur gelyniaeth ag Israel.

52Efe a adeiladodd gaerau ynghylch y ddinas Bethsura, a Gasara, a’r castell, ac a osododd wŷr a bwyd ynddynt.

53Efe a gymerodd hefyd feibion penaethiaid y wlad yn wystlon, ac a’u rhoddodd hwy yn y castell yn Jerwsalem i’w cadw.

54Wedi hynny, yn y drydedd flwyddyn ar ddeg a deugain a chant, yr ail mis, Alcimus a orchmynnodd iddynt dynnu i lawr gaerau cyntedd y cysegr nesaf i mewn: ac efe a dynnodd i lawr waith y proffwydi.

55Ond, ac efe yn dechrau tynnu lawr, yr amser hwnnw y trawyd Alcimus, a’i orchwyl ef a rwystred: a’i enau ef a gaewyd, ac efe a syrthiodd yn y parlys; fel na allai efe ymddiddan mwy, na gorchymyn dim ynghylch ei dŷ.

56Alcimus a fu farw yr amser hwnnw mewn gofid mawr.

57Pan welodd Bacchides farw Alcimus, efe a ddychwelodd at y brenin: a gwlad Jwdea a gafodd lonyddwch ddwy flynedd.

58Yna’r holl wŷr annuwiol a ymgyngorasant, gan ddywedyd, Wele, y mae Jonathan a’i wŷr mewn esmwythdra, ac yn trigo mewn diofalwch: am hynny dygwn Bacchides yma yn awr, ac efe a’u deil hwy oll mewn un noswaith.

59Ac felly hwy a aethant, ac a ymgyngorasant ag ef.

60Ac efe a gododd i ddyfod â llu mawr, ac a ddanfonodd lythyrau yn ddirgel at ei holl gyfeillion oedd yn Jwdea, ar iddynt ddal Jonathan a’r rhai oedd gydag ef: ond ni allent hwy, oblegid y lleill a wybuant eu bwriad hwy.

61A Jonathan a ddaliodd ddeg a deugain o wŷr y wlad, y rhai oedd flaenoriaid yn y drwg hwnnw, ac a’u lladdodd hwy.

62Yna Jonathan, a Simon, a’r rhai oedd gyda hwy, a aethant ymaith i Bethbasi, yr hon sydd yn yr anialwch; a hwy a adnewyddasant yr hyn a syrthiasai ohoni, ac a’i cadarnhasant hi.

63Pan wybu Bacchides hyn, efe a gasglodd ei holl lu, ac a ddanfonodd air i’r rhai oedd yn Jwdea.

64Yna efe a ddaeth ac a wersyllodd yn erbyn Bethbasi, ac a ymladdodd yn ei herbyn hi lawer o ddyddiau, ac a wnaeth offer rhyfel.

65A Jonathan a adawodd ei frawd Simon yn y ddinas, ac a aeth allan i’r wlad, ac a aeth â rhifedi o wŷr,

66Ac a laddodd Odonarces a’i frodyr, a meibion Phasiron yn eu lluest.

67A phan ddechreuodd efe eu taro hwynt, a dyfod i fyny â’i fyddinoedd, Simon yntau a’r rhai oedd gydag ef a aethant allan o’r ddinas, ac a losgasant yr offer rhyfel,

68Ac a ymladdasant yn erbyn Bacchides, ac a’i gorchfygasant, ac a’i cystuddiasant yn ddirfawr, am fod ei gyngor a’i daith ef yn ofer.

69Am hynny efe a fu lidiog wrth y gwŷr annuwiol a’i cyngorasent ef i ddyfod i’r wlad, ac a laddodd lawer ohonynt: yna efe a fwriadodd fyned ymaith i’w wlad ei hun.

70Pan wybu Jonathan hynny, efe a ddanfonodd genhadon ato, i wneuthur heddwch rhyngddo ac ef, ac i roddi iddynt hwy y carcharorion.

71A Bacchides a gytunodd i hynny, ac a wnaeth fel yr oedd ei ddymuniad ef, ac a dyngodd hefyd na wnâi efe niwed fyth iddo ef holl ddyddiau ei einioes;

72Ac a adferodd iddo yr holl garcharorion a ddaliasai efe o’r blaen o wlad Jwdea; ac yna efe a ddychwelodd ac a aeth ymaith i’w wlad ei hun; ac ni ddaeth efe mwy i’w terfynau hwynt.

73Ac felly y peidiodd y cleddyf yn Israel. A Jonathan a drigodd ym Machmas, ac a ddechreuodd farnu’r bobl: ac efe a ddiwreiddiodd y rhai annuwiol allan o Israel.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help